Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os na fyddwch chi'n talu'ch rhent, gelwir yr arian sy'n ddyledus yn 'ôlddyledion rhent' Mae ôlddyledion rhent yn 'ddyledion â blaenoriaeth', sy'n golygu os na fyddwch chi'n delio â nhw y gall y canlyniadau fod yn ddifrifol - mae risg i chi gael eich troi allan o'ch cartref.
Os na allwch chi dalu'ch rhent, eich bod wedi methu taliadau rhent neu eich bod yn poeni nad yw'r rhent yn cael ei dalu, ceisiwch ddatrys pethau cyn gynted ag y bo modd. Hyd yn oed os oes gennych ddyledion eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu'ch dyledion rhent.
Cofiwch, unwaith y bydd eich rhent wedi'i dalu'n llawn eto, y bydd dal rhaid i chi dalu'r ôlddyledion sydd wedi cronni.
Weithiau, bydd ôlddyledion yn codi oherwydd problemau wrth hawlio a phrosesu'r Budd-dal Tai ac arian arall y mae gennych yr hawl iddo. Os nad yw eich Budd-dal Tai wedi'i dalu, cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod beth sy'n digwydd. Mae'n bosib bod rhyw reswm dros yr oedi, neu fod angen rhagor o wybodaeth ar y cyngor i ddelio â'ch hawliad. Ceisiwch gyngor gan eich landlord neu gan gynghorydd annibynnol. Mae'n bosib y byddan nhw'n gallu'ch helpu i hawlio; bydd gwaith papur anghyflawn yn arafu'ch hawliad. Dywedwch wrth eich landlord beth sy'n digwydd a chadwch unrhyw ohebiaeth.
Os ydych chi ar incwm isel neu'n wynebu problemau ariannol, holwch a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau - megis Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu gredydau treth. Does dim rhaid i chi fod yn ddi-waith i hawlio budd-daliadau ac fe allech fod yn gymwys ar gyfer mwy nag un.
Hyd yn oed os ydych chi eisoes yn derbyn y Budd-dal Tai, os nad yw'n ddigon i dalu eich rhent, mae'n bosib y gallwch chi gael arian ychwanegol - a elwir yn 'daliad tai amodol'. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i weld a ydych chi'n gymwys.
Dylech hefyd ystyried ceisio cyngor gan asiantaeth cynghori am ddyledion, a ddylai allu'ch cynghori am sut wneud yn fawr o'ch budd-daliadau ac am unrhyw fudd-daliadau ychwanegol y gallech fod â'r hawl iddynt. Mae'n bosib y byddan nhw hefyd yn gallu'ch helpu i lenwi'r ffurflenni a sicrhau nad oes unrhyw oedi oherwydd bod eich gwaith papur yn anghyflawn.
Gan amlaf, bydd gan landlordiaid yr hawl i geisio gorchymyn llys i'ch troi allan os byddwch chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent. Dan rai amgylchiadau, mae'n bosib y bydd eich landlord yn gallu'ch troi allan o'ch cartref heb orfod cael gorchymyn llys gyntaf.
Mae'r rheolau ynghylch pa bryd a sut y caiff landlord eich troi allan oherwydd eich bod ar ei hôl hi gyda'ch rhent yn amrywio yn ôl y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych. Bydd y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych yn dibynnu i raddau ar bwy ydy'r landlord.
I gael gwybod rhagor am sut mae gwahanol fathau o gytundebau tenantiaeth yn effeithio ar beth fydd yn digwydd os na fyddwch chi'n talu'ch rhent, dilynwch y dolenni isod, neu gofynnwch am gyngor annibynnol am ddim (gweler 'Help a chyngor' isod).
Mae cyngor annibynnol am ddim ar gael gan nifer o gyrff os cewch chi anhawster i dalu eich rhent.
Bydd canolfannau cyngor am dai'n cynnig help gyda phob mater sy'n ymwneud â thai. Awdurdodau lleol neu fudiadau gwirfoddol sy'n eu rhedeg.
Mae Shelter yn cynnig cyngor wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn, dros yr e-bost ac ar-lein am unrhyw broblem sy'n ymwneud â thai (nid dim ond digartrefedd).
Mae'r CAB yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn. Mae'r rhan fwyaf o ganolfannau CAB hefyd yn cynnig ymweld â chi gartref ac mae rhai'n rhoi cyngor dros yr e-bost.
Mae'r National Debtline yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n rhoi cyngor annibynnol am sut i ymdopi â dyled. Mae gwybodaeth ar gael ar-lein neu ffoniwch y llinell gymorth am ddim.