Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cymorth tuag at gostau angladd (ffurflen SF200)

Os ydych chi neu'ch partner yn derbyn budd-dal incwm isel a bod angen help arnoch tuag at gostau angladd, mae'n bosib y gallwch gael Taliad Angladd.

Golwg gyffredinol

Ewch i’r dudalen Taliadau Angladd i gael gwybodaeth ynghylch pwy all wneud cais am un, tuag at pa gostau y gallai'r taliad fod o gymorth, a sut i wneud cais am un.

Gallwch wneud cais unrhyw adeg wedi'r dyddiad y bu'r person farw a hyd at dri mis wedi dyddiad yr angladd.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Gallwch lwytho'r ffurflen hawlio Taliad Angladd ar fformat PDF. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi. Unwaith eich bod wedi cwblhau’r ffurflen, anfonwch neu ewch ag ef yn ôl i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol. I ddod o hyd i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol defnyddiwch y ddolen isod os gwelwch yn dda.

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU