Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Opsiynau ad-dalu dyled – canllaw

Os ydych chi'n straffaglu gyda dyledion, mae'n bosib y byddan nhw'n ymddangos yn amhosib eu rheoli. Fodd bynnag, mae ffyrdd o ddianc rhag dyled, waeth pa mor ddrwg mae'r sefyllfa'n ymddangos. Mae hefyd digon o gyngor annibynnol am ddim i’ch helpu chi i reoli eich problem dyled.

Gwynebu eich problem ddyled

Mae ar bawb fwy neu lai arian i rywun - mae biliau'n un o ffeithiau bywyd. Ond weithiau, mae'n bosib y byddwch chi'n boddi dan ddyledion ac na allwch chi weld ffordd o dalu'r cyfan. Y peth gwaethaf y gallwch chi ei wneud yw anwybyddu'r broblem - wnaiff hi ddim diflannu ar ei phen ei hun.

Cael cyngor ar ddyled
Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim i’ch helpu chi i ddelio â’ch problem dyled wrth sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Cael y budd gorau o'ch arian

Os ydych chi mewn dyled, ceisiwch lunio cyllideb bersonol realistig er mwyn i chi wybod i ble mae'ch arian yn mynd - a faint y gallwch chi fforddio'i dalu i'r bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw.

Os nad oes gennych ddigon i dalu'ch dyledion, edrychwch ar ffyrdd o dorri'ch costau a chynyddu eich incwm.

Torri'ch costau

Gallwch edrych ar eich costau i weld ymhle y gallwch chi arbed arian. Gallech hefyd roi cynnig ar edrych o gwmpas i weld a allwch chi leihau'ch biliau, neu ystyried gwerthu pethau sy'n eiddo i chi ac nad oes rhaid i chi eu cadw (ail gar er enghraifft).

Cynyddu eich incwm

Mae'n bosib eich bod mewn dyled hefyd am nad ydych chi'n derbyn yr holl arian y mae gennych yr hawl iddo.
Er enghraifft, mae'n beth doeth:

  • sicrhau nad ydych chi'n talu gormod o dreth
  • edrych i weld a oes gennych yr hawl i gredydau treth
  • sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau y mae gennych yr hawl iddynt
  • sicrhau bod unrhyw deulu a ffrindiau sy'n byw gyda chi'n talu digon tuag at gostau'r cartref
  • meddwl am rentu ystafell sbâr i letywr
  • gweld a yw eich taliadau morgais wedi'u gwarchod gan yswiriant

Ffyrdd o ad-dalu eich dyledion

Mae nifer o ffyrdd i ad-dalu eich dyledion. Gallwch gael cyngor dyled annibynnol am ddim ac wyneb yn wyneb i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r ffordd orau i ddelio â’ch problem dyled.

Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ba gyfyngiadau a chyfrifoldebau y mae’n rhaid i chi gytuno iddynt a sut y mae opsiynau ad-dalu gwahanol yn effeithio ar bethau fel:

  • eich credyd-raddio
  • eich cartref - er enghraifft, os yw dal mewn peryg o gael ei werthu i dalu eich dyledion
  • pa ddulliau gweithredu y gall eich credydwyr eu cymryd i adennill eu harian, er enghraifft, eich cymryd i’r llys i’ch gwneud yn fethdalwr

Trefniadau anffurfiol

Trefniad anffurfiol yw pan fyddwch yn cytuno gyda’ch credydwyr i wneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion dros gyfnod o amser.

Trefniadau gwirfoddol annibynnol (IVAs)

Mae trefniadau gwirfoddol annibynnol yn drefniadau ffurfiol gyda’ch credydwyr i dalu eich holl neu ran o’ch dyledion dros gyfod o amser. Mae’n rhaid iddynt gael ei sefydlu gan arbenigwr dyled awdurdodedig ac mae costau penodol y mae angen i chi eu talu.

Cwmnïau rheoli dyledion (DMCs)

Gall cwmnïau rheoli dyledion gynnig help i chi os ydych chi mewn dyled (fel arfer, dim ond â dyledion 'nad ydynt yn flaenoriaeth' y bydd y rhain yn delio - gweler y ddolen 'Cael gwybod mwy am ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth' isod). Byddan nhw'n trafod gyda'ch credydwyr ar eich rhan er mwyn gostwng eich taliadau'n gyffredinol. Wedyn, byddwch chi'n gwneud un taliad i'r Cwmni sy'n ei ddosbarthu i'r credydwyr.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau rheoli dyledion yn codi ffi, felly mae’n bosib y bydd gennych lai o arian ar gael o’r incwm sydd gennych i setlo’ch dyledion. Fodd bynnag, mae sefydliadau megis y Llinell Ddyled Genedlaethol a’r Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS) yn cynnig cynlluniau rheoli dyled am ddim.

Gorchmynion Gweinyddu

Gall Orchymyn Gweinyddu eich helpu chi i ddelio â’ch dyledion os ydynt yn £5,000 neu lai ac rydych yn gallu fforddio i wneud taliadau rheolaidd i’ch credydwyr. Mae angen i chi wneud cais am Orchymyn Gweinyddu drwy eich llys sirol lleol a cheir costau ac amodau y mae angen i chi eu cyrraedd.

Methdaliad

Unwaith i chi fynd yn fethdalwr, bydd person a elwir yn ‘ymddiriedolwr’ yn cael ei benodi i gymryd rheolaeth o’ch asedau (eiddo, cartref, incwm dros ben ayb) i werthu neu eu defnyddio i helpu i dalu’ch dyledion. Bydd eich materion ariannol yn cael eu hymchwilio ac y mae angen i chi gytuno i gyfyngiadau penodol. Er enghraifft, ni allwch fenthyg fwy na £500 heb roi gwybod i’r benthycwwr o’r methdaliad.

Gorchmynion rhyddhau dyled

Gall orchmynion rhydau dyled eich helpu chi i ddelio â mathau penodol o ddyled os oes llai na £15,000 o ddyled gennych, ychydig o incwm dros ben ac nid ydych yn berchen ar eich cartref. Mae angen i chi wneud cais am orchymyn rhyddhau dyled drwy arbenigwr dyled awdurdodedig.

Trefniadau gwirfoddol llwybr-carlam

Os ydych chi’n fethdalwr, mae’n bosib y gall trefniant gwirfoddol llwybr- carlam fod yn ffordd i ddileu’r methdaliad a delio â’ch dyledion.
Mae angen i chi wneud cais am drefniant gwirfoddol llwybr-carlam drwy swyddog o’r llys methdaliad a elwir yn ‘Dderbynnydd Swyddogol’ ac mae angen i’ch credydwyr gytuno i hyn. Mae costau’n ymglymedig ac amodau sydd angen i chi gyrraedd. Er enghraifft, mae angen bod asedion (eiddo, cyfranddaliadau ayb) gennych sy’n hawdd i’w gwerthu.

Cyfuno dyledion

Cyfuno dyled yw codi un benthyciad i dalu’n ôl nifer o ddyledion sydd gennych eisoes. Dylech gael cyngor annibynnol cyn codi benthyciad a gwnewch yn sicr mai hwn yw’r ffordd iawn i ddelio â’ch problem dyled.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU