Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth sy'n digwydd i ddyledion pan fydd rhywun yn marw?

Pan fydd rhywun yn marw, bydd unrhyw ddyledion sydd ganddo yn cael eu talu o'i 'ystad' (yr arian a'r eiddo y bydd yn eu gadael ar ôl). Dim ond os oedd gennych gytundeb neu fenthyciad ar y cyd y byddwch yn gyfrifol am ei ddyledion, neu wedi darparu gwarant benthyciad – nid ydych yn gyfrifol yn awtomatig am ddyledion gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Yr ystâd

Mae ystad unigolyn yn cynnwys ei arian parod (gan gynnwys arian yswiriant) a buddsoddiadau, eiddo a meddiannau.

Ar ôl i rywun farw, delir â’i ystad gan un 'ysgutor' - neu fwy nag un - neu gan 'weinyddwr' os nad oedd ewyllys. Fel arfer, bydd y rhain yn berthynas neu'n gyfaill ac/neu'n dwrnai.

Os yw'r ystad yn werth mwy na swm penodol, bydd ar yr ysgutor neu'r gweinyddwr angen caniatâd arbennig - a elwir yn 'brofiant' neu'n 'llythyrau gweinyddu' - er mwyn cael delio â materion ariannol yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys talu ei ddyledion.

Beth fydd yn digwydd os nad oes digon o arian i dalu'r holl ddyledion?

Dan amgylchiadau o’r fath, bydd yn rhaid i'r ystad dalu unrhyw ddyledion sy'n weddill mewn trefn benodol cyn rhoi unrhyw beth i bobl a enwir yn yr ewyllys, neu nes bod yr arian yn dirwyn i ben.

Dyledion os oeddech chi'n berchen ar gartref gyda'ch gilydd

Os oeddech chi'n gydberchennog ar gartref ac os nad oes digon o arian yn unman arall yn yr ystad i dalu dyledion yr unigolyn a fu farw, mae'n bosib y bydd yn rhaid gwerthu'ch cartref. Bydd yr opsiynau a fydd gennych er mwyn osgoi gorfod gwerthu'n dibynnu ar p'un ai a oeddech yn berchen arno fel ‘tenantiaid ar y cyd’ (tenants in common) ynteu fel ‘cyd denantiaid’ (joint tenants).

‘Tenantiaid ar y cyd’

Os oeddech yn ‘denantiaid ar y cyd’, roedd y ddau ohonoch yn berchen ar gyfran benodol o’r eiddo. Daw'r gyfran fu'n eiddo i'r unigolyn a fu farw'n rhan o'i ystad, a bydd yn cael ei throsglwyddo i bwy bynnag a nodir yn ei ewyllys. Ond os oes dyledion gan y sawl a fu farw, bydd yn rhaid talu'r rheini'n gyntaf o'r gyfran honno.

Er mwyn osgoi gorfod gwerthu'r cartref, bydd yn rhaid i chi a/neu unrhyw un sydd i fod i etifeddu'r ail gyfran geisio negodi gyda'r bobl y mae arian yn ddyledus iddynt ('y credydwyr') a dod o hyd i'r arian angenrheidiol.

‘Cyd denantiaid’

Os oeddech chi'n ‘gyd denantiaid’, roeddech yn berchen ar yr eiddo i gyd gyda'ch gilydd ac felly bydd cyfran yr unigolyn a fu farw'n cael ei throsglwyddo'n awtomatig i chi.

Ond er ei fod bellach yn rhan o'ch ystad chi, ni allwch chi anwybyddu'r dyledion. Gall credydwyr wneud cais am 'Orchymyn Gweinyddu Ansolfedd' o fewn pum mlynedd i farwolaeth dyledwr. Gall hyn olygu bod yr eiddo'n cael ei rannu yn ei hanner a gall orfodi gwerthu’r eiddo. Felly, mae'n well i chi geisio dod i gytundeb â'r bobl y mae arian yn ddyledus iddynt, a cheisio'u talu eich hun.

Gallwch gael gwybod a ydych yn berchen ar yr eiddo fel 'tenantiaid ar y cyd' neu fel 'cyd denantiaid' yn y Trosglwyddiad neu'r Brydles a gawsoch wrth brynu'r eiddo neu mewn Dogfen Ymddiriedolaeth neu mewn Ewyllys. Mae’n bosib y bydd y gofrestr tir hefyd yn darparu cliw, ond ni all y Gofrestrfa Tir eich cynghori ynghylch y math o berchnogaeth rydych chi wedi’i dewis.

Sut y telir gwahanol ddyledion

Morgeisi

Os oedd y benthyciwr morgais wedi mynnu bod rhywun yn codi yswiriant bywyd, fe all hynny dalu cyfanswm y benthyciad. Os nad oes yswiriant – neu os oedd ail forgeisi heb eu gwarchod gan yswiriant – mae'n bosib y bydd yn rhaid gwerthu'r eiddo.

Ôl-ddyledion rhent

Os ydych chi'n gyd denant mewn eiddo ar rent, mae’n rhaid i chi dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent. Ni fyddwch yn atebol am yr ôl-ddyledion rhent blaenorol os byddwch yn ysgwyddo tenantiaeth rhywun arall.

Ardrethi dŵr

Bydd unrhyw un sy'n dal i fyw yn y tŷ yn gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion ac am daliadau parhaus, hyd yn oed os nad yw ei enw ar y bil.

Y Dreth Gyngor

Bydd unrhyw un sy'n dal i fyw yn y tŷ yn gyfrifol am unrhyw ôl-ddyledion ac am daliadau parhaus, hyd yn oed os nad yw ei enw ar y bil. (Er bod gostyngiad o 25 y cant ar gael am fod yn unig oedolyn yn y tŷ.) Ni fydd yn rhaid talu'r Dreth Gyngor os yw'r tŷ yn wag.

Biliau tanwydd

Os ydych wedi bod yn byw yn yr eiddo gyda rhywun arall, fe allech fod yn gyfrifol am dalu ôl-ddyledion biliau tanwydd. Cysylltwch â'r Llinell Ddyled Genedlaethol am gyngor – mae'r manylion isod.

Hur bwrcas (cytundebau HP)

Ni fydd y prynwr yn berchen ar yr eiddo nes bod y taliad diwethaf wedi'i wneud. Ond os bydd mwy na thraean o'r cytundeb wedi'i dalu, bydd ar y gwerthwr angen gorchymyn llys i gael y nwyddau yn ôl.

Cyn dychwelyd nwyddau neu cyn gwneud taliadau, edrychwch i weld a oedd cynllun gwarchod taliadau. Hefyd, cysylltwch â'r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael cyngor.

Benthyciadau personol, cardiau credyd a dyledion credyd

Bydd yn rhaid talu'r dyledion eraill cyn ad-dalu'r dyledion hyn. Os delir cardiau ar y cyd, bydd y deiliaid oll yn gyfrifol am bob dyled – ond edrychwch i weld a oes gennych gynllun gwarchod taliadau.

Cyfrif banc

Os oedd y cyfrif banc yn enw'r unigolyn a fu farw yn unig, ni fydd neb yn gallu cyffwrdd â'r arian nes y ceir trefn ar yr ystad. Os oedd gennych chi gyfrif banc yn enw’r ddau ohonoch, fel arfer, bydd yn dal yn bosib i chi ddefnyddio’r cyfrif.

Cynilion

Os ydych chi’n meddwl efallai bod cynilion mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sydd ar goll, gellir chwilio drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein sydd am ddim.

Dyledion treth a gordalu budd-daliadau

Byddai unrhyw dreth sy'n ddyledus neu unrhyw fudd-daliadau neu bensiynau a ordalwyd yn cael eu talu o'r ystad. Cysylltwch â'r swyddfa berthnasol cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi gordaliadau budd-daliadau a gweld a oes treth yn ddyledus. Fe gewch hyd i'r manylion cyswllt ar y gwaith papur perthnasol, neu fe allwch chwilio ar-lein.

Gweld a oes gennych yswiriant i dalu'ch dyledion

Dylech bob amser edrych yn ofalus i weld a yw dyledion yr unigolyn a fu farw wedi'u gwarchod, er enghraifft:

  • y morgais wedi'i warchod rhag bod rhywun yn marw
  • taliadau benthyciadau personol neu gardiau credyd wedi'u gwarchod
  • 'marwolaeth mewn gwaith' gan bensiwn (taliad unswm os bydd y person yn marw cyn oedran hawlio pensiwn)

Allweddumynediad llywodraeth y DU