Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Methdaliad – beth fydd yn digwydd i'ch cartref

Os cewch eich datgan yn fethdalwr, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref, neu ei werthu, er mwyn eich helpu i dalu eich dyledion methdaliad. Yn y fan hon cewch wybod sut bydd methdaliad yn effeithio ar eich budd ariannol a'ch hawl dros eich cartref, pryd y gellir osgoi gwerthu a ble i gael cyngor.

Eich cartref a methdaliad

Os cewch eich datgan yn fethdalwr, bydd 'ymddiriedolwr', sef yr unigolyn a benodir i reoli eich methdaliad, yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoli eich asedau (eiddo, cyfranddaliadau ac ati).

Ased yw'ch cartref, a gellir ei werthu os dyma'r unig ffordd y gall eich ymddiriedolwr dalu eich credydwyr (sef y bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw). Os yw'ch cartref yn cael ei werthu, bydd eich credydwyr yn cael eu talu ar ôl i unrhyw forgeisi neu fenthyciadau gwarantedig gael eu had-dalu. Dylech gael cyngor annibynnol ynglŷn â sut gall methdaliad effeithio ar eich morgais neu ar unrhyw fenthyciadau sydd wedi'u gwarantu yn erbyn eich cartref.

Rhentu a methdaliad

Gall methdaliad effeithio ar eich sefyllfa rhentu a dylech edrych ar y cytundeb tenantiaeth sydd gennych gyda'ch landlord. Efallai y bydd modd i chi gael cymorth gyda'ch rhent, a gall cyrff megis Cyngor Ar Bopeth eich cynghori ynghylch y Budd-dal Tai neu'r Lwfans Tai Lleol.

Methdaliad – eich hawl dros eich cartref

Os cewch eich datgan yn fethdalwr, gellir trosglwyddo'r hawliau canlynol dros eich cartref i'ch ymddiriedolwr:

  • lles buddiannol eich eiddo - sef eich cyfran chi o werth yr eiddo ar ôl ad-dalu unrhyw ddyledion gwarantedig (megis morgeisi a benthyciadau)
  • y teitl cyfreithiol, ond dim ond os mai chi yw'r unig berchennog - sef y ddogfen sy'n dangos pwy yw'r perchennog cyfreithiol

Bydd manylion y trosglwyddiadau hyn yn cael eu cofnodi mewn cofrestr gyhoeddus o fuddiannau tir ar gyfer Cymru a Lloegr - 'Y Gofrestrfa Tir'. Ni fydd y manylion yn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr nes ceir cadarnhad nad yw'r eiddo bellach yn rhan o'ch ystad methdaliad (un o'r asedau a ddefnyddir i dalu eich dyledion).

Bydd cyfeiriad eich cartref neu'ch busnes yn cael ei gysylltu â'ch methdaliad a bydd y manylion yn cael eu cadw ar gofrestr gyhoeddus arall, sef 'Y Gofrestr Pridiannau Tir'. Bydd y manylion hyn y cael eu dileu bum mlynedd ar ôl dechrau eich methdaliad a gall effeithio ar unrhyw geisiadau am gredyd sy'n dyfynnu'r cyfeiriad.

Methdaliad a bod yn unig berchennog ar gartref

Os mai chi yw'r unig berchennog, bydd y teitl cyfreithiol a'ch lles buddiannol yn cael ei drosglwyddo i'ch ymddiriedolwr. Chewch chi ddim gwerthu'r eiddo na hawlio unrhyw arian a geir ar ôl gwerthu. Bydd Rhybudd Cyfyngiad Methdaliad yn cael ei roi ar eich eiddo yn y Gofrestrfa Tir i gadarnhau hyn.

Methdaliad a bod yn berchennog ar gartref ar y cyd â rhywun arall

Os ydych chi'n rhannu perchnogaeth eich cartref gyda rhywun arall, rydych chi'n gydberchennog. Ni fydd y teitl cyfreithiol na'r lles buddiannol yn cael ei drosglwyddo i'ch ymddiriedolwr. Fodd bynnag, ceir ambell gyfyngiad a elwir yn 'Gyfyngiadau Ffurflen J' a fydd yn cael eu cofnodi yn y Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn golygu y bydd eich ymddiriedolwr yn gallu:

  • gofyn i'r llys eich gorchymyn i werthu eich cartref
  • hawlio eich cyfran chi o'r lles buddiannol os yw'r eiddo'n cael ei werthu
  • cael gwybod am unrhyw fusnes sy'n ymwneud â'ch cartref - er enghraifft, os byddwch chi'n ceisio ei werthu

Am ba hyd y mae eich cartref mewn perygl o gael ei werthu?

Hyd yn oed ar ôl i’ch methdaliad ddod i ben, gall eich ymddiriedolwr gadw'r hawliau dros eich lles buddiannol a/neu'ch teitl cyfreithiol. Bydd hyn am gyfnod o dair blynedd fel rheol o'r dyddiad y dechreuodd eich methdaliad, a gellir ymestyn y cyfnod hwnnw dan yr amodau canlynol, er enghraifft:

  • os ydych chi wedi cael gorchymyn gan y llys i werthu eich cartref
  • os na wnaethoch sôn wrth yr ymddiriedolwr am eiddo y mae gennych fudd ariannol ynddo

Dylech siarad â'ch ymddiriedolwr ynghylch am ba hyd y mae eich cartref mewn perygl o gael ei werthu er mwyn talu eich dyledion methdaliad.

Methdaliad – ar ôl gwerthu eich cartref

Bydd yr arian a geir yn sgil gwerthu eich cartref yn cael ei ddefnyddio i dalu eich dyledion methdaliad ar ôl ad-dalu unrhyw ddyledion gwarantedig (megis morgeisi neu fenthyciadau). Os oes digon o arian i dalu costau eich methdaliad a'ch dyledion i gyd, mae'n bosib y caiff eich gorchymyn methdalu ei ddirymu (ei ganslo).

Methdaliad – atal gwerthu eich cartref

Efallai y bydd modd i chi atal eich cartref rhag cael ei werthu, neu ohirio'r broses:

  • os yw gwerth eich lles buddiannol yn llai na £1,000
  • os yw'r llys yn penderfynu bod amgylchiadau eithriadol yn perthyn i'ch achos
  • os gellir trosglwyddo'r lles buddiannol neu'r teitl i rywun arall, fel partner neu ffrind er enghraifft
  • os oes angen i chi ddechrau gwneud trefniadau llety ar gyfer plant neu bartner – gellir gohirio gwerthu’r cartref am hyd at flwyddyn

Dylech gael cyngor annibynnol a chysylltu â'ch ymddiriedolwr os ydych yn dymuno atal neu oedi'r broses o werthu eich cartref.

Additional links

Cyngor methdaliad

Cael cyngor ar fethdaliad a’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Allweddumynediad llywodraeth y DU