Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynlluniau pensiwn personol drwy eich cyflogwr

Rhaid i'r rhan fwyaf o gyflogwyr roi cynnig i’w gweithwyr ymuno â chynllun pensiwn. Os nad oes pensiwn cwmni yn cael ei ddarparu byddai hyn felly fel arfer yn bensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol arall. Cael gwybod beth yw eich hawliau cyflogaeth a beth y mae gennych hawl iddo.

Hawliau gweithwyr i gael pensiwn cyfranddeiliaid

Rhaid i'ch cyflogwr fel arfer gynnig mynediad ichi at bensiwn cyfranddeiliaid os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn ennill mwy na therfyn enillion isaf Yswiriant Gwladol (£107 yr wythnos ym mlwyddyn dreth 2012-2013)
  • mae pump neu fwy o weithwyr yn eich gwaith

Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gynnig mynediad ichi at bensiwn cyfranddeiliaid os ydy un o’r pwyntiau canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn gallu ymuno â chynllun pensiwn (galwadigaethol) cwmni
  • eich bod yn gallu ymuno â chynllun pensiwn personol arall y mae eich cyflogwr yn talu swm sy’n cyfateb i dri y cant o leiaf o’ch cyflog

Bydd y rheolau hyn yn newid yn 2012.

Beth sy’n rhaid i’ch cyflogwr ei wneud

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr eich galluogi chi i dalu i mewn i’ch pensiwn cyfranddeiliaid yn uniongyrchol o’ch cyflog drwy system gyflog eich cwmni.

Mae nifer o gyflogwyr yn barod i dalu i mewn i’ch pensiwn cyfranddeiliaid ac i dalu costau gweinyddu darparwr pensiwn cyfranddeiliaid. Fodd bynnag, nid oes rhaid iddynt wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Dydych chi ddim yn colli’r arian y mae’ch cyflogwr wedi’i dalu i chi’n barod os byddwch chi’n gwneud un o’r canlynol:

  • gadael eich cyflogwr
  • trosglwyddo’ch arian o’r cynllun pensiwn cyfranddeiliaid i gynllun arall,

Mae’r gofyniad i gyflogwyr ddarparu mynediad i bensiynau cyfranddeiliaid yn cael ei reoleiddio gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae eich cyflogwr yn cynnig pensiwn personol i chi

Os yw'ch cyflogwr yn cynnig pensiwn personol amgen i chi yn hytrach na phensiwn cyfranddeiliaid, rhaid i'w delerau fod o leiaf mor dda a'r safonau isaf a gosodir gan y llywodraeth.

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd gyfrannu o leiaf dri y cant o'ch cyflog os ydynt yn ei gynnig yn lle pensiwn cyfranddeiliaid.

Ond nid oes rhaid iddynt dalu costau gweinyddu'ch cynllun pensiwn.

Os byddwch yn gadael eich cyflogwr, neu'n trosglwyddo'ch arian o'r cynllun pensiwn i gynllun arall, dydych chi ddim yn colli'r arian y maent wedi'i gyfrannu.

Mae eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn personol grŵp

Efallai y bydd eich cyflogwr yn trefnu i ddarparwr pensiwn sefydlu trefniant pensiwn personol trwy'r gweithle. Gelwir pensiynau personol (gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid) a drefnir yn y ffordd hon yn Pensiwn Personol Grŵp. Er eu bod weithiau’n cael eu cyfeirio at fel pensiynau cwmni, nid ydynt yn cael eu rhedeg gan gyflogwyr ac ni ddylid eu drysu gyda phensiynau galwadigaethol.

Mae’r Pensiwn Personol Grŵp yn fath o bensiwn personol lle mae'ch cyflogwr yn dewis y darparwr ariannol ar eich rhan.

Gall bod rhai manteision i gyfrannu at bensiwn personol grŵp a drefnir gan eich cyflogwr:

  • bydd eich cyflogwr fel arfer yn cyfrannu at eich pensiwn - ac os yw'r Pensiwn Personol Grŵp a gynigir wedi'i ddarparu yn lle pensiwn cyfranddeiliaid, rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu swm sy'n cyfateb i o leiaf dri y cant o'ch cyflog sylfaenol
  • os yw eich cyflogwr wedi cyfrannu at eich pensiwn a chithau'n gadael eich swydd, dydych chi ddim yn colli'r arian y maent wedi'i gyfrannu
  • bydd eich cyflogwr fel arfer yn didynnu'ch cyfraniadau o'ch cyflog ac yn eu hanfon at ddarparwr eich pensiwn
  • mae Pensiwn Personol Grŵp yn cael ei negodi gyda darparwr y pensiwn ar ran grŵp o bobl ac efallai y gall eich cyflogwr negodi gwell telerau nag y byddech yn eu cael fel unigolyn - er enghraifft, efallai y gallant negodi costau gweinyddu is
  • mae’n bosib y gallwch barhau i wneud cyfraniadau i’ch pensiwn os newidiwch eich cyflogwr

Rydych yn debygol o golli rhai o'r buddion hyn os gadewch eich cyflogwr. Er enghraifft, nid ydynt yn debygol o gyfrannu mwy at eich pensiwn. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau gweinyddu uwch i ddarparwr y pensiwn.

Gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau am wybodaeth a chyngor am gynlluniau pensiwn cwmni a phensiwn personol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU