Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n ystyried cychwyn pensiwn cyfranddeiliaid neu bersonol, gallwch siopa o gwmpas eich hun. Fe all fod yn syniad da cael cyngor ariannol proffesiynol gan arbenigwr cyn i chi brynu. I gael gwybodaeth am unrhyw bensiynau a gynigir gan eich cyflogwr, dylech gael sgwrs gyda'ch adran Adnoddau Dynol neu’ch cyflogwr.
Er mwyn i gwmnïau allu rhoi cyngor i chi am gynnyrch ariannol megis pensiynau personol, rhaid iddynt gael eu rheoleiddio gan reolydd gwasanaethau ariannol y DU, yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Golyga hyn eu bod yn gorfod dilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio gyda chi.
Pan fyddwch yn cael cyngor ariannol proffesiynol, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn edrych ar eich anghenion a'ch amgylchiadau unigol ac yn argymell cynnyrch ariannol a fydd yn addas i chi.
Pensiwn y gallwch drefnu eich hun yw pensiwn personol, er enghraifft os ydych yn hunangyflogedig neu nad yw eich cyflogwr yn cynnig trefniant pensiwn. Math o bensiwn cyfraniadau diffiniedig (neu brynu arian) ydynt.
Rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid fodloni safonau gofynnol a bennir gan y llywodraeth. Mae rhai cyflogwyr yn eu cynnig neu gallwch ddechrau un eich hun.
Cyn i chi brynu pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid, bydd yr ymgynghorydd ariannol fel arfer yn rhoi 'Dogfen nodweddion allweddol' i chi sy'n esbonio manylion pwysig, megis:
Gallwch gael gwybod a yw cwmni yr ydych yn delio ag ef wedi'i reoleiddio gan yr FSA. Defnyddiwch gofrestr ar-lein yr FSA neu ffoniwch Linell Gymorth yr FSA i Ddefnyddwyr ar 0845 606 1234. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol proffesiynol mewn sawl ffordd. Gallwch:
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS) yn sefydliad gwirfoddol annibynnol sy’n darparu cyngor am ddim ar bensiynau. Maent yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd ynghylch materion pensiwn, gan gynnwys cynlluniau'r wladwriaeth, cwmni, personol a chyfranddeiliaid. Maent hefyd yn helpu unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â phroblem, cwyn neu anghydfod gyda'u trefniant pensiwn galwedigaethol neu breifat.
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n rheoleiddio cynlluniau pensiynau gwaith yn y DU. Maent yn sicrhau bod yr unigolion sy’n gyfrifol am ddarparu a rheoli pensiynau gwaith yn cyflawni eu hoblygiadau.
Gallwch fuddsoddi mewn pensiwn sy'n seiliedig ar 'wybodaeth yn unig', ar ôl chwilio o gwmpas. Ond mae'n bwysig cofio bod gennych lai o hawliau i gwyno os prynwch chi gynnyrch buddsoddi heb geisio cyngor ariannol. Darllenwch y manylion yn y tudalennau cysylltiedig.
Dylai ymgynghorydd ariannol ofyn a yw eich cyflogwr yn cynnig cynllun pensiwn y gweithle cyn awgrymu pensiwn personol. Os bydd eich cyflogwr yn cynnig cynllun, yn aml mae'n syniad da ymuno ag ef, yn enwedig os bydd eich cyflogwr yn cyfrannu tuag ato. I gael gwybod mwy, bydd rhaid i chi siarad â'ch adran Adnoddau Dynol. Darllenwch 'Deall pensiynau cwmni' i gael gwybod rhagor.