Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn fethdalwr, fel arfer, cewch eich rhyddhau o'ch dyledion ar ôl 12 mis. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi ei wneud ar ôl i'ch methdaliad ddod i ben, sut gallwch ddiweddaru eich ffeiliau credyd, a phryd fydd eich asedau yn cael eu dychwelyd atoch.
Fel arfer, byddwch yn fethdalwr am 12 mis. Ar ôl y cyfnod hwn, fel arfer, cewch eich rhyddhau yn awtomatig o’r dyledion a oedd yn ddyledus gennych yn eich methdaliad, ac o gyfyngiadau’r methdaliad. Dyma’r rheolau y byddwch yn cytuno iddynt pan gewch eich gwneud yn fethdalwr.
Gallwch gael eich rhyddhau cyn hyn os bydd y Derbynnydd Swyddogol (un o swyddogion y llys methdaliad) yn gorffen ymchwilio i’ch materion ac nad yw’ch credydwyr yn gwrthwynebu.
Ceir adegau lle gellir canslo eich methdaliad. I gael gwybod rhagor, darllenwch yr arweiniad isod, ‘A ellir canslo eich methdaliad?’.
Gellir gohirio eich rhyddhau:
Dylech gysylltu â'ch Derbynnydd Swyddogol lleol i gadarnhau pryd gewch eich rhyddhau o fethdaliad.
Dylech gysylltu â'ch Derbynnydd Swyddogol lleol i gadarnhau pryd gewch eich rhyddhau o fethdaliad.
Bydd y Derbynnydd Swyddogol fel arfer yn adolygu eich ffeil methdaliad bum mis ar ôl i chi gael eich gwneud yn fethdalwr. Os na fydd eich credydwyr yn gwrthwynebu, gallech gael eich rhyddhau yn gynnar. Os byddwch chi’n cael eich rhyddhau yn gynnar, bydd y llys yn anfon copi wedi'i stampio o 'hysbysiad rhyddhau’n gynnar' i chi. Bydd y ddogfen hon yn cadarnhau'r dyddiad y cewch eich rhyddhau, sy'n annhebygol o fod o fewn chwe mis ar ôl i chi gael eich datgan yn fethdalwr.
Os byddwch chi’n cael eich rhyddhau yn awtomatig, ni fyddwch yn cael hysbysiad swyddogol yn cadarnhau eich rhyddhau.
I gael prawf eich bod wedi’ch rhyddhau o fethdaliad, gallwch wneud y canlynol:
Hyd yn oed ar ôl i chi gael eich rhyddhau, mae’n rhaid i chi barhau i gydweithredu â’ch Derbynnydd Swyddogol neu’ch ymddiriedolwr a darparu unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani. Efallai y bydd yn dal i fod yn y broses o gael gwared â’ch asedau, er enghraifft, gwerthu eich tŷ.
Chi sy’n dal yn gyfrifol am ddyledion penodol nad ydynt wedi'u cynnwys yn eich methdaliad, er enghraifft, dirwyon y llys a benthyciadau myfyrwyr. Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r dyledion hyn a gall methu gwneud hyn arwain at gamau yn cael eu cymryd gan y llys. Gall cyrff megis Cyngor Ar Bopeth eich helpu i ganfod ffyrdd o fynd i’r afael â’r dyledion nad ydynt wedi’u cynnwys yn eich methdaliad.
Ni fydd yr asedau a hawliwyd gan eich ymddiriedolwr yn cael eu dychwelyd atoch ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Gall gymryd nifer o flynyddoedd i roi trefn ar yr asedau hyn. Bydd rheolaeth eich ymddiriedolwr dros eich cartref yn para am hyd at dair blynedd ar ôl y dyddiad y cawsoch eich gwneud yn fethdalwr.
Os byddwch yn gwneud taliadau o’ch incwm sbâr tuag at eich dyledion methdaliad, bydd yn rhaid i chi barhau i'w gwneud, hyd yn oed ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Gelwir y taliadau hyn yn Orchmynion Taliadau Incwm neu’n Gytundebau Taliadau Incwm. Byddant yn para am dair blynedd.
Ar ôl i chi gael eich rhyddhau, fel arfer ni fydd yn rhaid i chi gydymffurfio â chyfyngiadau’r methdaliad mwyach. Fodd bynnag, gall y cyfyngiadau hyn bara rhwng 2 a 15 mlynedd os cawsoch Orchymyn Cyfyngiadau Methdaliad neu Ymgymeriad Cyfyngiadau Methdaliad. Bydd eich Derbynnydd Swyddogol yn gallu cadarnhau pryd fyddwch yn rhydd o gyfyngiadau’r methdaliad.
Bydd cofnodion swyddogol yn cael eu diweddaru ar ôl i chi gael eich rhyddhau, ond bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r asiantaethau gwirio credyd eich hun i newid eich ffeil credyd.
Cronfa ddata ar-lein o achosion ansolfedd yng Nghymru a Lloegr yw’r Gofrestr Ansolfedd Unigolion. Bydd eich methdaliad yn cael ei ddileu o'r gofrestr hon dri mis ar ôl i chi gael eich rhyddhau.
Bydd manylion perchnogaeth eiddo yn cael eu cofnodi ar gofrestr gyhoeddus o fuddiannau tir ar gyfer Cymru a Lloegr - 'Y Gofrestrfa Tir'. Bydd hysbysiadau o’ch methdaliad yn cael eu rhoi ar y gofrestr hon. Bydd yr hysbysiadau yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr pan na fydd yr eiddo bellach yn rhan o'ch ystâd methdalu (un o'r asedau a ddefnyddir i dalu eich dyledion).
Bydd cyfeiriad eich cartref neu'ch busnes yn cael ei gysylltu â'ch methdaliad a bydd y manylion yn cael eu cadw ar gofrestr gyhoeddus arall, sef 'Y Gofrestr Pridiannau Tir'. Bydd y manylion hyn yn parhau i fod ar gofnod am o leiaf pum mlynedd ar ôl i chi gael eich gwneud yn fethdalwr.
Eich cyfrifoldeb chi fydd diweddaru eich ffeil credyd ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Gallwch anfon copi o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cynnwys manylion eich rhyddhau o fethdaliad i’r asiantaethau gwirio credyd.