Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd i’r afael â phroblemau dyled – arweiniad

Os byddwch chi mewn dyled ac yn ei chael yn anodd ymdopi, mae'n bwysig delio â'r broblem ar unwaith – hwya'n y byd y byddwch chi'n anwybyddu'ch dyledion, gwaethaf y bydd y sefyllfa. Yma cewch wybod beth y gallwch ei wneud am eich problem ddyled, a ble y gallwch gael cymorth a chyngor am ddim.

Camau sylfaenol i’ch helpu i ddelio â dyled

Delio â dyled

Canllaw clywedol Cross & Stitch ar sut i ddelio â dyled

Isod ceir camau sylfaenol i’ch helpu i ddelio â phroblem ddyled. Fodd bynnag, dylech gael cyngor annibynnol i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch problem ddyled. Gall cyrff fel Cyngor ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol ddarparu cyngor annibynnol am ddim.

Cam un – gwnewch restr o'ch dyledion i gyd

Dylech ganfod beth yn union sy’n ddyledus gennych, ac i bwy. Gelwir y bobl y mae arnoch chi arian iddynt yn gredydwyr. Os oes arnoch chi arian i rywun, cewch chi eich galw'n ddyledwr.

Cam dau – rhoi’ch dyledion yn nhrefn eu pwysigrwydd

Gelwir y dyledion pwysicaf yn ‘ddyledion blaenoriaethol’, ac nid dyma’r dyledion mwyaf o reidrwydd. Dyledion blaenoriaethol yw'r rhai lle gellir cymryd camau difrifol yn eich erbyn os na fyddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus. Er enghraifft gallech golli eich cartref, gellid datgysylltu’ch cyflenwad, neu gallech hyd yn oed gael eich anfon i'r carchar.

Gan amlaf, mae dyledion blaenoriaethol yn cynnwys pethau fel:

  • ad-daliadau morgais
  • benthyciad gyda sicrwydd
  • rhent
  • Treth Cyngor
  • biliau cyfleustodau
  • trethi
  • dirwyon y llys

Bydd angen i chi wneud trefniadau i dalu eich dyledion blaenoriaethol yn gyntaf.

Mae dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys pethau fel:

  • taliadau cerdyn credyd a cherdyn siop
  • benthyciadau banc
  • gorddrafft
  • credyd drws-i-ddrws – fel benthyciad Provident lle bydd yr asiant yn casglu’r taliadau bob wythnos
  • ad-daliadau catalog
  • arian rydych wedi’i fenthyca gan ffrindiau neu’r teulu

Allwch chi ddim anwybyddu'r rhain, ond does dim rhaid i chi roi'r flaenoriaeth iddyn nhw.

Gall cyrff fel Cyngor ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol eich helpu am ddim i benderfynu pa rai yw eich dyledion blaenoriaethol a pha rai nad ydynt yn flaenoriaeth.

Cam tri – lluniwch gyllideb bersonol

Lluniwch gyllideb wythnosol neu fisol i weld beth yw’ch incwm a’ch costau. Gall hefyd ddangos ble y gallwch arbed arian. Bydd cyllideb yn eich helpu i benderfynu faint y gallwch fforddio ei dalu’n ôl i’ch credydwyr, felly mae’n bwysig bod yn realistig.

Gall cyrff fel Cyngor ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol ddarparu cymorth annibynnol am ddim i’ch helpu i lunio’ch cyllideb bersonol. Ceir pecynnau hunangymorth hefyd, a chyfryngau ar-lein i'ch helpu.

Cam pedwar – cael cyngor ar y gwahanol ffyrdd o ddelio â'ch dyledion

Mae sawl ffordd o ddelio â dyledion. Er enghraifft, gallwch chi wneud trefniadau anffurfiol gyda’ch credydwyr, neu gall arbenigwyr dyledion wneud trefniadau mwy ffurfiol ar eich cyfer. Weithiau bydd costau ychwanegol ynghlwm wrth hyn, a bydd yn rhaid i chi gytuno ar amodau.

Mae’n bwysig i chi gael cyngor annibynnol i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion. Gall cyrff fel Cyngor ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol gynnig cyngor annibynnol am ddim dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â’ch credydwyr sy’n flaenoriaeth yn gyntaf

Cam pump – trafod â’ch credydwyr

Ar ôl gweld faint y gallwch fforddio ei dalu’n ôl, gallwch drafod eich sefyllfa â'ch credydwyr a beth rydych chi'n bwriadu ei wneud. Gallwch hefyd drefnu i gynghorydd dyledion drafod â’ch credydwyr ar eich rhan. Bydd rhai yn codi ffi am hyn, a gall eraill eich helpu am ddim.

Byddwch yn realistig ynghylch faint y gallwch fforddio ei dalu'n ôl, a pheidiwch â thybio y byddwch yn gallu talu mwy’n ôl yn y dyfodol. Ar ôl siarad dros y ffôn, mae'n bwysig anfon llythyr yn cadarnhau'r hyn a ddywedwyd ac a gytunwyd gennych.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio â'ch credydwyr blaenoriaethol yn gyntaf. Efallai na fydd gennych lawer, neu ddim, ar ôl i'w gynnig i'ch credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, ond dylech ddal i drafod â nhw, gan egluro’r sefyllfa. Efallai y byddwch chi'n gallu dweud wrthynt y byddwch chi'n talu'r arian yn ôl iddynt rywbryd yn y dyfodol – ond peidiwch â gwneud addewidion na allwch eu cadw.

Defnyddio cyfryngdod i’ch helpu i ddelio â’ch dyledion

Os na allwch ddod i gytundeb â’ch credydwyr, neu angen cymorth i siarad â nhw, gallwch gael cymorth gan wasanaeth cyfryngdod.

Mewn cyfryngdod, mae rhywun o wasanaeth cyfryngdod yn helpu’r ddau ochr i ddod i gytundeb. Defnyddiwch y ddolen ‘Cyfryngdod yn ystod anghydfodau dyled’ am wybodaeth ar sut y mae cyfryngdod yn gweithio a sut i gysylltu â gwasanaeth cyfryngdod.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU