Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Profedigaeth

Ar ôl i chi gael eich gwneud yn weddw, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Profedigaeth, y budd-dal wythnosol trethadwy a delir i chi am hyd at 52 wythnos ar ôl dyddiad marw eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.

Pwy gaiff hawlio

Efallai y gallwch hawlio'r Lwfans Profedigaeth os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn wraig weddw, yn ŵr gweddw neu'n bartner sifil i rywun a fu farw ac roeddech yn 45 oed neu'n hŷn pan fu farw'ch gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil
  • nid ydych yn magu plant
  • rydych dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • roedd eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu eu bod wedi marw o ganlyniad i ddamwain neu glefyd diwydiannol

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Lwfans Profedigaeth

Pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi roi rhif Yswiriant Gwladol eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil a manylion eu cyflogaeth ddiweddar.

Yna, bydd y swyddfa sy'n delio â'ch cais yn gallu edrych ar eu cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych chi'n gymwys i gael Lwfans Profedigaeth ac os felly, faint.

Pwy na chaiff hawlio

Chewch chi ddim hawlio Lwfans Profedigaeth:

  • os oeddech chi a'ch diweddar ŵr neu'ch diweddar wraig wedi ysgaru pan fu farw
  • os oedd eich partneriaeth sifil wedi'i chwalu pan fu farw eich partner sifil
  • os ydych chi'n byw gyda pherson arall fel petaech chi'n briod â nhw neu fel petaech wedi ffurfio partneriaeth sifil
  • os ydych chi yn y carchar

Os oeddech yn hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw'ch cymar neu'ch partner sifil, mae'n bosib y cewch chi swm ychwanegol at Bensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn ar sail cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich:

  • diweddar ŵr
  • diweddar wraig
  • diweddar bartner sifil

Os oeddech dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw'ch cymar a bod gennych blentyn yn dibynnu arnoch, gallwch hawlio Lwfans Rhiant Gweddw. Ond chewch chi ddim Lwfans Rhiant Gweddw Lwfans Profedigaeth ar yr un pryd.

Faint fyddwch chi'n ei gael

Eich oedran pan fu farw'ch cymar neu’ch partner sifil

Cyfradd wythnosol uchaf (2012-2013)

45 oed

£31.79

46 oed

£39.20

47 oed

£46.62

48 oed

£54.03

49 oed

£61.45

50 oed

£68.87

51 oed

£76.28

52 oed

£83.70

53 oed

£91.12

54 oed

£98.53

rhwng 55 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth

£105.95



Mae'r union swm a gewch yn dibynnu ar:

  • faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalodd eich partner neu'ch partner sifil
  • eich oedran pan fu farw

Os daw eich Lwfans Rhiant Gweddw i ben, a bod hyn o fewn 52 wythnos i'ch profedigaeth, efallai y cewch Lwfans Profedigaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar eich oed adeg y brofedigaeth.

Sut mae Lwfans Profedigaeth yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Unwaith y cewch Lwfans Profedigaeth, gallai eich taliadau newid os ydych eisoes yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Pensiwn

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith sy'n delio â'ch cais yn esbonio hyn i chi.

Sut i wneud cais

Cewch archebu pecyn cais Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) dros y ffôn gan eich Canolfan Byd Gwaith agosaf. Ceir nodiadau gyda'r pecyn sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.

Lawrlwytho ffurflen gais i'w hargraffu a'i llenwi

Gallwch hefyd lawrlwytho'r pecyn cais Budd-daliadau Profedigaeth (ffurflen BB1W) oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ar ôl llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf mor fuan â phosib.

Dim ond am dri mis y gellir ôl-ddyddio'r ceisiadau ac fe'u dyddir pan fydd y swyddfa'n eu derbyn, felly os oedwch chi, mae'n bosib y collwch chi'ch budd-dal.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os byddwch chi'n ailbriodi neu'n dechrau byw gyda rhywun fel petaech chi'n briod, ni fyddwch yn gymwys rhagor i gael Lwfans Profedigaeth. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth y swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os digwydd hyn.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Bydd yn rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud hawliad. Hefyd, bydd yn rhaid i chi ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a'ch cefndir a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.

Allweddumynediad llywodraeth y DU