Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) oedd yr hen enw ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Ym mis Ebrill 2002, newidiwyd yr enw i Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Yma, cewch wybod mwy am SERPS, Ail Bensiwn y Wladwriaeth a’r rheolau ynghylch etifeddu'r mathau hyn o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS)

Hyd at fis Ebrill 2002, Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) oedd enw Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer cyflogeion.

Roedd y swm o bensiwn SERPS yr oeddech yn ei gael yn seiliedig ar y canlynol:

  • eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • faint yr oeddech yn ei ennill

Etifeddu SERPS eich partner priod neu’ch partner sifil

Bydd y swm o bensiwn SERPS y gallech ei etifeddu yn dibynnu ar ddyddiad geni’r sawl a fu farw. Defnyddiwch y tabl canlynol i weld sut y gallai hyn effeithio arnoch chi.

Yr uchafswm o bensiwn SERPS y gallai gwraig neu bartner sifil dyn ei etifeddu

Dyddiad geni'r dyn

Y canran uchaf o bensiwn SERPS y gallai gwraig neu bartner sifil y dyn ei etifeddu

5 Hydref 1937 neu cyn hynny

100 y cant

Rhwng 6 Hydref 1937 a 5 Hydref 1939

90 y cant

Rhwng 6 Hydref 1939 a 5 Hydref 1941

80 y cant

Rhwng 6 Hydref 1941 a 5 Hydref 1943

70 y cant

Rhwng 6 Hydref 1943 a 5 Hydref 1945

60 y cant

6 Hydref 1945 ac ar ôl hynny

50 y cant


Yr uchafswm o bensiwn SERPS y gallai gŵr neu bartner sifil menyw ei etifeddu

Dyddiad geni'r fenyw

Y canran uchaf o bensiwn SERPS y gallai gŵr neu bartner sifil y fenyw ei etifeddu

5 Hydref 1942 neu cyn hynny

100 y cant

Rhwng 6 Hydref 1942 a 5 Hydref 1944

90 y cant

Rhwng 6 Hydref 1944 a 5 Hydref 1946

80 y cant

Rhwng 6 Hydref 1946 a 5 Hydref 1948

70 y cant

Rhwng 6 Hydref 1948 a 5 Hydref 1950

60 y cant

6 Hydref 1950 ac ar ôl hynny

50 y cant

Ceir terfyn ar y swm o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael. Mae hyn yn gyfuniad o’ch pensiwn ychwanegol chi ac unrhyw bensiwn ychwanegol a etifeddwyd gennych. Caiff yr uchafswm ei adolygu bob blwyddyn a’i weithredu ar y dyddiad y bydd yr hawl i gael pensiwn ychwanegol a etifeddwyd yn codi am y tro cyntaf. Rhwng Ebrill 2012 ac Ebrill 2013, £161.94 yr wythnos yw uchafswm Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Ym mis Ebrill 2002, cafodd enw Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ei newid o SERPS i Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn fwy hael ar gyfer y rheini sy'n ennill cyflogau isel neu ganolig, rhai gofalwyr a phobl ag anabledd neu salwch hirdymor.

Etifeddu Ail Bensiwn y Wladwriaeth gan bartner priod neu bartner sifil

Dim ond uchafswm o 50 y cant o Ail Bensiwn y Wladwriaeth partner priod neu bartner sifil y gall gŵr, gwraig neu bartner sifil gweddw ei etifeddu.

Ceir terfyn ar y swm o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael. Mae hyn yn gyfuniad o’ch pensiwn ychwanegol chi ac unrhyw bensiwn ychwanegol a etifeddwyd gennych. Caiff yr uchafswm ei adolygu bob blwyddyn a’i weithredu ar y dyddiad y bydd yr hawl i gael pensiwn ychwanegol a etifeddwyd yn codi am y tro cyntaf. Rhwng Ebrill 2012 ac Ebrill 2013, £161.94 yr wythnos yw uchafswm Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Yma, cewch wybod a allwch chi gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu a ydych chi wedi cael eich 'contractio allan'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU