Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau Angladd

Os ydych ar incwm isel a bod angen help arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosibl y gallwch gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais.

Pwy sy'n gymwys?

Efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Angladd ond mae’n dibynnu ar y budd-daliadau yr ydych yn eu cael, eich perthynas â’r person a fu farw ac unrhyw arian arall, ar wahân i’ch cynilion personol, mae’n bosib y bydd ar gael i helpu gyda chost yr angladd.

Budd-daliadau a chredydau treth

Mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol os ydych chi neu'ch partner yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor (neu fod y sawl sy'n talu'r Dreth Cyngor lle rydych yn byw yn derbyn Ad-daliad Ail Oedolyn oherwydd eich bod ar incwm isel)
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu

Defnyddir y term ‘partner’ yma i olygu:

  • rhywun rydych chi’n briod â nhw, neu sy’n byw gyda chi fel petaech chi’n briod â nhw, neu
  • bartner sifil, neu rywun sy'n byw gyda chi fel petaech chi'n bartneriaid sifil

Perthynas â'r sawl a fu farw

Er mwyn cael Taliad Angladd rhaid i chi hefyd fod naill ai:

  • yn bartner i'r sawl a fu farw, adeg eu marwolaeth
  • yn rhiant i'r plentyn a fu farw, neu'n gyfrifol am y plentyn a fu farw (ac nad oes rhiant absennol) (oni bai eu bod yn cael un o'r budd-daliadau cymhwyso uchod neu wedi'u dieithrio oddi wrth y plentyn erbyn dyddiad y farwolaeth)
  • yn rhiant i blentyn marw-anedig
  • yn berthynas glos neu'n ffrind agos i'r sawl a fu farw (a'i bod yn rhesymol i chi dderbyn cyfrifoldeb am gostau'r angladd)

Arian arall sydd ar gael

Ar ôl cyfrifo faint o help y gallwch chi ei gael, edrychir hefyd ar faint o arian (ar wahân i'ch cynilion personol) sydd ar gael i'ch helpu gyda chost yr angladd.

Gallai hyn gynnwys arian o ystâd y sawl a fu farw, cyfraniadau a dderbyniwyd ac arian, er enghraifft, o bolisïau yswiriant, ond nid yw'n cynnwys Taliad Profedigaeth nawdd cymdeithasol nac arian o rai ymddiriedolaethau a noddir gan y llywodraeth.

I breswylwyr y DU ac angladdau

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r sawl a fu farw fel arfer wedi bod yn byw yn y DU, a rhaid i'r angladd fel arfer fod wedi'i gynnal yn y DU.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Chewch chi ddim taliad fel perthynas agos neu fel ffrind agos i'r sawl a fu farw:

  • os oedd gan y sawl a fu farw bartner pan fu farw
  • os oedd gan y sawl a fu farw riant, mab neu ferch sydd heb fod yn gymwys i gael un o'r budd-daliadau cymhwyso neu nad oedd y person hwnnw wedi ymddieithrio oddi wrth yr ymadawedig. Nid yw hyn yn cynnwys aelodau o'r teulu sydd: dan 18 oed, yn bobl ifanc cymwys at ddibenion Budd-dal Plant, yn fyfyrwyr amser llawn, yn aelodau o urddau crefyddol, yn y carchar neu'r ysbyty (ac y rhoddwyd budd-dal cymhwyso iddynt yn union cyn iddynt fynd i'r carchar neu i'r ysbyty), yn geiswyr lloches a gefnogir gan y Gwasanaeth Cefnogi Ceiswyr Lloches, neu'n aelodau o'r teulu nad ydynt fel arfer yn byw yn y DU
  • os oes perthynas agos i'r sawl a fu farw, ac eithrio perthynas agos mewn un o'r grwpiau eithriedig a restrir uchod, a oedd mewn cysylltiad mwy clos â'r sawl a fu farw nag yr oeddech chi, neu fod cysylltiad yr un mor agos rhyngddynt ac nad yw'n cael budd-dal cymhwyso

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Mae Taliad Angladd yn cynnwys y ffioedd claddu neu amlosgi angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • y gost o agor bedd newydd
  • costau claddu
  • cost yr hawl i gladdu unigryw o fewn y llain, a chyfeiriwyd yn aml fel ‘hawliau claddu’

I gael mwy o wybodaeth am ‘hawliau claddu’, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Mae hefyd yn cynnwys rhai costau eraill a nodir a hyd at £700 ar gyfer unrhyw gostau angladdol eraill, megis:

  • ffioedd y trefnwr angladdau
  • yr arch neu flodau

Os oedd gan y sawl a fu farw gynllun angladd y talwyd amdano ymlaen llaw, dim ond ar gyfer eitemau nad yw'r cynllun eisoes yn darparu ar eu cyfer y cewch chi help.

Gallwch gael manylion llawn am yr hyn y bydd y Taliad Angladd yn talu amdano ar dudalen chwech a saith y ffurflen gais (SF200W) sydd ar gael i'w lawrlwytho isod.

Sut mae Taliad Angladd yn cael ei dalu

Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i’r cyfrif o’ch dewis, er enghraifft eich cyfrif banc. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu. Telir pob budd-dal, pensiwn a lwfans i mewn i gyfrif.

Os byddwch yn dewis defnyddio gwasanaethau trefnydd angladdau, bydd y Taliad Angladd fel arfer yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y trefnydd angladdau. Os yw bil y trefnydd angladdau wedi’i dalu, gwneir y taliad i chi.

Os nad ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, caiff y Taliad Angladd ei dalu’n uniongyrchol i mewn i’r cyfrif o’ch dewis. Bydd gofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o’r costau yr ydych wedi’u talu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Ni chaiff Taliad Angladd unrhyw effaith ar fudd-daliadau eraill.

Sut i wneud cais

Gallwch ofyn am ffurflen gais Taliad Angladd drwy gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Gallwch hefyd lawrlwytho’r ffurflen gais (SF200W) isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen, dylech ei hanfon at eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i wneud cais os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch wneud cais am Daliad Angladd drwy lenwi’r ffurflen hawlio SF200.

I gael ffurflen hawlio Gogledd Iwerddon, cysylltwch â’r swyddfa Nawdd Cymdeithasol. Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen hawlio o wefan gwasanaethau’r llywodraeth nidirect.

Pryd i wneud cais

Rhaid gwneud cais am Daliad Angladd rhwng dyddiad y farwolaeth a hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd.

Os ydych chi'n disgwyl am benderfyniad ynghylch budd-dal neu hawliad gymwys, rhaid i chi ddal i wneud cais o fewn y terfynau amser uchod.

Gallwch wneud cais cyn yr angladd os yw’r trefnwr angladdau yn fodlon cyflwyno anfoneb fanwl fel prawf o gontract. Mae amcangyfrif yn annerbyniol.

Ad-dalu'r Taliad Angladd

Os byddwch yn cael Taliad Angladd, bydd angen iddo gael ei dalu'n ôl o ystâd y sawl a fu farw. Mae'r ystâd yn golygu unrhyw arian, eiddo a phethau eraill yr oedd y person ymadawedig yn berchen arnynt. Nid yw tŷ neu eiddo personol a adewir i'r gŵr neu'r wraig weddw, neu'r partner sifil sydd dal yn fyw, yn cael eu cyfrif yn rhan o'r ystâd.

Anghydfodau ac apeliadau

Os hoffech chi wybod mwy am y penderfyniad, neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â'r Ganolfan Byd gwaith o fewn mis i ddyddiad y llythyr sy'n cynnwys y penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn hwyrach na hynny, efallai na fyddant yn gallu'ch helpu.

Gallwch chi, neu rywun arall a chanddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan:

  • ofyn am eglurhad
  • gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad
  • gofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith edrych eto ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid. Efallai eich bod yn credu bod rhai ffeithiau wedi cael eu hanwybyddu, neu efallai bod gennych wybodaeth sy'n effeithio ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol. Rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig

Gallwch gymryd unrhyw un o'r camau a restrir uchod, neu gallwch gymryd pob un ohonynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU