Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Methdaliad – rôl y Derbynnydd Swyddogol

Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd un o swyddogion y llys methdaliad, sef y ‘Derbynnydd Swyddogol’, yn cysylltu â chi. Ei brif rôl fydd ymchwilio i’ch methdaliad, ei reoli a’ch rhyddhau chi ohono. Yma, cewch wybod rhagor am ei rôl yn eich methdaliad chi a pha wybodaeth y bydd arno ei hangen gennych.

Gwybodaeth am y Derbynnydd Swyddogol

Bydd eich Derbynnydd Swyddogol yn un o weision sifil y Gwasanaeth Ansolfedd ac yn un o swyddogion y llys methdaliad. Mae gan Dderbynwyr Swyddogol swyddfeydd ledled Cymru a Lloegr, a’u prif ddyletswyddau yn eich methdaliad fydd:

  • casglu ac amddiffyn eich asedau (eiddo, meddiannau, cyfranddaliadau ac ati) ar gyfer eich credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt)
  • ysgrifennu adroddiad ynghylch achos(ion) eich methdaliad
  • bod yn ymddiriedolwr i chi weithiau – yr unigolyn sy’n gwerthu eich asedau i dalu eich credydwyr
  • hysbysebu eich methdaliad mewn cyhoeddiadau swyddogol megis y ‘London Gazette’
  • trefnu eich rhyddhau o fethdaliad

Beth na all y Derbynnydd Swyddogol ei wneud

Ni all y Gwasanaeth Ansolfedd na’r Derbynnydd Swyddogol roi cyngor cyfreithiol nac ariannol i chi. Gallwch gael cyngor o’r fath o’ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol. Gall twrnai neu gynghorydd ariannol annibynnol eich helpu hefyd, ond mae'n bosib y bydd yn codi ffi arnoch.

Cyfweliad gyda’r Derbynnydd Swyddogol

O fewn pythefnos ar ôl i’r llys eich gwneud yn fethdalwr, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad.

Bydd y cyfweliad un ai’n bersonol, neu dros y ffôn, a bydd o gymorth i’r Derbynnydd Swyddogol gasglu gwybodaeth am eich asedau ac achos(ion) eich methdaliad.

Ffurflenni a gwybodaeth ariannol ar gyfer eich cyfweliad

Bydd manylion eich cyfweliad a’r hyn y bydd angen i chi ei baratoi yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig. Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am y canlynol:

  • eich dyledion, gan gynnwys unrhyw gytundebau hur-bwrcas
  • asedau - er enghraifft, eiddo, cyfranddaliadau, polisïau yswiriant, pensiynau
  • credydwyr
  • incwm a chostau – er enghraifft, datganiadau banc, biliau’r cartref neu lyfrau cyfrifon os ydych chi’n fasnachwr unigol

Efallai y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i chi roi’r wybodaeth hon ar ffurflen o’r enw ‘Holiadur Gwybodaeth Rhagarweiniol’. Os felly, bydd yn anfon copi atoch i chi ei lenwi, ac yn rhoi gwybod i chi erbyn pryd y bydd angen i chi ei ddychwelyd.

Gallwch gael cymorth gyda’r holiadur gan eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ymholiadau Ansolfedd (drwy ffonio 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm).

Beth fydd yn digwydd yn y cyfweliad


Bydd Derbynnydd Swyddogol yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod yr wybodaeth yn eich Holiadur Gwybodaeth Rhagarweiniol yn gywir
  • gofyn am wybodaeth ychwanegol am eich dyledion a’ch asedau
  • gofyn sut aethoch yn fethdalwr, a pham
  • ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi am fethdaliad – er enghraifft, am ba hyd y byddwch yn fethdalwr

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad

Ar ôl y cyfweliad, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn gywir ac yn ysgrifennu adroddiad i’ch credydwyr am eich asedau a’ch dyledion. Bydd y broses hon fel arfer yn cymryd rhwng 8 a 12 wythnos.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn rhoi gwybod i’ch credydwyr, eich banc, eich cymdeithas adeiladu ac eraill sy’n gysylltiedig â’ch asedau (megis darparwr yswiriant neu bensiwn) eich bod wedi cael eich gwneud yn fethdalwr.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn hysbysebu eich methdaliad yn y 'London Gazette' a'r Gofrestr Ansolfedd Unigolion. Mae’r ‘London Gazette’ yn gyhoeddiad o hysbysiadau cyfreithiol, ac mae’r Gofrestr Ansolfedd Unigolion yn gronfa ddata ar-lein o fethdalwyr yng Nghymru a Lloegr.

Pwy fydd yn rheoli eich methdaliad?

Bydd yn rhaid i chi roi unrhyw asedau o werth a’r budd ariannol yn eich cartref i unigolyn a gaiff ei benodi i reoli eich methdaliad. Yr unigolyn hwn fydd eich 'ymddiriedolwr', a bydd yn defnyddio'r asedau hyn i dalu'ch credydwyr.

Cyn gynted ag y cewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd y llys yn penodi Derbynnydd Swyddogol i reoli’ch methdaliad. Bydd yn casglu gwybodaeth am eich arian ac yn gwarchod eich asedau ar gyfer eich credydwyr.

Os oes gennych chi asedau sylweddol, bydd y Derbynnydd Swyddogol fel arfer yn gofyn i'ch credydwyr benodi ymarferydd ansolfedd i fod yn ymddiriedolwr i chi. Os nad oes gennych chi asedau sylweddol, y Derbynnydd Swyddogol fydd eich ymddiriedolwr. Arbenigwr dyledion wedi'i awdurdodi yw ymarferydd ansolfedd.

Ffioedd ar gyfer rheoli eich methdaliad

Bydd unrhyw ffioedd a godir gan eich ymddiriedolwr yn cael eu talu gan eich ystad methdaliad (yr asedau a’r arian a gesglir i dalu eich dyledion).

Bydd y ffioedd a godir gan y Derbynnydd Swyddogol wedi’u pennu gan y gyfraith, a bydd ffioedd ymarferydd ansolfedd yn amrywio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ffioedd gan eich Derbynnydd Swyddogol neu’ch ymarferydd ansolfedd.

Eich cyfrifoldebau tuag at eich ymddiriedolwr

Dylech gydweithio’n llawn â’ch ymddiriedolwr, a darparu unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani. Er enghraifft, gwybodaeth am eich cynilion, eich incwm neu’ch eiddo. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gellid oedi eich rhyddhau, neu gallai’r llys gymryd camau pellach yn eich erbyn.

Eich rhyddhau o fethdaliad

Fel arfer, bydd methdaliad yn para am 12 mis. Ar ôl y cyfnod hwn, fel arfer, cewch eich rhyddhau o’r dyledion a oedd yn ddyledus gennych yn eich methdaliad.

Gall fod yn gynharach os bydd y Derbynnydd Swyddogol yn cwblhau ei waith ar eich methdaliad ac os na fydd eich credydwyr yn gwrthwynebu. Gallwch ofyn i’ch Derbynnydd Swyddogol ysgrifennu atoch yn cadarnhau'r dyddiad y cewch eich rhyddhau.

Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn awdurdodi eich rhyddhau ac yn sicrhau y caiff unrhyw gofnodion swyddogol eu diweddaru, er enghraifft y Gofrestr Ansolfedd Unigolion.

Additional links

Cyngor methdaliad

Cael cyngor ar fethdaliad a’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Allweddumynediad llywodraeth y DU