Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n gyflogai sydd ag enillion blynyddol dros swm penodol (£5,304 yn 2011/12), gallwch ddewis gadael cynllun Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gallwch ymuno â chynllun pensiwn preifat yn lle hynny. ‘Contractio allan’ yw enw’r broses hon. Does dim modd gadael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Mae contractio allan yn gweithio wrth i chi ddewis ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol eich cyflogwr. Pan fyddwch chi’n ymuno â’r cynllun, byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is ar y gyfradd ostyngol. Pan fyddwch chi’n ymddeol, bydd eich ail bensiwn yn dod o gynllun eich cyflogwr ac nid o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn dal i gronni rhywfaint o hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd. Byddwch chi’n cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer 2011/12 os ydych chi wedi cyfrannu at bensiwn personol contractio allan ac wedi ennill llai na £14,400 yn 2011/12.
Gallwch chi hefyd gontractio allan i bensiwn rhanddeiliaid neu i bensiwn personol. Os byddwch chi’n gwneud hyn, ni fyddwch chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is. Yn lle hynny, unwaith y flwyddyn bydd Cyllid Thollau EM yn ad-dalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn uniongyrchol i'ch pensiwn. Bwriad yr ad-daliad yw darparu budd-daliadau sydd yr un fath, yn fras, â’r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth rydych chi wedi contractio allan ohono.
Gallwch chi hefyd ymuno â chynllun Pensiwn Rhanddeiliaid neu gynllun pensiwn preifat heb gontractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Os byddwch chi’n gwneud hyn, chewch chi mo’r ad-daliad. Byddwch chi fel arfer yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau i gynllun pensiwn rhanddeiliaid neu i bensiwn personol. Byddwch chi’n talu Treth Incwm ar eich enillion cyn unrhyw gyfraniad pensiwn, ond bydd y darparwr pensiwn yn hawlio treth yn ôl gan y llywodraeth ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Yn ymarferol, golyga hyn eich bod yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn am bob £80 y byddwch yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn.
Os ydych chi’n talu treth ar gyfradd uwch, gallwch hawlio’r gwahaniaeth yn ôl drwy eich ffurflen dreth neu drwy ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM.
Os ydych chi’n talu treth ychwanegol, rhaid i chi hawlio’r gwahaniaeth drwy eich ffurflen dreth.
Caiff rhai cynlluniau galwedigaethol a phensiynau personol eu trefnu ar sail ‘ad-daliad yn unig’. Mae hyn yn golygu mai’r unig arian a gaiff ei dalu i'r cynllun yw eich ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Bydd angen i chi gofio bod faint a gewch chi gyda phensiwn ‘ad-daliad yn unig’ yn seiliedig ar ba mor dda mae eich arian wedi cael ei fuddsoddi. Efallai na fydd swm y pensiwn a gewch chi gyda’ch cynllun newydd yr un fath â’r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y byddech chi wedi’i gael. Efallai y bydd angen i chi ystyried a fydd hyn yn ddigon i gefnogi’r ffordd o fyw y byddwch chi am ei gael ar ôl ymddeol.
Bydd y rheolau ar gyfer contractio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn newid yn 2012. Mae’r newidiadau’n golygu na fydd modd contractio allan drwy’r canlynol:
Os ydych chi wedi contractio allan o un o'r cynlluniau hyn ar 6 Ebrill 2012, byddwch yn dod yn ôl at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig. Byddwch yn dechrau cronni Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth o hynny ymlaen. Gallwch lawrlwytho ‘Abolition of contracting out on a defined contribution basis’ i gael gwybod mwy.
I gael gwybod beth yw pensiwn cyfraniadau diffiniedig a phwrcasu arian, darllenwch ‘Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn cwmni pan fyddwch chi’n marw’.
Os ydych chi eisoes wedi contractio allan drwy un o'r mathau o gynlluniau:
Byddwch yn dal yn cael contractio allan o gynllun galwedigaethol ar sail enillion (buddion diffiniedig). Fodd bynnag, bydd contractio allan o’r cynlluniau hyn yn cael ei adolygu yn y dyfodol.