Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiynau – golwg cyffredinol

Pan fyddwch yn gwneud trefniadau ar gyfer eich ymddeoliad, ceir tri phrif fath o bensiwn y bydd angen i chi eu hystyried - Pensiynau'r Wladwriaeth, pensiynau personol a phensiynau cwmni. Dysgwch am y gwahanol fathau o bensiynau a sut maent yn effeithio arnoch chi.

Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu i'r rheini sydd wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi ei hawlio. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer y mathau canlynol o Bensiwn y Wladwriaeth:

  • Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth

Mae oed Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Beth yw Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth?

Mae gan unrhyw un sydd â digon o flynyddoedd cymhwyso o'u cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) hawl i rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. I gael gwybod mwy am gymhwyso ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a faint allwch chi ei gael, darllenwch 'Deall Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth'. Neu defnyddiwch amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth i amcangyfrif faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallech ei gael a pha bryd y gallwch wneud cais amdano. Bydd yr offeryn syml hwn yn eich helpu chi hefyd i weld fel y byddwch chi’n cael eich effeithio gan newidiadau diweddar i Bensiwn y Wladwriaeth.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Gall Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth roi arian ychwanegol i chi ar ben y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch. Weithiau, bydd yn cael ei alw'n Ail Bensiwn y Wladwriaeth (arferid ei alw'n Cynllun Pensiwn ar Sail Enillion y Wladwriaeth). Mae'n bosib y bydd gennych hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych chi'n gyflogedig, yn edrych ar ôl plentyn neu'n gofalu am rywun. I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, darllenwch 'Deall Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth'.

Credyd Pensiwn – os ydych chi ar incwm isel yn ystod eich ymddeoliad

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallech gael Pensiwn Credyd. Mae Pensiwn Credyd yn fudd-dal sy’n gysylltiedig ag incwm sy’n cynnwys dwy elfen: Credyd Gwarant a Chredyd Cynilion

Credyd Gwarant

Mae Credyd Gwarant yn gweithio drwy ychwanegu at eich incwm wythnosol. Fodd bynnag, fe allech gael mwy os oes gennych anabledd difrifol, os ydych yn ofalwr neu os oes gennych gostau tai fel morgais er enghraifft. I wneud cais am Gredyd Gwarant, rhaid i chi fod wedi cyrraedd yr isafswm oed ar gyfer cael Credyd Pensiwn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i 'Credyd Pensiwn - cyflwyniad'.

Credyd Cynilion

Gall Credyd Cynilion roi arian ychwanegol ar gyfer pensiynwyr dros 65 oed sydd wedi darparu rhywfaint ar gyfer eu hymddeoliad. Mae'n bosib y bydd modd i chi gael Credyd Cynilion a Chredyd Gwarant. Darllenwch 'Credyd Pensiwn - cyflwyniad' i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, i gael amcangyfrif o'ch credyd pensiwn neu i wneud cais am Gredyd Pensiwn'.

Yr oedran y gallwch gael y Credyd Cynilion yw 65. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2019 bydd hyn yn cynyddu’n unol â’r cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn ac yn byw ym Mhrydain Fawr ac wedi darparu rhywfaint ar gyfer eich hymddeoliad – er enghraifft, cynilion neu ail bensiwn – mae’n bosib y bydd gennych hawl i Gredyd Cynilion. Efallai y byddwch yn cael y Credyd Cynilion ar ei ben ei hun neu gyda’r Credyd Gwarant.

Cael gwybod os ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, i gael amcangyfrif o’ch credyd pensiwn neu i wneud cais am Gredyd Pensiwn. Gweler y ddolen ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.

Cyfraddau Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn

Mae’r swm o Bensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn y gallwch chi ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. I gael gwybod mwy ynghylch cyfraddau pensiwn, gweler ‘Cyfraddau Credyd Pensiwn a Phensiwn y Wladwriaeth: faint allwch chi ei gael?’

Pensiynau personol

Mae pensiynau personol i'w cael gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant bywyd. Fe fyddan nhw'n buddsoddi'ch cynilion ar eich rhan.

Cewch gynilo cymaint ag y dymunwch mewn pensiwn personol. Byddwch yn cael gostyngiad treth ar y swm y byddwch yn ei gyfrannu, hyd at y lwfans blynyddol. Darllenwch 'Treth a'ch pensiwn personol' i gael mwy o wybodaeth am ostyngiad treth.

Darllenwch 'Deall pensiynau personol' i gael gwybod a fyddai pensiwn personol yn addas i chi.

Pensiynau cyfranddeiliaid

Math o bensiwn personol yw pensiynau cyfranddeiliaid. Mae'n rhaid iddynt gyrraedd safonau cyfreithiol penodol sydd wedi cael eu cynllunio i sicrhau gwerth da.

Darllenwch 'Pensiynau cyfranddeiliaid' i gael gwybod mwy am y safonau hyn ac a fyddai pensiwn cyfranddeiliaid yn addas i chi.

Pensiynau cwmni

Sefydlir pensiynau cwmni gan gyflogwyr er mwyn sicrhau pensiynau i'w gweithwyr pan fyddant yn ymddeol. Weithiau, byddant yn cael eu galw hefyd yn bensiynau galwedigaethol neu'n bensiynau yn y gweithle.

Mae'r rheolau'n amrywio ar gyfer gwahanol bensiynau cwmni, ond gellir talu arian i'r pensiwn:

  • o'ch cyflog chi a gan eich cyflogwr
  • o'ch cyflog chi yn unig
  • gan eich cyflogwr yn unig

Byddwch yn cael gostyngiad treth ar y swm y byddwch yn ei roi yn eich pensiwn hyd at y lwfans blynyddol.

Darllenwch 'Deall pensiynau cwmni i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o bensiynau cwmni.

O 2012 bydd ffordd newydd o gynilo ar waith. Yn y system newydd bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru’n awtomatig i bensiwn oni bai eich bod mewn cynllun addas yn barod. Bydd cofrestru’n hawdd a byddwch yn gallu tynnu’n ôl os byddwch eisiau.

Pensiynau personol i grwpiau drwy eich cyflogwr

Efallai y bydd eich cyflogwr yn trefnu i ddarparwr pensiynau gynnig pensiwn personol drwy'r gweithle. Gelwir pensiwn personol (gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid) sy'n cael ei drefnu yn y modd hwn yn 'Gynllun Pensiwn Personol Grŵp'. Er y cyfeirir atynt weithiau fel pensiynau cwmni, nid ydynt yn cael eu rhedeg gan gyflogwyr.

Darllenwch 'Cynlluniau pensiwn personol drwy eich cyflogwr' i ddysgu mwy am y math yma o bensiwn.

Budd-daliadau ar ôl ymddeol

Yn ychwanegol at eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch chi’n gymwys am nifer o fudd-daliadau eraill sy’n ymwneud ag oed.

Gweler ‘Budd-daliadau ar ôl ymddeol’ i gael gwybod mwy ynghylch Credyd Pensiwn, Taliad Tanwydd Gaeaf, Taliad Tywydd Oer, budd-daliadau cyn milwyr y lluoedd arfog.

I gael gwybod os ydych chi’n gymwys am gonsesiynau eraill fel y Cerdyn Trên i bobl hŷn neu drwydded deledu am ddim, gweler ‘Consesiynau a chymorth arall’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU