Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes arnoch eisiau cwyno am y Gwasanaeth Ansolfedd, bydd angen i chi ddilyn ei broses gwyno. Yma, cewch wybod sut i anfon eich cwyn a beth gellid ei ddisgwyl gan y broses gwyno.
Mae’r Gwasanaeth Ansolfedd yn delio â materion ansolfedd a dileu swyddi yng Nghymru a Lloegr, a gall ddelio â chwynion a wneir yn erbyn y canlynol:
Mae’r Derbynnydd Swyddogol yn swyddog i’r llys, sy’n delio â gweinyddu ac ymchwilio i faterion methdalwyr a chwmnïau sy'n cael eu diddymu'n orfodol. Mae hefyd yn asesu ceisiadau am orchmynion rhyddhad dyledion, ac yn goruchwylio trefniadau gwirfoddol llwybr carlam. Mae’r rhain yn opsiynau sydd ar gael yn lle methdaliad.
Gall y Gangen Ymchwilio Cwmnïau ymchwilio i gwmnïau cyfyngedig lle mae gwybodaeth y mae wedi’i chael yn awgrymu camddefnydd corfforaethol, er enghraifft, twyll neu gamymddygiad corfforaethol difrifol.
Mae’r Swyddfa Taliadau Dileu Swydd yn asesu ac yn talu hawl statudol at daliadau dileu swydd os bydd cyflogwr yn methu neu’n gwrthod talu’i gyflogeion.
Os ydych chi’n anhapus gyda’r gwasanaeth rydych chi wedi’i gael gan unrhyw un o’r uchod, dylech ddilyn y broses gwyno isod. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Llinell Ymholiadau Ansolfedd – ffoniwch 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 5.00 pm.
Cam un
Ceisiwch ddatrys eich cwyn gyda’r swyddog dan sylw.
Cam dau
Os na ellir datrys y broblem, dylech anfon eich cwyn ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflen isod, neu yn ysgrifenedig. Dylech gynnwys y canlynol yn eich llythyr:
Dylech gyfeirio eich cwyn at:
Dylech gael ymateb ysgrifenedig i’ch cwyn o fewn deg diwrnod gwaith ar ôl i un o’r uchod gael eich cwyn. Os na fydd hyn yn bosib, bydd y Gwasanaeth Ansolfedd, fel arfer o fewn pum niwrnod gwaith, yn ysgrifennu atoch i gadarnhau pryd y gallwch ddisgwyl ymateb llawn.
Cam tri
Os ydych chi’n anhapus gyda’r ymateb yng ngham dau, gallwch anfon eich cwyn ymlaen at y canlynol:
Cam pedwar
Os ydych chi’n anhapus gyda’r ymateb yng ngham tri, gallwch anfon eich cwyn ymlaen at un ai’r Comisiynydd Gwybodaeth neu’r Dyfarnwr.
Bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn delio â chwynion yn ymwneud â gwybodaeth bersonol neu geisiadau am wybodaeth. Bydd y Dyfarnwr yn delio â phob math arall o gwynion.
I gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, dilynwch yr ail ddolen isod.
I gwyno wrth y Dyfarnwr, ysgrifennwch at:
Swyddfa’r Dyfarnwr
8th Floor
Euston Tower
286 Euston Road
London, NW1 3US
Mae’n rhaid i chi fod wedi cael ymateb terfynol i’ch cwyn cyn i chi fynd at y Comisiynydd Gwybodaeth neu’r Dyfarnwr. Cysylltwch â nhw i gael gwybod sut y byddant yn delio â'ch cwyn, a phryd y bydd yn rhaid i chi ei hanfon atynt.
Gallwch gysylltu ag Aelod Seneddol ar unrhyw adeg yn ystod y broses gwyno, er mwyn gofyn i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ymchwilio i’ch cwyn. Ni chewch gwyno’n uniongyrchol wrth yr ombwdsmon. Mae’r ombwdsmon yn fudiad annibynnol sy’n cynnal ymchwiliadau i gwynion am adrannau’r Llywodraeth a’u hasiantaethau.
Gallwch ddisgwyl unrhyw rai o’r canlynol:
Mae’n bosib y bydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn rhoi iawndal i chi i gydnabod unrhyw bryder neu drallod a achoswyd gan y ffordd y cawsoch eich trin, ac i ymddiheuro am hyn. Bydd taliadau fel arfer yn amrywio o £25 i £250, ac ni fwriedir iddynt roi gwerth ar y trallod rydych chi wedi’i ddioddef.
Mae’n bosib y bydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn rhoi iawndal i chi os cafodd eich cwyn ei thrin yn wael, neu os cymerwyd gormod o amser i ddelio â'ch cwyn. Bydd taliadau fel arfer yn amrywio o £25 i £250.
Mae’n bosib y bydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn gallu rhoi digon o arian i chi i dalu am unrhyw gostau rhesymol rydych chi wedi gorfod eu talu o ganlyniad i’ch cwyn. Ystyrir pob cais ar ei haeddiant ei hun, a bydd taliadau’n cael eu hasesu ar sail unigol.