Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei ddarparu gan y llywodraeth, a gall roi arian ychwanegol i chi ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Efallai fod gennych bensiwn sy’n golygu eich bod wedi cael eich contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Yma cewch fwy o wybodaeth am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a beth yw ystyr contractio allan.
Efallai eich bod yn cyfrannu at neu’n derbyn credydau tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac os ydych:
Os ydych yn gyflogedig a bod gennych bensiwn, efallai y cewch eich contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. O ganlyniad, mae’n debygol nad ydych yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Cewch fwy o wybodaeth isod yn ‘Contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’.
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth wedi cael ei adnabod wrth enwau gwahanol yn y gorffennol. Roeddech chi’n arfer cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth drwy’r Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS).
Pan y cyfrifir yr hawl i’r pensiwn ychwanegol, caiff yr incwm y mae’n seiliedig arno eu hadbrisio yn unol â’r cynnydd yn yr enillion cyfartalog.
Gweler ‘SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod mwy.
Etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
Os bydd eich priod neu’ch partner sifil yn marw, efallai y gallwch etifeddu rhywfaint o’u Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gweler ‘SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gellir etifeddu.
Os ydych yn gyflogedig gydag enillion blynyddol yn uwch na swm penodol (£5,564 yn 2012/13), efallai y gallwch ddewis i adael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gallwch ymuno â phensiwn personol yn lle. Gelwir hyn yn ‘gontractio allan’. Nid yw’n bosib gadael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Os oes gennych bensiwn cwmni, dylai’ch cyflogwr ddweud wrthych a yw wedi cael ei gontractio allan.
Gweler y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi hen bensiwn ond na allwch gofio’r manylion, efallai y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.
Efallai na fyddwch yn gymwys i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau neu gredydau yn ystod cyfnodau ble y mae un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
Mae’n bosib y cewch chi gredydau tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth pan nad ydych yn gweithio, ond ni fyddwch yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Mewn rhai achosion, os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, ni fyddwch yn cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych ag hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, dylech ei gael wrth hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Gweler ‘Hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth’ i gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gallwch ei hawlio pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod pryd y byddwch chi'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch hefyd ddewis hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn nes ymlaen. Gweler 'Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth' i gael gwybod mwy.
Mae rhannau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth yn codi’n unol â’r cynnydd. Mae'r rhain yn cynnwys:
Hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion yr ydych wedi cronni yn cynyddu’n raddol gyda’r cynnydd mewn enillion cyfartalog. Mae hwn hefyd yn cael ei hadnabod fel ailbrisio.
Yma cewch wybod beth y mae angen i chi roi gwybod amdano, megis newid cyfeiriad neu fanylion banc.