Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Un o ffeithiau bywyd yw biliau; dim ond pan fyddwch chi'n clymu'ch hun ormod ac nad oes gennych ddigon o incwm rhagor i dalu'r biliau sy'n dod i mewn y bydd hyn yn creu problem. Drwy baratoi cyllideb, cynllunio'n ofalus a bod yn realistig am yr hyn y gallwch chi ei fforddio, fe allwch osgoi problemau dyled a gwneud yn fawr o'ch incwm.
Mae’n hawdd clymu’ch hun ormod. Bob tro y byddwch chi’n ymrwymo i dderbyn gwasanaeth newydd (er enghraifft teledu cebl neu gontract ffôn symudol), yn prynu rhywbeth ar hur bwrcas neu’n ychwanegu at ddyled eich cerdyn credyd, byddwch yn clymu'ch hun i dalu mwy bob mis.
Cyn i chi ymrwymo i dderbyn gwasanaeth newydd neu ymrwymiad credyd newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn medru fforddio’r taliadau. Lluniwch daflen gyllideb a’i chadw’n gyfredol, gan feddwl am sut y byddech yn parhau i dalu petai’ch incwm chi’n gostwng.
Rheswm arall dros glymu'ch hun ormod efallai fyddai bod eich amgylchiadau personol yn newid a hynny'n golygu bod eich incwm yn gostwng - er enghraifft, os byddwch chi:
Gallai unrhyw un o'r digwyddiadau hyn beri i'ch incwm ostwng gan olygu bod rhaid i chi newid eich blaenoriaethau gwario. Os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd mae'n bwysig ailystyried eich cyllideb cyn gynted ag y gallwch chi.
Dylech hefyd holi a fedrwch chi gynyddu’ch incwm gyda budd-daliadau neu gredydau treth.
Gall cyllideb bersonol fod o help i chi gynllunio ymlaen llaw a gwneud yn fawr o'ch arian. Bydd angen i chi:
Mae'n bwysig adolygu eich cyllideb yn rheolaidd, oherwydd bod eich amgylchiadau'n debygol o newid.
Drwy baratoi cyllideb, byddwch yn gwybod faint o arian sydd gennych ar gyfer costau byw hanfodol (er enghraifft, biliau'r cartref, rhent neu forgais a bwyd) a faint y gallwch fforddio'i ymrwymo i gynlluniau eraill (er enghraifft, prynu car, codi morgais, mynd ar wyliau neu gynilo ar gyfer y dyfodol).
Drwy flaenoriaethu eich ymrwymiadau, gallwch wneud yn siŵr bod eich anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu ac wedyn, gallwch benderfynu beth arall y gallwch ei fforddio, a beth y gall fod rhaid i chi gynilo ar ei gyfer neu wneud hebddo.
Drwy holi o gwmpas a negodi gyda phobl - nid dim ond ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ond hefyd ar gyfer cynnyrch ariannol megis benthyciadau a chardiau credyd - gallwch wneud i'ch arian fynd ymhellach.
Os byddwch wedi clymu'ch hun ormod a bod gennych broblem ddyled, peidiwch ag anwybyddu'r sefyllfa.
Dyma ambell arwydd y gall fod gennych broblem:
Drwy restru a blaenoriaethu eich dyledion, cyllidebu a siarad â'ch credydwyr, gallwch gael trefn ar y sefyllfa.