Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth – hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn nes ymlaen

Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallech naill ai ennill rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth neu gael un taliad unswm trethadwy. Bydd gwybod pa opsiynau sydd gennych yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwell pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth yw gohirio Pensiwn y Wladwriaeth?

Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i weithio neu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Cewch ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Hefyd, fe gewch ddewis peidio â'i hawlio ar ôl ei hawlio am gyfnod.

Nid yw'r oedran y byddwch yn ymddeol o'r gwaith yn effeithio ar y dyddiad y cewch chi ddechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Mwy o ddewis wrth ohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Mae pobl bellach yn byw'n hwy ac yn byw bywydau mwy iach, felly mae'n gwneud synnwyr i'w gwneud yn haws gweithio'n hyblyg ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Er 6 Ebrill 2005, os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (ni waeth a ydych chi'n gweithio ai peidio) cewch ddewis un o'r opsiynau canlynol pan fyddwch yn ei hawlio.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf pum wythnos, fe allwch ennill cynnydd ar Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd y cynnydd yn un y cant am bob pum wythnos y byddwch chi'n gohirio hawlio.

Unwaith i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, bydd unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yr ydych wedi ei gronni fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn.

Hawlio taliad unswm

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth yn ddi-dor am o leiaf 12 mis, efallai y byddwch yn dewis cael un taliad unswm. Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth hefyd yn cael ei dalu ar y gyfradd arferol. I fod yn gymwys am hwn, mae’n rhaid bod eich oediad mewn hawlio i gyd fod wedi cwympo ar ôl 5 Ebrill 2005.

Ni fyddwch yn cronni unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth neu daliad unswm os ydych chi neu’ch partner yn derbyn budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol pan yr ydych chi wedi gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth os cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2005?

Os nad ydych wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth eto, fe gewch gynnydd ar gyfer y cyfnod hyd at 6 Ebrill 2005 pan fyddwch yn dechrau ei hawlio. Mae hyn yn seiliedig ar yr hen gyfradd o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (oddeutu 7.5 y cant ar gyfer blwyddyn gyfan). Mae hyn ar yr amod bod y cyfnod yn pum mlynedd neu lai. Does dim terfyn amser uchafswm ar gyfer y cyfnod ar ôl y dyddiad hwnnw. Byddwch yn gymwys naill ai i gael:

  • cynnydd ar sail y gyfradd newydd o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (oddeutu 10.4 y cant am flwyddyn gyfan)
  • taliad unswm (os byddwch yn parhau i ohirio'r hawliad am 12 mis arall)

Dewis gohirio Pensiwn y Wladwriaeth – beth i'w wneud

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn ysgrifennu atoch chi bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os nad ydych chi wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth eto ond eich bod yn dymuno gohirio ei hawlio, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Ond fe fydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn ynghylch beth rydych yn dymuno ei wneud, os ydych chi eisoes yn hawlio budd-dal nawdd cymdeithasol arall.

Os ydych chi eisoes yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, ond eich bod yn dymuno rhoi'r gorau i'w hawlio, dylech gysylltu â'ch canolfan bensiwn. Bydd y rhif ffôn ar unrhyw lythyrau rydych wedi’u cael gan eich canolfan bensiwn.

Byw dramor

Os ydych chi’n byw dramor a heb hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y mae’n bosib y gallech ohirio ei hawlio.

Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU ac wedi Pensiwn y Wladwriaeth eisoes ni fyddwch fel arfer yn gallu gohirio ei hawlio.

I ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth mae’n rhaid i chi fyw yn y DU neu yn un o’r gwledydd canlynol:

Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gibraltar, Gwlad Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, Y Swistir a'r Weriniaeth Tsiec.

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • dinesydd y DU
  • dinesydd un o’r gwledydd a restrwyd uchod
  • â’r hawl i fyw yn un o’r gwledydd a restrwyd uchod

Rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid yn eich amgylchiadau

Cael gwybod beth sydd angen i chi roi gwybod amdano, megis newid mewn cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU