Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, gellir defnyddio eich asedau (eiddo, cyfranddaliadau ac ati), ac weithiau eich incwm sbâr, i dalu eich credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt). Yma, cewch wybod pwy fydd yn gwerthu eich asedau, pa ddyledion fyddwch chi’n gyfrifol amdanynt ac a fydd modd defnyddio eich incwm i’ch helpu i dalu eich dyledion
Pan gewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd eich ymddiriedolwr yn rheoli eich asedau ac unrhyw incwm sbâr. Dyma’r unigolyn a gaiff ei benodi i reoli eich methdaliad; i werthu eich asedau ac i wneud taliadau i'ch credydwyr (pobl y mae arnoch arian iddynt).
Cyn pen pythefnos ar ôl cael eich datgan yn fethdalwr, bydd y Derbynnydd Swyddogol (un o swyddogion y llys methdaliad) yn eich cyfweld. Bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich dyledion, eich asedau a’ch incwm. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu’r Derbynnydd Swyddogol i wneud y canlynol:
Gall eich ymddiriedolwr gadarnhau a oes unrhyw rai o’ch dyledion na ellir eu cynnwys yn eich methdaliad, fel arfer, pethau megis:
Eich cyfrifoldeb chi yw talu’r dyledion hyn a gall methu gwneud hyn arwain at gamau yn cael eu cymryd gan y llys. Gall cyrff megis Cyngor Ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol eich helpu i ganfod ffyrdd o fynd i’r afael â’r dyledion nad ydynt wedi’u cynnwys yn eich methdaliad.
Bydd eich ymddiriedolwr yn trefnu gwerthu eich asedau ac yn rhannu unrhyw arian a godwyd rhwng eich credydwyr.
Bydd y llys yn canslo eich methdaliad os bydd gwerthu eich asedau yn codi digon o arian i dalu’ch dyledion methdaliad i gyd. Bydd unrhyw arian sydd yn weddill ar ôl gwerthu eich asedau yn cael ei ddychwelyd atoch.
Os nad yw’r arian a godwyd yn ddigon i dalu’ch dyledion methdaliad i gyd, bydd eich ymddiriedolwr yn rhannu’r arian sydd ar gael rhwng eich credydwyr. Cewch eich rhyddhau o’r dyledion pan fydd cyfnod y methdaliad yn dod i ben. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud taliadau misol rheolaidd o'ch incwm sbâr (megis cyflog) am dair blynedd tuag at eich dyledion methdaliad, os byddwch yn gallu fforddio hynny.
Os na fydd eich asedau yn ddigon i dalu eich dyledion methdaliad, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud taliadau misol o’ch incwm sbâr. Bydd y trefniant hwn yn para am dair blynedd.
Bydd ar eich ymddiriedolwr angen manylion eich incwm a’ch costau, gan gynnwys costau eich partner neu unrhyw aelodau o’r teulu sy’n ddibynnol arnoch. Bydd yr wybodaeth hon o gymorth i'ch ymddiriedolwr benderfynu ar y canlynol:
Bydd eich ymddiriedolwr yn ceisio dod i gytundeb gyda chi ynglŷn â’ch taliadau misol. Gelwir y math yma o gynllun yn Gytundeb Taliadau Incwm. Os na allwch ddod i gytundeb, bydd eich ymddiriedolwr yn gofyn i’r llys eich gorchymyn i wneud taliadau misol. Gelwir y math yma o gynllun yn Orchymyn Taliadau Incwm. Dylech gael cyngor cyfreithiol os cewch eich dwyn gerbron y llys.
Gall unrhyw incwm sbâr dros £20 y mis cael ei ddefnyddio i dalu’r Cytundeb Taliadau Incwm/Gorchymyn Taliadau Incwm. Bydd y swm wirioneddol yn seiliedig ar faint allwch chi ei fforddio ar ôl talu costau hanfodol megis bwyd a biliau.
Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid i chi wneud taliadau os mai budd-daliadau’r wladwriaeth yw eich prif ffynhonnell o incwm, neu os oes gennych chi lai na £20 y mis o incwm sbâr.
Gall y swm yr ydych yn talu newid neu gall ddod i ben os yw’ch sefyllfa ariannol yn newid. Er enghraifft, yr ydych yn etifeddu arian neu’n colli eich swydd. Mae’n rhaid i chi barhau i â’r taliadau neu wynebu achos llys.