Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bwysig cynllunio ar gyfer ymddeol. Mae'n bosib y byddwch chi'n edrych ymlaen at eich ymddeoliad fel amser pan gewch chi'r rhyddid i wneud beth bynnag y dymunwch ei wneud. Cyn i chi ymddeol, mae'n werth cynllunio'ch sefyllfa ariannol er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud yn fawr o'r cyfnod hwn yn eich bywyd.
Pan fydd ymddeol ar y gorwel, byddwch chi'n meddwl am eich pensiwn a'ch sefyllfa ariannol. Fodd bynnag, os byddwch chi'n ymddeol yn llwyr o'r gwaith neu'n newid eich patrwm gweithio - er enghraifft dechrau gweithio'n rhan-amser neu dros dro - bydd hynny'n golygu newid yn eich ffordd o fyw. Mae'n bwysig ystyried goblygiadau emosiynol ac ymarferol y newidiadau hyn.
Cynilo ar gyfer ymddeol yw un o'r cynlluniau ariannol pwysicaf wnewch chi. Cewch ddewis cynilo mewn cynllun pensiwn a/neu gynllun cynilo, ond beth bynnag y penderfynwch chi, byddwch am i'ch cronfeydd dyfu a bod yn werth cymaint ag y bo modd yn y tymor hir.
Dysgu am y gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn - gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, pensiynau personol a chyfranddeiliaid, a phensiynau cwmni (galwedigaethol).
Mae'n beth call holi faint o bensiwn gewch chi wrth ymddeol, er mwyn i chi gymryd camau nawr os tybiwch chi na fydd gennych ddigon i fyw arno ar ôl ymddeol. Gallwch wneud hyn drwy ofyn am ragolwg o faint fydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth neu bensiynau eraill yn eu talu i chi.
Os nad ydych wedi hel pensiwn neu ond wedi hel ychydig bach, mae'n bosib y byddwch chi'n awyddus i ystyried cychwyn pensiwn personol yn ogystal ag edrych ar unrhyw opsiynau ar gyfer cynilo tuag at bensiwn drwy'ch gwaith. Lle da i ddechrau fyddai cael gwybod faint o bensiwn y Wladwriaeth y bydd gennych yr hawl iddo.
Fe gewch Bensiwn y Wladwriaeth os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich oes gweithio. Os oes bylchau yn eich cofnod CYG, mae'n bosib y bydd hynny'n effeithio ar eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'n bosib yr hoffech chi ystyried llenwi'r bylchau drwy dalu cyfraniadau ychwanegol.
O fis Ebrill 2006, mae rheolau newydd fwy syml yn berthnasol i gynlluniau personol a chynlluniau cwmni (galwedigaethol). Bydd y rheolau newydd yn golygu y gall y rhan fwyaf o bobl dalu mwy i’w cynlluniau pensiwn – ac ar delerau fwy hyblyg.
Mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o bensiynau ar gael am ddim gan sawl sefydliad. Mae gan rai ohonynt ymgynghorwyr a fydd yn eich helpu i ddeall opsiynau o ran pensiwn. Er mwyn cael cyngor sy'n benodol ar gyfer eich anghenion chi, dylech ystyried siarad ag ymgynghorydd ariannol awdurdodedig, ond efallai bydd rhaid i chi dalu am eu cyngor.
Os ydych chi'n ystyried cychwyn pensiwn cyfranddeiliaid neu bersonol, gallwch siopa o gwmpas eich hun, ond fe all fod yn syniad da cael cyngor ariannol gan arbenigwr cyn i chi brynu. I gael gwybodaeth am unrhyw bensiwn a gynigir gan eich cyflogwr, rhaid i chi gael sgwrs gyda'ch adran Adnoddau Dynol.