Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, gall effeithio ar sut byddwch yn rheoli eich cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, yn ogystal â’ch statws credyd. Yma, cewch wybod beth fydd yn digwydd i’r rhain, y cyfyngiadau y bydd yn rhaid i chi gytuno iddynt, a lle i gael cymorth a chyngor.
Pan fydd y llys yn eich gwneud yn fethdalwr, dylech roi’r gorau i ddefnyddio eich llyfrau siec a chardiau banc neu gardiau credyd. Bydd yn rhaid i chi roi’r rhain i’r Derbynnydd Swyddogol (swyddog methdaliad y llys).
Bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn cael gwybod eich bod yn fethdalwr, a bydd yn rhewi eich cyfrifon i gyd, gan gynnwys unrhyw gyfrifon ar y cyd. Pan fydd eich cyfrifon wedi’u rhewi, ni fyddwch yn gallu cael taliadau na gwneud taliadau. Bydd hyn yn effeithio ar unrhyw archebion sefydlog neu ddebydau uniongyrchol a fydd gennych, felly dylech wneud trefniadau eraill i dalu unrhyw filiau.
Bydd eich Derbynnydd Swyddogol neu’ch ymddiriedolwr (yr unigolyn a gaiff ei benodi i reoli eich methdaliad) yn rheoli eich asedau (eiddo, cyfranddaliadau ac ati). Ystyrir unrhyw arian yn eich cyfrif banc yn ased, a chaiff ei ddefnyddio i ad-dalu eich credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt).
Gallwch ofyn i’ch ymddiriedolwyr neu’ch Derbynnydd Swyddogol a fydd yn fodlon rhyddhau:
Os oes arnoch chi arian i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu (er enghraifft, gorddrafft neu fenthyciad gan y banc), bydd yn un o’ch credydwyr.
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, ni chewch wneud taliadau yn uniongyrchol i’ch credydwyr, a ni chânt ofyn am unrhyw daliadau. Bydd eich ymddiriedolwr neu’ch Derbynnydd Swyddogol yn ysgrifennu at eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn egluro sut bydd y dyledion hyn yn cael eu rheoli.
Os oes gennych chi gyfrif banc ar y cyd, gall y banc ofyn i ddeilydd arall y cyfrif ad-dalu’r arian sy’n ddyledus. Dylech gael cyngor annibynnol ynghylch sut gall bod yn fethdalwr effeithio ar unrhyw ddyledion sy’n gysylltiedig â chyfrif ar y cyd.
Gall eich ymddiriedolwr neu’ch Derbynnydd Swyddogol werthu eich cartref os mai dyma fydd yr unig ffordd o godi arian i dalu eich dyledion methdaliad. Bydd morgeisi neu fenthyciadau sydd wedi’u gwarantu yn cael eu had-dalu cyn eich dyledion methdaliad.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch benthyciwr morgais neu i ddarparwr eich benthyciad eich bod yn fethdalwr. Dylech gael cyngor annibynnol ynghylch sut gall bod yn fethdalwr effeithio ar eich morgais neu fenthyciadau sydd wedi'u gwarantu.
Bydd manylion eich methdaliad yn cael eu cynnwys ar eich ffeil credyd, sef yr wybodaeth a ddefnyddir gan eich benthycwyr i benderfynu pa mor addas ydych chi i gael credyd. Bydd ffeil credyd gwael yn ei gwneud yn anodd i chi gael credyd (megis gorddrafft neu fenthyciad), a gall olygu talu ymlaen llaw am bethau megis trydan.
Bydd eich methdaliad yn parhau i fod ar eich ffeil credyd am chwe blynedd ar ôl y dyddiad y cawsoch eich gwneud yn fethdalwr gan y llys. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd asiantaethau gwirio credyd yn dileu’r cofnod o fethdaliad yn awtomatig.
Gallwch gysylltu â’r asiantaeth gwirio credyd yn uniongyrchol, neu gael cyngor gan gynghorydd annibynnol ynghylch dyled os oes arnoch eisiau edrych ar eich ffeil credyd.
Bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gyfredol yn penderfynu a allwch chi barhau i ddefnyddio eich cyfrifon a pha gyfleusterau fydd ar gael i chi.
Mae cyfyngiadau y bydd yn rhaid i chi gytuno iddynt os byddwch yn defnyddio cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu pan fyddwch yn fethdalwr. Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynghylch unrhyw rai o gyfyngiadau’r methdaliad, ewch i siarad â’ch ymddiriedolwr neu ewch i gael cyngor annibynnol.
Mae ffyrdd ar gael o reoli eich arian pan fyddwch yn fethdalwr, er enghraifft:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol.