Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis a defnyddio ymgynghorydd ariannol

Os yw eich materion ariannol yn gymhleth neu os bydd angen cyngor arnoch am gynnyrch ariannol penodol, gall ymgynghorydd ariannol eich helpu. Er mwyn i gwmnïau allu rhoi cyngor i chi am y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol, rhaid iddynt gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Golyga hyn eu bod yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio gyda chi.

Beth yw cyngor ariannol?

Pan fyddwch yn cael cyngor ariannol, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell cynnyrch ariannol a fydd yn eu diwallu.

Os prynwch heb gyngor, nid oes gennych gymaint o warchodaeth â phetaech yn prynu gyda chyngor.

Beth mae cyngor ariannol yn ei olygu?

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy'n rheoleiddio'r cyngor ariannol ar gyfer y rhan fwyaf o fuddsoddiadau, morgeisi ac yswiriant cyffredinol neu yswiriant gwarchod taliadau. I weld y manylion, dilynwch y dolenni isod. Os byddwch yn cael cyngor anaddas am y cynhyrchion hyn, mae trefn gwyno ffurfiol ar gael a threfn ar gyfer unioni'r sefyllfa.

Sut i ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi

Gallwch ganfod a yw cwmni neu unigolyn wedi'u hawdurdodi i roi cyngor drwy ddefnyddio Cofrestr ar-lein yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Ymgynghorwyr ariannol a'r wybodaeth a ddarparant

Mae rhai ymgynghorwyr yn arbenigo mewn un maes, megis yswiriant, buddsoddiadau neu forgeisi, tra bo eraill yn delio gyda sawl maes.

Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei derbyn yn dibynnu ar y buddsoddiad ond yn gyffredinol byddwch yn cael gwybodaeth ynghylch:

  • y gwasanaethau sydd ar gael a faint fyddant yn eu costio
  • y cynnyrch yr ydych yn ei brynu

Os byddwch yn prynu cynnyrch lle byddwch yn buddsoddi megis pensiwn, yna byddwch hefyd yn derbyn datganiad blynyddol sy’n dangos perfformiad eich buddsoddiad a faint o gostau yr ydych wedi eu talu.

Bydd y costau’n amrywio o gwmni i gwmni, ac o fuddsoddiad i fuddsoddiad. Dylech gael gwybod beth fydd lefel y costau cyn i chi brynu’r cynnyrch, naill ai gan eich ymgynghorydd (os oes gennych un), neu’r darparwr. Defnyddir y costau i dalu comisiwn i’r ymgynghorydd, i dalu costau gweinyddu ac i dalu’r rheolwr cronfeydd.

Sut i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol

Mae ymgynghorwyr ariannol wedi'u rhestru mewn llyfrau ffôn a thudalennau busnes, ac ar y rhyngrwyd. Gallwch hefyd ofyn i ffrindiau am argymhellion personol.

Mae gan y rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu ymgynghorwyr ariannol hefyd. Cofiwch eu bod yn aml wedi eu clymu i werthu cynnyrch eu cwmni, neu ystod gyfyngedig o gynnyrch eraill. Dylech wirio pob tro bod y cwmni wedi'i awdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol cyn i chi rhoi eich arian iddynt.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth i blant ar gael bellach

Allweddumynediad llywodraeth y DU