Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y cyfeiriadur ymarferwyr ansolfedd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion cyswllt ymarferwyr ansolfedd (arbenigwyr dyledion) sydd wedi cytuno i gynnwys eu manylion yn y cyfeiriadur. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyrff awdurdodi ymarferwyr ansolfedd.

Gwybodaeth am ymarferwyr ansolfedd

Mae ymarferydd ansolfedd fel arfer yn dwrnai neu'n gyfrifydd sy'n arbenigo mewn materion yn ymwneud ag ansolfedd. Er enghraifft, bydd yn chwarae rhan y canlynol:

  • ‘ymddiriedolwr’ mewn methdaliad – lle bydd yn rheoli ac yn gwerthu asedau’r methdalwr
  • ‘goruchwyliwr’ mewn trefniant gwirfoddol unigol (dewis arall yn hytrach na methdaliad) – lle bydd yn rheoli ad-daliadau’r dyledwr
  • ‘diddymwr’ wrth i gwmni gael ei ddiddymu – lle bydd yn rheoli cwmni sy’n cael ei ddiddymu ac yn gwerthu’r asedau

Gall hefyd roi cyngor ynglŷn â phroblemau penodol yn ymwneud â dyledion, er enghraifft, ai methdaliad fyddai'r ffordd orau o ddelio â'ch dyledion ai peidio. Bydd yn rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Bydd y cyngor hwn ar gael yn rhad ac am ddim gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol neu gan y Llinell Ddyled Genedlaethol.

Mae cyrff awdurdodi yn trwyddedu (rhoi awdurdod i) ymarferwyr ansolfedd. Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal safonau proffesiynol ac ymchwilio i gwynion am ymarferwyr ansolfedd.

Sut mae defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r cyfeiriadur yn cynnwys manylion cyswllt llawn ymarferydd ansolfedd, yn ogystal â manylion cyswllt ei gorff awdurdodi.

Gallwch chwilio ar sail sir, neu ar sail manylion hysbys yr ymarferydd ansolfedd, megis ei enw, ei gwmni neu ei rif awdurdodi.

Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn os...

Nid yw’r cyfeiriadur yn cynnwys gwybodaeth am yr achosion mae ymarferydd ansolfedd yn gweithio arnynt, er enghraifft, methdaliadau unigol a gorchmynion rhyddhad dyledion. Gallwch chwilio am yr wybodaeth hon ar y Gofrestr Ansolfedd Unigolion.

Gallwch chwilio am wybodaeth ynglŷn â chyfarwyddwyr a gafodd eu gwahardd ac ansolfeddau cwmnïau ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Efallai y codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU