Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dyled – ble i gael cymorth a chyngor am ddim

Os oes gennych broblem ddyled, mae amryw o gyrff a all gynnig cyngor annibynnol am ddim ynghylch dyledion, a hynny dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Cael cyngor ar ddyledion

Mae amryw o sefydliadau’n darparu cyngor ar ddyledion neu’n gweithredu ar eich rhan mewn trafodaethau â’ch credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt). Er enghraifft, gallant ganfod y ffordd orau i chi ddelio â’ch dyledion a rhoi trefniant ar waith gyda'ch credydwyr.

Nid yw pawb yn rhoi cyngor ar ddyledion am ddim, ac mae'n bosib y bydd ambell gorff yn codi tâl. Gellir codi'r ffi hon arnoch am eich helpu a/neu am reoli unrhyw drefniadau a roddwyd ar waith gyda'ch credydwyr. Dylech holi a oes unrhyw ffioedd, a sut a phryd y bydd yn rhaid i chi eu talu.

Cyrff sy’n cynnig cymorth a chyngor am ddim

Mae nifer o sefydliadau yn cynnig cyngor annibynnol am ddim i’ch helpu i ddelio â'ch problem ddyled. Mae rhai o’r sefydliadau hyn wedi’u rhestri isod.

Cyngor Ar Bopeth

Gall Cyngor Ar Bopeth eich helpu i ddatrys problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim mewn dros 3,200 o leoliadau ar hyd a lled y wlad.

0800 043 40 50

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm, dydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 5.00 pm

Sefydliad Cyngor ar Ddyled

Mae’r Sefydliad Cyngor ar Ddyled, sy’n elusen DU cofrestredig, yn gweithredu llinell gyngor am ddim i unrhyw un sy’n pryderu am ddyled.

0808 808 4000

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 9.00 pm, dydd Sadwrn rhwng 9.30 am a 1.00 pm

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

Mae’r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'r llinell gymorth a llwytho cyhoeddiadau oddi ar eu gwefan.

Cael cyngor ar-lein

Llenwch rhai fanylion ar-lein i gael cyngor ar ddelio â’ch dyledion

My Money Steps

Mae My Money Steps yn wasanaeth cynghori ar ddyled sy’n cael ei redeg gan Y Llinell Ddyled Genedlaethol, ac sy’n darparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim 24 awr y dydd.

0800 085 0226

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm

Ymddiriedolaeth Cefnogaeth Ddyled

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogaeth Ddyled yn elusen cynghori ar ddyled sy’n cynnig cyngor ar ddyled dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Trefnu apwyntiad

Ffoniwch 0800 328 0006

Cristnogion yn erbyn Tlodi

Mae Cristnogion yn erbyn Tlodi yn elusen genedlaethol sy’n darparu cwnsela ynghylch dyledion ac sy’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un mewn dyled. Mae ganddi dros 160 canolfan ar draws y DU.

0800 138 1111

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm

Y Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr yn darparu gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim ynghylch problemau dyledion – gan gynnwys cyllidebu personol a chyngor ar gredyd.

0845 345 4 345

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 6.30 pm

Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (CLA)

Os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ddarparu cymorth neu gyngor cyfreithiol am ddim dros y ffôn. Gallant eich helpu gyda phroblemau dyledion, tai, cyflogaeth, addysg, budd-daliadau lles a chredydau treth.

0800 280 2816

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 9.00 pm, dydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 3.00 pm

Payplan

Mae Payplan yn darparu cyngor di-dâl ar ddyledion a chyllidebu i bobl sy'n byw yn y DU, gan gynnwys cynlluniau rheoli dyledion am ddim a threfniadau gwirfoddol unigol (IVAs) heb i chi orfod talu'r ffioedd ar y cychwyn.

0800 197 6062

Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm

Llinell Ddyledion i Fusnesau (Business Debtline)

Mae'r llinell hon yn cynnig gwasanaeth cwnsela ym maes dyledion dros y ffôn, a hynny'n ddi-dâl, i fusnesau bach a phobl hunangyflogedig sy'n wynebu caledi ariannol.

Eich awdurdod lleol

Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaeth cwnsela ynghylch dyledion yn rhad ac am ddim. Gallwch weld a yw'ch awdurdod lleol chi yn cynnig y gwasanaeth hwn drwy ddilyn y ddolen isod. Gofynnir i chi roi manylion ynghylch lle'r ydych chi’n byw ac yna cewch eich tywys at wefan eich awdurdod lleol, lle cewch fwy o wybodaeth.

Canolfannau Cyfraith

Os oes rhywun yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn a’ch bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch gael cyngor annibynnol am ddim gan eich Canolfan Gyfraith leol.

Gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau a deddfwriaethau ansolfedd

I gael gwybodaeth gyffredinol am ddim ynghylch gweithdrefnau a deddfwriaethau ansolfedd yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ansolfedd – ffoniwch 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Ar gyfer yr Alban, cysylltwch â'r Cyfrifydd mewn Methdaliad. Ar gyfer Gogledd Iwerddon, cysylltwch â Gwasanaeth Ansolfedd Gogledd Iwerddon.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU