Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Pensiwn i Rai Dros 80

Pensiwn y Wladwriaeth yw'r Pensiwn i bobl sy'n 80 oed neu'n hŷn nad ydynt yn derbyn dim neu brin ddim Pensiwn Gwladwriaeth cyffredin. Yn wahanol i Bensiynau eraill y Wladwriaeth, nid yw wedi'i seilio ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Pwy sy'n gymwys?

Cewch hawlio hwn os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:

  • eich bod yn 80 neu’n hŷn
  • nid ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, neu mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £64.40 yr wythnos yn 2012-13
  • os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban a'ch bod wedi gwneud hynny ers deng mlynedd neu fwy mewn unrhyw gyfnod di-dor o 20 mlynedd gan gynnwys y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 80 oed neu unrhyw ddiwrnod wedyn

Faint ydyw?

Byddwch yn cael £64.40 yr wythnos yn 2012-13 os nad ydych chi'n derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Os ydych chi'n derbyn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth is, fe gewch y gwahaniaeth rhwng y swm is hwn a £64.40 yr wythnos yn 2012-13.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir pob budd-dal, pensiwn a lwfans i’r cyfrif o’ch dewis, er enghraifft, eich cyfrif banc. Dyma’r dull mwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o dalu.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen gofalwr arnoch, gallwch gael cynorthwywr i gasglu eich pensiynau/budd-daliadau ar eich cyfer.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Mae'r Pensiwn i rai Dros 80 oed, fel sy'n wir am bob pensiwn, yn incwm trethadwy, ac felly, fe all effeithio ar fudd-daliadau eraill a gewch chi sy'n gysylltiedig ag incwm.

Rhaid i chi gynnwys y Pensiwn i rai Dros 80 fel incwm os ydych chi'n hawlio budd-daliadau eraill.

Sut i hawlio

Os ydych yn gymwys ac o fewn tri mis i’ch pen-blwydd yn 80 oed, gallwch gael ffurflen hawlio o’ch:

  • canolfan bensiynau
  • Canolfan Byd Gwaith lleol

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Petai eich amgylchiadau'n newid, fe allai hynny effeithio ar eich hawl i gael y Pensiwn i rai Dros 80.

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os byddwch chi’n:

  • mynd i'r ysbyty (neu'n gadael yr ysbyty) neu i gartref gofal a noddir gan yr awdurdod iechyd
  • mynd y tu allan i’r DU i fyw dramor neu am ymweliad hir

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych fwy o gwestiynau am y Pensiwn i rai Dros 80, ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 606 0265, neu'r linell Gymraeg ar 0845 606 0275. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am ac 8.00 pm.

Allweddumynediad llywodraeth y DU