Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Methdaliad – sut mae gwneud cais

Os mai methdaliad yw'r ffordd iawn o ddelio gyda'ch problemau dyledion, mae angen i chi wneud cais i'r llys am orchymyn methdaliad. Yn y fan hon, cewch wybod pa lysoedd sy'n ymdrin â deisebau, pa ffurflenni a ffioedd y mae eu hangen arnynt, a lle i fynd am gymorth a chyngor.

Cyn gwneud cais i fod yn fethdalwr

Dim ond llys gaiff ddatgan eich bod yn fethdalwr, a hynny drwy gyhoeddi gorchymyn methdaliad yn eich erbyn. Gallwch ddeisebu'r llys eich hun, neu gall eich credydwyr (pobl y mae arnoch chi arian iddynt) wneud hynny os oes arnoch chi dros £750 ac nad yw'r swm hwnnw wedi'i warantu. Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, fe allwch golli eich cartref a/neu eich busnes.

Gallwch gael cyngor di-dâl am ddyledion gan eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu gan y Llinell Ddyled Genedlaethol i wneud yn siŵr mai mynd yn fethdalwr yw'r ffordd orau i chi ddelio gyda'ch dyledion. Bydd cynghorydd ariannol annibynnol yn gallu eich helpu hefyd, ond mae'n bosib y byddant yn codi ffi arnoch am eu gwasanaethau.

Mae’r broses ar gyfer dod yn fethdalwr ychydig yn wahanol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon.

Ffurflenni methdaliad y bydd angen i chi eu llenwi

Fel rhan o'ch deiseb methdaliad, bydd angen i chi lenwi'r ffurflenni methdaliad canlynol:

  • Deiseb Methdaliad Dyledwr
  • Datganiad o Amgylchiadau Ariannol, Deiseb Dyledwr

Gallwch lwytho'r ffurflenni i lawr oddi ar wefan y Gwasanaeth Ansolfedd neu eu prynu wrth werthwr papurau cyfreithiol. Am gymorth i lenwi’r ffurflenni, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol neu’r Llinell Ymholiadau Ansolfedd. Ffoniwch 0845 602 9848, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm.

Dylech roi eich rhesymau dros wneud cais am fethdaliad yn y Ddeiseb Methdaliad Dyledwr.

Rhestrwch eich holl asedau (arian, eiddo, cyfranddaliadau ac ati) a'ch dyledion, gan gynnwys enwau a chyfeiriadau eich credydwyr, yn y Datganiad o Amgylchiadau Ariannol.

Beth i'w wneud â'ch ffurflenni methdaliad

Mae angen i chi argraffu a llofnodi'r ffurflenni a rhoi'r rhai gwreiddiol, yn ogystal â dau gopi fel rheol, i'r llys.

Ni fydd y llys yn ystyried eich deiseb methdaliad os nad yw'r fersiynau gwreiddiol gennych ac os nad oes gennych ddigon o gopïau. I gael cymorth i lenwi'r ffurflenni methdaliad, cysylltwch â'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu â'r Llinell Ddyled Genedlaethol er mwyn cael cyngor am ddim. Gall cynghorydd ariannol annibynnol eich helpu hefyd, ond mae'n bosib y bydd yn codi ffi arnoch.

Dod o hyd i’ch llys methdaliad agosaf

Nid yw pob llys yn delio gyda methdaliadau a bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys methdaliadau agosaf at eich cartref neu at y fan lle rydych chi'n masnachu (lle bynnag rydych chi wedi treulio'r cyfnod hiraf dros y chwe mis diwethaf). Chwiliwch drwy'r cyfeirlyfr llysoedd i gael gwybod pa lys methdaliad y mae angen i chi fynd iddo.

Ffioedd methdaliad y mae angen i chi eu talu

Ni fydd y llys yn ystyried eich deiseb am fethdaliad os na allwch chi dalu'r ffioedd methdaliad. Dyma'r ffioedd:

  • £525 i dalu am y gost o reoli eich methdaliad
  • £175 i dalu am gostau'r llys – efallai na fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon os ydych chi'n cael cymhorthdal incwm – bydd staff y llys yn gallu rhoi cyngor i chi

Sut mae talu eich ffioedd methdaliad

Gall ambell elusen eich helpu i dalu'r ffioedd a gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth ddarparu manylion unrhyw elusennau a allai wneud hynny yn eich ardal chi.

Ni fydd yn llys yn derbyn sieciau personol, ond gallwch dalu'r ffioedd:

  • mewn arian parod
  • mewn archebion post
  • drwy siec cymdeithas adeiladu, banc neu dwrnai, wedi’i gwneud yn daladwy i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Mynd i'r llys methdaliad

Dylech gysylltu â'ch llys methdaliad agosaf i drefnu dyddiad ac amser i fynd i'r llys gyda'ch ffurflenni a'ch ffioedd. Pan fydd y llys yn ystyried eich deiseb methdaliad gall wneud y canlynol:

  • cyflwyno gorchymyn methdaliad sy'n eich gwneud yn fethdalwr
  • arafu eich achos – efallai fod angen rhagor o wybodaeth ar y llys
  • gwrthod eich deiseb methdaliad
  • gwrthod eich deiseb methdaliad a gorchymyn rhywbeth arall yn lle methdaliad

Os yw'r llys yn gwrthod eich deiseb, ni fydd y ffioedd methdaliad yn cael eu talu'n ôl i chi. Fodd bynnag, efallai y bydd y llys yn cytuno i'w defnyddio ar gyfer y costau sy'n gysylltiedig â'r opsiwn arall. Dylech gael cyngor cyfreithiol neu gyngor ariannol annibynnol os gwrthodir eich deiseb methdaliad.

Additional links

Cyngor methdaliad

Cael cyngor ar fethdaliad a’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Allweddumynediad llywodraeth y DU