Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi’n marw, mae’n bosib y bydd gan eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu'ch partner sifil yr hawl i gael rhywfaint o’ch hawliadau o safbwynt Pensiwn y Wladwriaeth. Yma, cewch wybod a yw eich partner yn gymwys i gael y canlynol – Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, budd-daliadau profedigaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Mae’n bosib y bydd gan eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu’ch partner sifil hawl i gael rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol chi. Dim ond os nad yw eisoes wedi cronni Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth ei hun.
Os byddwch chi’n marw cyn i’ch partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn colli’r hawl hon os bydd:
Efallai y bydd gan eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu’ch partner sifil hawl i gael y swm ychwanegol o’ch Pensiwn sy’n ddyledus. Mae’n bosib y byddant yn gymwys os gwnaethoch ddewis gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl cyrraedd yr oedran priodol.
Mae’n bosib y gall eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu’ch partner sifil cyfreithiol hefyd hawlio’r budd-daliadau profedigaeth canlynol:
Bydd yr holl fudd-daliadau hyn yn dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi’u talu, neu yr ystyrir eich bod wedi'u talu.
Os yw’ch partner mewn oedran gweithio o hyd, mae’n bosib y gall hawlio credydau treth hefyd.
Mae’n bosib eich bod wedi cyfrannu tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth – a elwir hefyd yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
Os byddwch chi’n marw, mae’n bosib y gall eich partner priod neu’ch partner sifil etifeddu rhywfaint o'r Pensiwn ychwanegol hwn gan y Wladwriaeth.
I weld faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gellir etifeddu, gweler ‘SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth’. I gael gwybod mwy am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gweler ‘Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis gohirio hawlio eich Pensiwn.
Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth fel hyn, gallwch ddewis un o’r ddau opsiwn canlynol:
Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’r oedran y byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.
Os byddwch chi’n marw cyn dechrau hawlio’r Pensiwn y Wladwriaeth y gwnaethoch ohirio ei hawlio
Gyda'r swm sy’n ychwanegol ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth, mae’n bosib iddo gael ei ychwanegu at Bensiwn y Wladwriaeth eich partner priod neu’ch partner sifil. Os cewch Bensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth, gall eich partner etifeddu rhywfaint ohono o hyd – oddeutu hanner fel arfer.
O 6 Ebrill 2010 ymlaen, mae'n bosib y byddant yn etifeddu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad un-swm wrthych. Ond dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Ni fyddant yn etifeddu os byddwch yn ailbriodi neu’n cofrestru eto fel partner sifil cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Cyn 6 Ebrill 2010, dim ond gwragedd allai etifeddu’r swm ychwanegol sy’n ddyledus o Bensiwn y Wladwriaeth neu daliad un-swm os gwnaethant golli eu gŵr cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Roedd yn rhaid i wŷr a phartneriaid sifil fod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan wnaethant golli eu partner.
Bydd taliadau Pensiwn y Wladwriaeth eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu’ch partner sifil yn cynyddu. Bydd ganddynt yr hawl i gael yr un swm o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ag y byddech chi wedi'i gael. Bydd ganddynt hefyd hawl i gael rhywfaint o’ch Pensiwn ychwanegol chi gan y Wladwriaeth (hanner fel arfer), os oeddech yn ei gael.
Os gwnaethoch ddewis cael taliad un-swm yn hytrach na chael y swm ychwanegol sy’n ddyledus o Bensiwn y Wladwriaeth, bydd unrhyw swm sy’n weddill yn cael ei gynnwys fel rhan o'ch ystâd. Ni fydd taliadau Pensiwn y Wladwriaeth eich gŵr gweddw, eich gwraig weddw neu’ch partner sifil yn cael eu cynyddu.
Os nad oes gennych chi ŵr, gwraig neu bartner sifil pan fyddwch yn marw, bydd y Pensiwn y gwnaethoch ohirio ei hawlio gan y Wladwriaeth yn dod yn rhan o'ch ystad. Gall eich perthynas agosaf hawlio swm sy'n gyfwerth â thri mis cyntaf taliadau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth.
I gael cymorth a gwybodaeth am bensiynau, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn.