Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Kindertransport

Daeth y ‘Kindertransport’ â grwpiau o blant i’r DU o'r Almaen, Awstria, Gwlad Pwyl a Tsiecoslofacia yn union cyn yr Ail Ryfel Byd oedd y ‘Kindertransport’. Cyfrannodd y rheini a arhosodd ym Mhrydain tuag at Bensiwn y Wladwriaeth Prydain a gallent gael budd o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn 2008.

Mwy am y plant Kindertransport

Daeth plant y Kindertransport i’r DU fel ffoaduriaid, ar ôl i'w dinasyddiaeth Almaenig gael ei dwyn oddi arnynt.

Arhosodd rhai ohonynt ym y DU ac aeth eraill i wledydd eraill, gan gynnwys UDA a Chanada.

Beth ddigwyddodd i'r rheini a arhosodd ym Mhrydain?

Daeth y rheini a arhosodd ym y DU yn ddinasyddion y DU, gan dalu yswiriant tuag at Bensiwn y Wladwriaeth y DU.

Dechreuodd y Cynllun Yswiriant Gwladol y DU newydd ar 5 Gorffennaf 1948.

Cafodd llawer o bobl a oedd wedi'u hyswirio dan yr hen gynllun yswiriant yn y DU cyn 1948 yswiriant hyd at y dyddiad dechrau hwn.

Beth y mae’r Almaen wedi ei wneud i grŵp y Kindertransport?

Ar ddechrau'r 1990au, penderfynodd yr Almaen roi pensiwn y wladwriaeth yr Almaen i grŵp y Kindertransport.

Roedd yn rhaid i bobl nad oedd ganddynt hanes o yswiriant yn yr Almaen ailafael yn eu dinasyddiaeth Almaenig a gwneud cyfraniad gwirfoddol at gynllun Pensiwn y Wladwriaeth yr Almaen.

Cawsant hefyd gyfnodau a oedd yn cyfrif fel yswiriant tuag at hawl i Bensiwn yr Almaen.

Roedd hyn naill ai o'r adeg yr oeddynt yn 14 oed neu o 1939 (pa un bynnag oedd y diweddaraf) hyd at 31 Rhagfyr 1949.

Newid i bensiynau grŵp y Kindertransport

I rai pobl, arweiniodd yr amser a dreuliasant yn talu i system cynllun yswiriant y DU cyn 1948 at lai o bensiwn yr Almaen.

Roedd hyn oherwydd rheolau nawdd cymdeithasol y Gymuned Ewropeaidd ar sut y mae cyfnodau o yswiriant mewn gwahanol wledydd yn effeithio ar ei gilydd.

Cafodd hwn ei atal gan Fesur Pensiynau'r DU 2008 drwy gael gwared ar y cyfnod o yswiriant yn y DU cyn 1948 sy'n gorgyffwrdd, ond dim ond ar gais.

Golyga hyn, mewn sawl achos, fod pensiwn y wladwriaeth yr Almaen yn fwy, ond y bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y DU yn aros yr un fath ag y mae yn awr.

Pwy allai gael budd o hyn?

Efallai y gallech gael budd os mae’r ddau ddatganiad canlynol yn wir:

  • daethoch chi i'r DU ar 31 Mai 1940 neu cyn hynny o'r Almaen, Awstria, Tsiecoslofacia neu Wlad Pwyl
  • mae gennych hawl i bensiwn y wladwriaeth yr Almaen y mae yswiriant y DU yn ei leihau neu'n ei ddileu cyn 6 Ebrill 1948

Mae'n bosib y bydd gwŷr a gwragedd, sy'n dal yn fyw, yn gallu cael budd hefyd.

Fe allai plant unrhyw un yr effeithiwyd arno gael budd hefyd, yn dibynnu ar faint yn ôl y bu farw eu rhiant.

Os ydych chi'n meddwl bod y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol:

Y Ganolfan Bensiynau Ryngwladol
Tyneview Park
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Y Deyrnas Unedig

Ffôn: 0191 21 87777 neu +44 191 21 87777 (os ydych chi'n ffonio o'r tu allan i'r DU)

Allweddumynediad llywodraeth y DU