Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall pensiynau personol

Mae pensiynau personol (a elwir hefyd yn bensiynau preifat) yn darparu incwm rheolaidd i chi ar ôl i chi ymddeol. Yma, cewch wybod am oblygiadau treth pensiwn personol a gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu a yw pensiwn personol yn addas ar eich cyfer chi.

Beth yw pensiwn personol?

Gyda phensiwn personol, byddwch yn talu swm misol rheolaidd neu daliad unswm i ddarparwr y pensiwn a fydd yn ei fuddsoddi ar eich rhan. Mae'r gronfa'n cael ei rhedeg fel arfer gan sefydliadau ariannol megis cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant neu ymddiriedolaethau buddsoddi drwy unedau.

A fyddai pensiwn personol yn addas ar eich cyfer chi?

Bydd eich penderfyniad yn dibynnu’n fawr ar faint allwch chi fforddio ei gynilo ar gyfer eich pensiwn a faint byddwch chi’n ei gael o bensiynau eraill.

Mae’n bosibl y byddai pensiynau personol yn addas ar gyfer:

  • pobl sy'n hunangyflogedig
  • pobl nad ydynt yn gweithio ond sy'n gallu fforddio talu am bensiwn
  • gweithwyr nad yw eu cyflogwyr yn cynnig cynllun pensiwn cwmni
  • gweithwyr sydd â’r opsiwn o dalu arian i mewn i bensiwn cwmni, ond sy’n dewis peidio
  • gweithwyr ar incwm canolig sydd am ychwanegu at yr arian y byddent yn ei gael o bensiwn cwmni

Efallai nad pensiwn personol yw'r dewis gorau:

  • os yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn cwmni
  • os yw eich cyflogwr yn cynnig mynediad at gynllun pensiwn rhanddeiliaid, gyda'r cyflogwr yn cyfrannu

Talu eich pensiwn personol

Gall pobl eraill dalu arian i mewn i bensiwn personol ar eich rhan. Golyga hyn y gall partneriaid neu aelodau eraill o'r teulu eich helpu i gynilo ar gyfer ymddeol.

Os ydych chi'n ennill incwm canolig ac yn meddwl y bydd angen i chi stopio ac ailddechrau taliadau neu amrywio'r symiau, efallai yr hoffech ystyried pensiwn rhanddeiliaid. Math hyblyg o bensiwn personol yw pensiwn rhanddeiliaid.

Ffactorau eraill i’w hystyried cyn cael pensiwn personol

Cofiwch fod dewis cynllun pensiwn personol yn benderfyniad ariannol pwysig a bod angen i chi ystyried nifer o bethau:

  • beth yw’r rheolau ynghylch gwneud cyfraniadau?
  • faint allwch chi ei gynilo ac a yw’r cynllun pensiwn wedi’i ‘gontractio allan’ o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth?
  • sut bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi?
  • faint o dâl mae darparwr y pensiwn yn ei godi arnoch am sefydlu eich pensiwn ac am ei weinyddu?

Faint o bensiwn y gallwch chi ei gae

Byddwch yn cael rhagolwg blynyddol gan ddarparwr eich cynllun pensiwn. Bydd yn dweud wrthych:

  • beth yw gwerth eich cronfa
  • faint allwch chi ddisgwyl ei gael os byddwch chi’n parhau i gyfrannu ar eich lefel gyfredol

Bydd gwerth terfynol eich cronfa bensiwn yn dibynnu’n fawr ar faint sydd wedi cael ei dalu i mewn a pha mor dda y mae buddsoddiadau'r gronfa wedi gwneud. Mae'r cwmnïau sy'n rhedeg y pensiynau hyn yn codi tâl arnoch am sefydlu a rhedeg eich pensiwn. Didynnir y taliadau fel arfer o'ch cronfa.

Dylai unrhyw gwestiynau am eich pensiwn personol gael eu cyfeirio at ddarparwr eich gwasanaeth pensiwn.

Pryd gallwch chi gymryd eich pensiwn personol?

Ar ôl Ebrill 2010, yr oedran ieuengaf y cewch gymryd eich pensiwn personol yw 55.

Mae’r mwyafrif yn dewis aros nes eu bod yn 60 neu’n 65 mlwydd oed, ond nid oes yn rhaid i chi ymddeol o’r gwaith er mwyn cael buddion eich pensiwn. Gallwch hefyd beidio â chymryd eich pensiwn tan eich bod yn 75 mlwydd oed.

Ar ôl Ebrill 2010, ceir amgylchiadau penodol a fydd yn caniatáu i chi gymryd eich pensiwn cyn i chi fod yn 55 mlwydd oed. Bydd darparwr eich cynllun pensiwn yn gallu rhoi gwybod i chi ynghylch beth mae eich cynllun chi yn ei ganiatáu.

Ceisio cyngor ariannol ynghylch pensiynau personol

Os nad ydych yn sicr a yw pensiwn personol yn iawn ar eich cyfer chi cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau neu gan gynghorydd ariannol cyn gwneud penderfyniad. Byddai cynghorydd ariannol neu gynghorydd pensiynau hefyd yn eich helpu i benderfynu pa bensiwn personol penodol a fyddai’n addas ar eich cyfer chi.

Treth a’ch pensiwn personol

Cael gwybod mwy ynghylch manteision treth pensiynau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Cewch wybod mwy am gynlluniau pensiwn personol ac am gynllunio ar gyfer ymddeol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU