Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Drwy ddewis gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch gael rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth. Cyn i chi benderfynu a ydych chi am ohirio, dylech chi gael gwybod mwy am fanteision cael rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth a sut mae’n effeithio ar etifeddiaeth, ar dreth ac ar fudd-daliadau eraill.

Faint o arian gewch chi?

Os byddwch chi’n dewis gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch hawlio rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi’n ei hawlio. Mae’n rhaid i chi ohirio hawlio am o leiaf pum wythnos.

Am bob pum wythnos y byddwch chi'n gohirio hawlio, bydd modd i chi ennill cynnydd o un y cant ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10.4 y cant yn ychwanegol am bob blwyddyn y byddwch chi’n gohirio hawlio. Gallwch chi fanteisio drwy ohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth am gyn lleied â phum wythnos.

Bydd y swm ychwanegol hwn o Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol. Bydd hyn yn parhau cyhyd ag y byddwch chi’n cael Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth fel arfer yn cynyddu bob mis Ebrill.

Hawlio budd-daliadau eraill

Sut mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn effeithio ar fudd-daliadau eraill

Os byddwch chi’n dewis cael rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gohirio, bydd yn cael ei drin fel unrhyw incwm arall wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y gallech chi fod yn eu cael. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal y Dreth Cyngor
  • Credydau treth

Sut mae budd-daliadau eraill yn effeithio ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, yna ni fydd rhai diwrnodau yn cyfri tuag at gronni unrhyw symiau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft:

  • os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill
  • os bydd rhywun yn cael cynnydd mewn dibyniaeth yn unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ar eich rhan

Bydd hyn ond yn berthnasol os ydych chi’n byw gyda’r unigolyn sy’n cael y cynnydd mewn dibyniaeth, oni bai ei bod nhw’n ŵr neu’n wraig i chi.

Mae’r budd-daliadau hyn yn cynnwys:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Atodiad i’r Anghyflogadwy
  • unrhyw fath o Bensiwn y Wladwriaeth

Ni fyddwch chi’n cronni unrhyw symiau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth am unrhyw ddiwrnodau y byddwch chi yn y carchar.

O fis Ebrill 2011 ymlaen, ni fydd unrhyw ddiwrnodau y byddwch chi neu’ch partner yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol yn cyfri tuag at unrhyw symiau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

Bydd y diwrnodau y cewch chi Fudd-dal Ymddeol Graddedig neu Bensiwn Ychwanegol a Rennir yn cyfri tuag at symiau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth.

Treth

Bydd eich symiau ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth yn cyfri fel incwm at ddibenion treth, yn yr un ffordd â’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddiaeth

Os byddwch chi'n marw tra rydych chi'n gohirio'ch Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gan eich gweddw neu'ch partner sifil hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Byddai hwn yn dod i rym pan fyddan nhw'n hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth eu hunain.

Efallai y bydd eich gweddw neu’ch partner sifil yn cael ychwanegu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth at ei Bensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi farw. Gallai hyn ddigwydd os oeddech chi eisoes wedi hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dewis Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth cyn eich marwolaeth.

Bydd swm Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a fydd yn daladwy i weddw neu bartner sifil yn seiliedig ar y canlynol:

  • cyfanswm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yr ymadawedig
  • rhwng 50 a 100 y cant o unrhyw Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (yn dibynnu ar y dyddiad y cyrhaeddodd yr ymadawedig oedran Pensiwn y Wladwriaeth)

Ni fydd modd i chi hawlio Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar sail cyfraniadau eich gŵr, gwraig neu bartner sifil os yw'r ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n colli eich gŵr, gwraig neu bartner sifil cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych chi'n ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Cyn 6 Ebrill 2010

Ni fydd modd i chi hawlio Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar sail cyfraniadau eich gwraig neu bartner sifil os yw'r ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n ŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi a gyrhaeddodd ei oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010
  • roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich diweddar wraig neu bartner sifil

Cyn 6 Ebrill 2010

Ni chewch hawlio rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth o gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich gwraig neu’ch partner sifil os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n ŵr neu’n bartner sifil gweddw a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010
  • nid oeddech chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu eich gwraig neu'ch partner sifil farw

Hawlio cyfandaliad

Os byddwch chi’n gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi ddewis hawlio taliad un-swm yn lle cael rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth.

Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y taliad un-swm.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU