Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trefniadau gwirfoddol llwybr carlam – ffyrdd allan o fethdaliad

Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn fethdalwr, gallai trefniant gwirfoddol llwybr carlam (FTVA) fod yn ffordd o ganslo'r methdaliad a delio â’ch dyledion. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am drefniant, a bydd amodau a chostau yn berthnasol. Yma, cewch wybod sut bydd trefniadau gwirfoddol llwybr carlam yn gweithio, a lle i gael cymorth a chyngor.

Sut mae trefniant gwirfoddol llwybr carlam yn gweithio?

Cytundeb rhyngoch chi a'ch credydwyr (pobl y mae arnoch arian iddynt) lle byddwch yn cytuno i dalu eich dyled yn llawn, neu ran o'ch dyled, yw trefniant gwirfoddol llwybr carlam.

Bydd angen i chi wneud cais am drefniant drwy un o swyddogion y llys methdaliad, sef y ‘Derbynnydd Swyddogol’. Bydd yn gofyn i’ch credydwyr dderbyn y trefniant. Os caiff ei dderbyn, dim ond yr asedau a/neu unrhyw incwm sbâr y mae eu hangen i dalu'r swm o ddyled y cytunwyd arno y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn eu rheoli.

Pan fydd gennych chi drefniant gwirfoddol llwybr carlam:

  • bydd y gorchymyn methdalu gan y llys yn cael ei ganslo
  • ni fydd eich credydwyr yn cael cymryd camau pellach yn eich erbyn heb ganiatâd y llys
  • bydd eich Derbynnydd Swyddogol yn rheoli'r trefniant – er enghraifft, bydd yn trefnu’r taliadau i’ch credydwyr

Beth fydd yn digwydd i’ch achos methdaliad

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gwneud yn siŵr bod y llys yn canslo eich methdaliad. Golyga hyn:

  • y bydd pob cyfeiriad at eich methdaliad yn cael ei ddileu o gofnodion swyddogol – er enghraifft, y Gofrestr Ansolfedd Unigolion (cronfa ddata ar-lein sydd ar gael i’r cyhoedd)
  • y bydd unrhyw un y mae’r Derbynnydd Swyddogol wedi rhoi gwybod iddynt am eich methdaliad yn cael gwybod ei fod wedi'i ganslo – er enghraifft, eich banc neu'ch darparwr pensiwn
  • y bydd unrhyw asedau sydd heb gael eu gwerthu eisoes neu sydd ddim yn angenrheidiol i dalu eich dyledion yn cael eu rhoi yn ôl i chi

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad ydych chi bellach yn fethdalwr, ac nad yw cyfyngiadau’r methdaliad yn berthnasol mwyach. Dyma’r cyfrifoldebau a’r rheolau y mae'n rhaid i unigolyn sy'n fethdalwr gytuno i'w dilyn.

Yr amodau ar gyfer cael trefniant gwirfoddol llwybr carlam

I gael trefniant gwirfoddol llwybr carlam, mae’n rhaid i chi fod wedi'ch gwneud yn fethdalwr gan y llys, ac mae'n rhaid i'ch Derbynnydd Swyddogol a'ch credydwyr gytuno i dderbyn eich trefniant. Fel arfer, byddant yn cytuno:

  • os gellir gwerthu eich asedau yn gyflym
  • os bydd modd i’r credydwyr gael eu talu mwy nag y byddent yn ei gael petaech chi’n mynd yn fethdalwr

Sut mae cael trefniant gwirfoddol llwybr carlam

Ceir pedwar cam i gael trefniant gwirfoddol llwybr carlam. Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, gallwch gael cyngor am ddim am eich opsiynau gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Cam un: cysylltwch â’ch Derbynnydd Swyddogol i weld ai trefniant gwirfoddol llwybr carlam yw’r opsiwn gorau i chi. Gall anfon y ffurflenni atoch a’ch helpu i’w llenwi.

Cam dau: dylech lenwi’r ffurflenni a chynnwys dogfen sy’n dangos y canlynol:

  • eich dyledion – er enghraifft, faint sydd arnoch chi i bob credydwr
  • eich asedau a’ch incwm y gellir eu defnyddio i dalu eich credydwyr
  • eich sefyllfa ariannol – er enghraifft, biliau yn y dyfodol neu daliadau ar forgais neu fenthyciad
  • faint o’ch dyled allwch chi fforddio ei dalu a faint o amser fydd hynny’n ei gymryd

Gall y Derbynnydd Swyddogol eich helpu i lenwi’r ffurflenni a pharatoi’r ddogfen hon, sef ‘cynnig am drefniant gwirfoddol llwybr carlam’. Mae’n rhaid i chi restru eich dyledion a’ch credydwyr i gyd. Gall unrhyw rai na chânt eu cynnwys wneud cais i ganslo’r trefniant. Mae gwneud datganiadau ffug neu beidio â chynnwys gwybodaeth berthnasol yn drosedd.

Cam tri: ar ôl eu llenwi, anfonwch y ffurflenni a’r cynnig at eich Derbynnydd Swyddogol.

Os na fydd y Derbynnydd Swyddogol yn derbyn eich cais, byddwch yn parhau i fod yn fethdalwr.

Os bydd y Derbynnydd Swyddogol yn derbyn eich cais, bydd yn chwarae rôl enwebai eich trefniant gwirfoddol llwybr carlam. Golyga hyn y bydd yn ceisio perswadio eich credydwyr i gytuno i’ch trefniant.

Cam pedwar: bydd eich credydwyr yn pleidleisio ar eich cynnig. Er mwyn i’r trefniant gael ei dderbyn, bydd arnoch angen i 75 y cant neu ragor o'r rheini sy'n pleidleisio gytuno iddo.

Os bydd eich credydwyr yn gwrthod eich cais, byddwch yn parhau i fod yn fethdalwr.

Os bydd eich credydwyr yn derbyn eich trefniant, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn chwarae rôl goruchwyliwr eich trefniant. Golyga hyn y bydd yn rheoli’r modd y byddwch yn ad-dalu eich dyledion i’ch credydwyr.

Ffioedd y trefniant gwirfoddol llwybr carlam

Bydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd canlynol i’r Derbynnydd Swyddogol:

  • ffi enwebai’r trefniant – £300
  • ffi goruchwyliwr y trefniant – 15 y cant o’r cyfanswm a godir i dalu eich dyledion
  • ffi cofrestru’r trefniant – £15

Mae’n rhaid i chi dalu ffi enwebai’r trefniant a ffi cofrestru’r trefniant cyn i chi anfon eich cais at y Derbynnydd Swyddogol.

Os na chaiff eich trefniant ei dderbyn gan eich Derbynnydd Swyddogol na’ch credydwyr, bydd y ffioedd yn cael eu had-dalu i’r unigolyn a gaiff ei benodi i reoli eich methdaliad.

Eich cyfrifoldebau ar ôl i drefniant gwirfoddol llwybr carlam gael ei roi

Os na fyddwch yn cydweithredu, gall y trefniant ddod i ben, a gall achos methdaliad ddechrau yn eich erbyn.

Mae’n rhaid i chi gydweithredu â’r Derbynnydd Swyddogol, er enghraifft:

  • darparu unrhyw wybodaeth ariannol y mae’n gofyn amdani
  • trosglwyddo unrhyw asedau y cytunwyd arnynt yn y trefniant
  • llwyddo i fod yn brydlon wrth wneud yr holl daliadau y cytunwyd iddynt yn y trefniant

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU