Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Methdaliad – beth fydd yn digwydd i'ch pensiwn

Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn fethdalwr, gellir hawlio eich taliadau, eich buddion neu'ch hawliau pensiwn nawr neu yn y dyfodol er mwyn eich helpu i dalu'r dyledion methdaliad. Yn y fan hon, cewch wybod pwy fydd yn asesu eich sefyllfa o safbwynt pensiwn, pryd y gellir hawlio eich pensiwn, pa rannau sydd wedi'u gwarchod a ble i fynd am gymorth a chyngor.

Eich pensiwn a methdaliad

Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, byddwch chi'n colli rheolaeth dros unrhyw asedau (eiddo, cyfranddaliadau, cynilion ac ati). Caiff y rhain eu gwerthu neu'u gwaredu gan unigolyn a benodir i reoli eich methdaliad er mwyn helpu i dalu'r dyledion sy'n gysylltiedig ag ef. Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘ymddiriedolwr’. Mae'n bosib bod eich pensiwn yn ased, felly gallai'r pensiwn ei hun a'r buddion neu'r taliadau sy'n deillio ohono gael ei hawlio gan eich ymddiriedolwr i dalu'r dyledion sy'n gysylltiedig â'ch methdaliad.

Yr wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu ynglŷn â'ch pensiwn

Edrychir ar fuddion a'r hawliau sydd gennych yn eich pensiwn er mwyn gweld a ellir eu hawlio i helpu i dalu eich dyledion methdaliad. Gall eich ymddiriedolwr ofyn am wybodaeth am eich pensiwn, er enghraifft:

  • enw unrhyw gynlluniau pensiwn yr ydych chi a/neu'ch cyflogwr wedi cyfrannu atynt
  • faint sydd wedi cael ei dalu i'r pensiwn, yn enwedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf
  • faint rydych chi'n ei gael mewn taliadau o bensiwn
  • faint fyddech chi wedi'i gael o bosib o bensiwn fel un swm

Rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir i chi amdani. Os na fyddwch yn cydweithredu, fe allai effeithio ar y dyddiad y cewch eich rhyddhau o'ch methdaliad ac arwain at ragor o weithredu gan y llys.

Pensiwn y Wladwriaeth a Chynlluniau Pensiynau'r Wladwriaeth ar sail Enillion

Ni ellir hawlio'r rhannau canlynol o'ch pensiwn i helpu i dalu'r dyledion sy'n gysylltiedig â'ch methdaliad:

  • pensiwn y wladwriaeth
  • unrhyw daliadau sy'n ddyledus i chi o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS)
  • unrhyw hawliau sydd wedi'u diogelu - sy'n cyfateb i gynllun SERPS os gwnaethoch gontractio allan ohono

Mathau eraill o bensiwn

Mae'n bosib yr hawlir unrhyw fathau eraill o bensiwn, budd neu hawl. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar pryd y gwnaethpwyd eich deiseb (cais) methdaliad ac a yw'ch cynllun pensiwn wedi'i gymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM. Gall eich ymddiriedolwr neu'ch Derbynnydd Swyddogol gadarnhau a yw'ch cynllun pensiwn wedi'i gymeradwyo ai peidio.

Os yw dyddiad y ddeiseb methdaliad ar ôl 29 Mai 2009 neu'n dangos y dyddiad hwnnw, a bod eich pensiwn wedi'i gymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM, nid yw'n ased. Mae hyn yn golygu na all eich ymddiriedolwr wneud hawliad ar eich pensiwn. Fodd bynnag, gall eich ymddiriedolwr hawlio unrhyw fuddion yr ydych yn eu cael neu y byddwch yn eu cael yn y dyfodol, gan gynnwys cyfandaliad, cyn i chi gael eich rhyddhau o fethdaliad.

Os dyddiwyd eich deiseb methdaliad cyn 29 Mai 2000, neu os nad yw wedi'i gymeradwyo gan Gyllid a Thollau EM, mae eich pensiwn yn ased. Gall eich ymddiriedolwr hawlio unrhyw gyfandaliad a thaliadau rheolaidd sy'n ddyledus. Gellir eu hawlio pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran ymddeol cynharaf y mae eich polisi'n ei ganiatáu. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os bydd eich pensiwn yn cael ei dalu flynyddoedd lawer ar ôl i chi gael eich rhyddhau o fethdaliad.

Os gellir hawlio eich pensiwn.

Os gellir hawlio eich pensiwn fel ased, gellir hawlio cyfandaliad neu daliadau rheolaidd sy'n ddyledus pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran ymddeol cynharaf a ganiateir gan eich polisi. Gall y dyddiad hwn fod sbel ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'ch methdaliad.

Eich opsiynau ar gyfer diogelu eich pensiwn os caiff ei hawlio fel ased

Mae'n bosib y gallwch ddiogelu eich pensiwn drwy wneud y canlynol:

  • gwneud cais i'r llys am orchymyn cau allan
  • dod i gytundeb gyda'ch ymddiriedolwr
  • prynu eich budd yn y polisi pensiwn yn ôl gan yr ymddiriedolwr

Dylech gael cyngor annibynnol neu gael sgwrs â'ch ymddiriedolwr neu'ch Derbynnydd Swyddogol ynglŷn â'r opsiynau i ddiogelu eich pensiwn.

Cynlluniau pensiwn galwedigaethol

Mae gan rai polisïau pensiwn galwedigaethol 'gymal fforffedu'. Mae'r cymal hwn yn golygu eich bod yn awtomatig yn colli unrhyw hawliau a buddion i'r pensiwn os cewch eich gwneud yn fethdalwr. Os bydd hyn yn digwydd, ni all eich ymddiriedolwr wneud hawliad ar y pensiwn hwn. Bydd eich ymddiriedolwr yn ymchwilio i'r cymal fforffedu er mwyn gweld a oes yn rhaid ei ddilyn.

Os ydych chi eisoes yn cael taliadau pensiwn

Os ydych chi eisoes yn cael taliadau o bensiwn, bydd eich ymddiriedolwr yn ystyried yr arian hwn i fod yn rhan o'ch incwm. Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, weithiau gellir defnyddio eich incwm i helpu i dalu eich dyledion methdaliad, ond dim ond os gallwch fforddio i wneud hynny.

Gallwch gytuno i wneud cyfraniad at eich dyledion o'ch incwm (drwy ddefnyddio Cytundeb Taliadau Incwm) neu gall y llys eich gorchymyn i wneud hynny (drwy gyhoeddi Gorchymyn Taliadau Incwm). Bydd y trefniadau hyn yn para am dair blynedd.

Cyfraniadau i'ch pensiwn yn y dyfodol

Cewch wneud cyfraniadau i'ch pensiwn hyd yn oed tra'ch bod yn fethdalwr. Fodd bynnag, dylech gael cyngor annibynnol neu sgwrs â'ch darparwr pensiwn. Dylech hefyd gysylltu â'ch ymddiriedolwr, oherwydd mae'n bosib y bydd angen unrhyw incwm dros ben sydd gennych i dalu eich dyledion methdaliad.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Cyngor methdaliad

Cael cyngor ar fethdaliad a’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Allweddumynediad llywodraeth y DU