Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dechrau cynllunio ar gyfer pensiwn

Os nad ydych chi wedi dechrau cynllunio ar gyfer ymddeol, bydd yr wybodaeth yn yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi. Fe gewch chi rywfaint o gymorth gan y wladwriaeth, ond bydd angen i chi gynllunio ar gyfer eich dyfodol o hyd. Yma cewch wybod beth mae’r wladwriaeth yn ei ddarparu, sut mae cychwyn pensiwn personol neu bensiwn cwmni, neu sut mae buddsoddi ar gyfer ymddeol.

Pam mae angen i chi gynllunio

Mae’n bosib nad yw cynilo ar gyfer ymddeol yn ymddangos yn rhywbeth pwysig pan fyddwch chi’n dechrau gweithio. Ond cynhara’n byd y byddwch chi’n dechrau cynilo ar gyfer ymddeol, y mwyaf sicr fydd eich dyfodol. Fe gewch chi help gan y wladwriaeth, ond bydd angen i chi wneud eich cynlluniau eich hun i wneud yn siŵr y byddwch chi'n gyfforddus yn y dyfodol ar ôl i chi ymddeol.

Cael pensiwn personol neu bensiwn cwmni

Cynhara’n byd y byddwch chi’n dechrau rhoi arian yn eich pensiwn personol neu’ch pensiwn cwmni, y mwyaf o amser fydd i'r pensiwn gynyddu. Efallai y byddwch chi'n penderfynu cael pensiwn personol neu bensiwn cwmni eich hun gan eich bod:

  • yn cael arian yn ôl drwy ostyngiad treth
  • yn cael cyfraniadau ychwanegol gan eich cyflogwr
  • yn gallu rhoi eich arian o’r neilltu nes byddwch chi’n ymddeol

Gweler ‘Pensiynau – golwg gyffredinol’ i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o bensiynau sydd ar gael, er enghraifft, pensiynau personol, pensiynau rhanddeiliaid a phensiynau cwmni.

Beth mae’r wladwriaeth yn ei ddarparu

Bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn rhoi man cychwyn i chi. Os oes gennych hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ni allwch ei hawlio nes byddwch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod pryd y byddwch chi’n cyrraedd yr oedran gofynnol.

Bod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymhwyso ar gyfer Yswiriant Gwladol rydych wedi’u cronni. Gweler ‘Bod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth’ i gael gwybod sut mae hyn yn gweithio.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae’r llywodraeth hefyd yn darparu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Yma cewch wybod sut mae hyn yn gweithio a phwy all gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Cael amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth

I gael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi yn y dyfodol, gweler ‘Cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth’.

Cychwyn pensiwn personol neu bensiwn cwmni

Gallwch gael pensiwn cwmni drwy eich swydd, neu gallwch sefydlu un personol eich hun. Gallech hyd yn oed wneud y ddau. O 2012 ymlaen, bydd ffordd newydd o gynilo yn y gwaith. Gyda’r system newydd, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru’n awtomatig â chynllun pensiwn oni bai fod gennych gynllun pensiwn addas eisoes. Bydd yn hawdd cofrestru, a gallwch ddewis peidio ag ymuno â’r cynllun os dymunwch.

Help a chyngor ar bensiynau personol a phensiynau cwmni

Os ydych chi’n ystyried cychwyn pensiwn, gall fod yn syniad da cael help gan arbenigwr cyn gwneud hynny. Gweler ‘Pensiynau a chynghorwyr ariannol: gyda phwy y dylech gysylltu’ i gael gwybodaeth am gynghorwyr pensiwn a phwy arall all eich helpu.

Cynilion a buddsoddiadau

Yn ogystal â phensiynau, gallwch gronni arian ar gyfer y tymor hir mewn nifer o ffyrdd eraill. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifon cynilo, ISAs, eiddo ac amrywiol fuddsoddiadau eraill.

Mae pob math o gynllun cynilo a buddsoddi yn gweithio mewn ffordd wahanol, ac mae manteision ac anfanteision i bob un ohonynt.

Gallwch gael gwybodaeth am y gwahanol fathau o gynilion yn ‘Y prif ffyrdd o gynilo neu fuddsoddi eich arian’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU