Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch sefydlu cronfa bensiwn mewn dwy brif ffordd: sefydlu cronfa drwy eich swydd, neu sefydlu cronfa eich hun. Does dim rhaid i chi ddewis rhwng y naill neu'r llall – gallwch gael y ddau. Mae newidiadau ar y gorwel sy'n golygu y bydd llawer mwy o bobl yn cael cyfle i ymuno â chynllun pensiwn yn y gwaith.
Gallwch sefydlu cynllun pensiwn ar unrhyw adeg, p’un ai a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig ynteu’n ddi-waith. Gelwir y math hwn o bensiwn yn bensiwn personol. Maent ar gael gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant bywyd. Ar ôl i chi sefydlu pensiwn personol, cewch chi reoli faint o arian y byddwch yn ei dalu iddo.
Cewch gynilo faint a fynnoch mewn pensiwn personol. Ni fydd yn effeithio ar eich hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ond efallai y bydd yn lleihau faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallwch ei gronni. Gallwch gael gostyngiad treth ar y swm y byddwch yn ei gyfrannu, hyd at lwfans blynyddol. Felly, am bob punt y byddwch chi'n ei rhoi yn eich pensiwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu ati drwy ddefnyddio arian y byddai fel arall wedi'i dynnu oddi arnoch ar ffurf treth.
Math arbennig o bensiwn personol yw Pensiynau Cyfranddeiliaid. Rhaid iddynt fodloni safonau penodol a bennir gan y llywodraeth i sicrhau eu bod yn rhoi gwerth da am arian. Gall unrhyw un gael pensiwn cyfranddeiliaid, ac mae'n werth ei ystyried os ydych yn hunangyflogedig neu os nad yw eich cyflogwr yn cynnig pensiwn cwmni.
Does dim rhaid i chi fod yn gweithio er mwyn cyfrannu at bensiwn cyfranddeiliaid. Gallwch gyfrannu cyn lleied ag £20 ar y tro, a does dim rhaid i chi gyfrannu bob mis os na allwch fforddio gwneud hynny.
Mae gan amryw o gyflogwyr bensiwn cwmni neu bensiwn gweithle, sef cynllun y maent wedi’i sefydlu ar gyfer eu cyflogeion. Dyma sut mae’r rhan fwyaf o bensiynau gweithle yn gweithio:
Yn aml, caiff y mathau hyn o bensiynau gweithle eu galw'n gynlluniau Pwrcasu Arian neu Gyfraniad Diffiniedig. Maent yn cynnwys Pensiynau Cyfranddeiliaid a Phensiynau Personol Grŵp (pensiwn personol a gewch drwy'ch cyflogwr).
Mae pensiynau cwmni eraill yn gweithio mewn ffordd wahanol. Bydd y pensiwn a gewch ar y diwedd yn seiliedig ar eich cyflog ac ers faint o flynyddoedd rydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr. Gan amlaf, caiff y rhain eu galw’n gynlluniau Buddion Diffiniedig neu Gyflog Terfynol, a chwmnïau mawr neu sefydliadau yn y sector cyhoeddus sydd fwyaf tebygol o’u cynnig.
Os yw eich cyflogwr yn cynnig pensiwn cwmni, gall ddweud wrthych pa fath o gynllun y mae’n ei gynnig.
O 2012 ymlaen, bydd ffordd newydd o gynilo arian yn y gwaith. Bydd mwyafrif y bobl sydd mewn swydd ac yn ennill mwy na £5,564 y flwyddyn yn gymwys. Yn y system newydd, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer cynllun pensiwn yn awtomatig – oni bai eich bod eisoes yn rhan o gynllun addas. Yn ychwanegol at unrhyw gyfraniadau y byddwch chi’n eu gwneud, bydd eich cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniad, a bydd y Llywodraeth yn cyfrannu drwy gynnig gostyngiad treth. Byddwch yn gallu dewis peidio bod yn rhan o'r cynllun os dymunwch.
Gallwch gyfrannu cymaint ag y dymunwch i nifer o gynlluniau pensiynau cwmni a phersonol. Pob blwyddyn byddwch yn derbyn gostyngiad treth ar eich cyfraniadau pensiwn i fyny at 100 y cant o’ch enillion DU (cyflog ac incwm arall sy’n cael eu hennill). Mae hwn yn amodol ar ‘lwfans blynyddol’ ar ben yr hyn y mae treth yn cael ei chodi.
Y lwfans blynyddol ar gyfer gostyngiad treth yn y flwyddyn dreth 2012-13 yw £50,000.
Dilynwch y ddolen ‘Canllawiau lwfans blynyddol’ isod i gael gwybod mwy.