Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno am ymarferydd ansolfedd

Os oes arnoch eisiau cwyno am ymddygiad proffesiynol ymarferydd ansolfedd (arbenigwr dyledion), bydd angen i chi gysylltu â’i gorff awdurdodi. Yma, cewch wybod pa gamau y bydd angen i chi eu dilyn, pa gorff awdurdodi y bydd angen i chi gysylltu ag ef, a’r mathau o gwynion y gall y corff awdurdodi hwnnw ymchwilio iddynt.

Ymarferwyr ansolfedd

Mae ymarferydd ansolfedd fel arfer yn dwrnai neu'n gyfrifydd sy'n arbenigo mewn materion yn ymwneud ag ansolfedd. Er enghraifft, bydd yn chwarae rhan y canlynol:

  • ‘ymddiriedolwr’ mewn methdaliad – lle bydd yn rheoli ac yn gwerthu asedau’r methdalwr
  • ‘goruchwyliwr’ mewn trefniant gwirfoddol unigol (dewis arall yn hytrach na methdaliad) – lle bydd yn rheoli ad-daliadau dyledwr i gredydwr

Corff awdurdodi ymarferydd ansolfedd

Mae cyrff awdurdodi yn trwyddedu (rhoi awdurdod i) ymarferwyr ansolfedd, ac maent yn gyfrifol am gynnal safonau proffesiynol ac ymchwilio i gwynion am ymddygiad ymarferwyr ansolfedd.

Cyn cwyno

Bydd corff awdurdodi ddim ond yn ymchwilio i gwynion am y canlynol:

  • ymddygiad amhroffesiynol ymarferydd ansolfedd
  • ymddygiad anfoesegol ymarferydd ansolfedd
  • arferion annheg neu amhriodol ymarferydd ansolfedd

Beth gellid ei ddisgwyl os byddwch yn cwyno

Lle bo hynny’n bosib, bydd y corff awdurdodi yn annog yr ymarferydd ansolfedd i ddatrys y gŵyn a gweithio gydag ef er mwyn newid unrhyw weithdrefnau neu arferion priodol.

Ni all corff awdurdodi wneud y canlynol:

  • dadwneud neu newid penderfyniad ymarferydd ansolfedd
  • ymyrryd yn uniongyrchol yn eich methdaliad neu’ch trefniant gwirfoddol unigol
  • darparu arweiniad ynghylch eich methdaliad neu’ch trefniant gwirfoddol unigol

Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych chi’n anhapus ag unrhyw un o’r materion hyn, gan mai dim ond llys sydd â’r pŵer i ymchwilio iddynt.

Sut mae gwneud cwyn

Dyma’r camau sylfaenol y bydd angen i chi eu cymryd er mwyn gwneud cwyn.

Cam un: ysgrifennwch at yr ymarferydd ansolfedd i geisio datrys eich cwyn yn uniongyrchol.

Cam dau: os ydych chi’n anhapus â’i ymateb, gallwch fynd â’ch cwyn at ei gorff awdurdodi.

Cam tri: mae gan bob corff awdurdodi ei weithdrefn ei hun ar gyfer delio â chwynion yn erbyn yr ymarferwyr ansolfedd sydd wedi cofrestru â'r corff.

Er mwyn dod o hyd i’r corff awdurdodi perthnasol, gallwch wneud y canlynol:

  • cael ei fanylion yn uniongyrchol oddi wrth yr ymarferydd ansolfedd
  • chwilio drwy’r cyfeiriadur ymarferwyr ansolfedd ar-lein
  • cysylltu â’r Llinell Ymholiadau Ansolfedd – ffoniwch 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Os yw eich ymarferydd ansolfedd wedi'i awdurdodi gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, gweler yr adran isod am ragor o wybodaeth.

Os nad yw eich ymarferydd ansolfedd wedi’i awdurdodi gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, cysylltwch yn uniongyrchol â’i gorff awdurdodi er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i gwyno.

Ymarferwyr ansolfedd wedi’u hawdurdodi gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau

Mae Uned Ymarferwyr Ansolfedd (IPU) y Gwasanaeth Ansolfedd yn delio â chwynion yn erbyn ymarferwyr ansolfedd wedi'u hawdurdodi gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

I wneud eich cwyn, ysgrifennwch at yr IPU gan gynnwys y manylion canlynol yn eich llythyr:

  • enw a rhif eich achos ansolfedd
  • enw’r ymarferydd ansolfedd
  • enw cwmni’r ymarferydd ansolfedd, a’i gyfeiriad gwaith
  • copïau o unrhyw lythyrau yn gysylltiedig â’ch cwyn
  • manylion beth sydd wedi mynd o’i le

Dylech anfon eich llythyr at:

Yr Uned Ymarferwyr Ansolfedd / Insolvency Practitioner Unit
Y Gwasanaeth Ansolfedd / The Insolvency Service
4th Floor
Cannon House
18 Priory Queensway
Birmingham
B4 6BS

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r IPU:

E-bost: IPU.Email@insolvency.gsi.gov.uk

Beth fydd yn digwydd i’ch cwyn

Bydd yr IPU yn ymateb i’ch cwyn ysgrifenedig o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl iddo ei gael. Bydd yn cydnabod eich cwyn ac yn amlinellu sut mae’n bwriadu delio â’ch cwyn. Os na all wneud hyn, bydd yn ysgrifennu atoch o fewn pum niwrnod gwaith i egluro achos yr oedi, ac i gadarnhau pryd y byddwch yn cael yr wybodaeth.

Nid oes gan yr IPU ddim pŵer i orchymyn ymarferydd ansolfedd i dalu iawndal i chi na chwaith i roi cosbau na chymryd camau disgyblu. Bydd yn gofyn am eglurhad a rhagor o wybodaeth gan eich ymarferydd ansolfedd.

Ar ôl iddo gael yr wybodaeth hon, bydd yn ysgrifennu atoch gan roi manylion ymateb yr ymarferydd ansolfedd, a bydd yn ychwanegu ei sylwadau at y gŵyn. Gallwch fynegi eich barn am y sylwadau hyn.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU