Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfraddau Credyd Pensiwn a Phensiwn y Wladwriaeth: faint allwch chi ei gael?

Mae mathau gwahanol o Bensiwn y Wladwriaeth ar gael, a bydd y gyfradd a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd eich hawl i gael Credyd Pensiwn hefyd yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol. Yma, cewch wybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch chi ei gael, a beth yw’r gyfradd ar gyfer Credyd Pensiwn yn 2012-2013.

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth – beth yw’r gyfradd?

Mae’r tabl canlynol yn rhoi trosolwg syml o uchafswm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch chi ei gael.

Amgylchiadau

Cyfradd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth wythnosol ar gyfer 2012-13

Dyn neu fenyw sengl

£107.45

Partner sifil neu ddyn neu fenyw briod (sy’n gymwys gyda’i g/chyfraniadau Yswiriant Gwladol ei hun)

£107.45

Partner sifil neu ddyn neu fenyw briod (sy’n defnyddio cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol ei bartner sifil, ei wraig neu’i gŵr)

£64.40

Sut y gallaf fod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Bydd eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd cymhwyso yr ydych wedi’u cronni o ganlyniad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

I gael gwybod rhagor am fod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, gweler ‘Bod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth’.

Faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth sydd gen i hyd yma?

Gallwch ddefnyddio amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth i gyfrifo faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y mae’n bosib sydd gennych, yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma.

Sut mae cyfraddau Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn?

O Ebrill bob blwyddyn, mae cyfraddau Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu yn unol â’r cynnydd mewn cyflogau ar gyfartaledd. Polisi presennol y Llywodraeth yw y bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn yn ôl pa un bynnag o’r canlynol fydd uchaf:

  • cynnydd mewn cyflogau ar gyfartaledd
  • cynnydd mewn prisiau neu
  • 2.5 y cant

Felly yn 2012-13 bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cynyddu yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth – beth yw’r gyfradd?

Weithiau, gelwir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn SERPS neu’n Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P).

Ni all pawb gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, a bydd faint allwch chi ei gael yn dibynnu ar eich enillion.

Gweler ‘Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’ i gael gwybod rhagor.

Sut mae cyfraddau Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn?

Bydd rhannau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth yn codi yn unol â’r cynnydd mewn prisiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P)
  • Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS)
  • Budd-dal Ymddeol Graddedig
  • Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a geir am ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn ‘gynyddrannau’)

Nes byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr SP2 neu’r SERPS y byddwch wedi’i gronni fel arfer yn cynyddu yn unol â'r cynnydd mewn enillion ar gyfartaledd. Gelwir hyn hefyd yn ‘ailbrisio’.

Pensiwn i Rai Dros 80 – beth yw’r gyfradd?

Mae’r Pensiwn i Rai Dros 80 yn Bensiwn y Wladwriaeth sydd ar gael i chi os ydych chi dros 80 mlwydd oed a heb lawr neu heb ddim Pensiwn y Wladwriaeth.

£61.20 yr wythnos yw’r gyfradd i bob unigolyn ar gyfer 2011-12, os nad ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Bydd hefyd yn ychwanegu at eich incwm fel eich bod yn cael hyd at £61.20 os ydych chi’n cael Pensiwn y Wladwriaeth is.

I gael gwybod rhagor, gweler ‘Y Pensiwn i Rai Dros 80’.

Credyd Pensiwn – beth yw’r gyfradd?

Os ydych chi’n bensiynwr sy’n byw ym Mhrydain Fawr, yn 2011-12, gallai’r Credyd Pensiwn ychwanegu at eich incwm wythnosol gan roi i chi isafswm sicr o:

  • £137.35 os ydych yn sengl
  • £209.70 os oes gennych bartner

Os ydych chi dros 65 mlwydd oed, mae’n bosib y gallech gael symiau ychwanegol o hyd at:

  • £20.52 yr wythnos os ydych yn sengl
  • £27.09 yr wythnos os oes gennych bartner

I gael gwybod a allech chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, gweler ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.

Bydd yr oedran y byddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn yn codi’n raddol o 60 i 65 rhwng mis Ebrill 2010 a mis Ebrill 2020. Os ydych chi am gael gwybod pryd y gallech chi hawlio Credyd Pensiwn, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Sut mae cyfraddau Credyd Pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn?

Bydd yr isafswm sicr y gallai Credyd Pensiwn ei ychwanegu at eich incwm wythnosol fel arfer yn cynyddu yn unol â’r cynnydd mewn enillion yn y DU ar gyfartaledd.

Ym mis Ebrill 2011 bydd yn codi fel eich bod yn cael o leiaf yr un swm o arian â Phensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Sut mae mesur cynnydd mewn prisiau

O Ebrill 2011 ymlaen, bydd y llywodraeth yn defnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i fesur prisiau.

Bydd hyn yn newid faint fydd y rhan fwyaf o fudd-daliadau a phensiynau yn cynyddu bob blwyddyn.

Bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu fel eich bod yn cael swm sy’n gyfwerth â’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) o leiaf ym mis Ebrill 2011. Diben hyn yw gwneud yn siŵr bod ei werth o leiaf mor hael ag o dan reolau blaenorol.

Defnyddir y CPI a’r RPI gan y llywodraeth a chan economegwyr er mwyn cyfrifo faint mae prisiau’n cynyddu bob blwyddyn.

Pensiynau cwmni a phersonol – beth yw’r gyfradd?

I gael gwybod faint o bensiwn personol y gallech ei gael, gweler ‘Deall pensiynau personol’.

I gael gwybod faint o bensiwn cwmni y gallech ei gael, gweler ‘Opsiynau pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn cwmni’.

Rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid mewn amgylchiadau

Yma cewch wybod beth y mae angen i chi roi gwybod amdano, megis newid cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU