Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006 ymlaen

Ers mis Ebrill 2006, mae rheolau symlach yn berthnasol i gynlluniau pensiwn personol a chynlluniau pensiwn cwmni (galwedigaethol). Mae'r rheolau yn galluogi’r rhan fwyaf o bobl i dalu mwy i'w cynlluniau pensiwn ac ar delerau mwy hyblyg nag o’r blaen.

Cynilo mwy yn eich cynllun pensiwn

Erbyn hyn, gallwch gynilo faint a fynnwch mewn unrhyw gynllun pensiwn. Hefyd, mae'r rheolau ar gyfer hawlio rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn yn fwy hyblyg, er y bydd yn rhaid talu treth os byddwch yn mynd y tu hwnt i lwfansau penodol.

Trothwyon cyfraniadau pensiwn

Gallwch gyfrannu faint a fynnwch i unrhyw nifer o gynlluniau pensiwn (personol a/neu gwmni) bob blwyddyn. Does dim trothwy uchaf ar gyfer cyfanswm y cynilion pensiwn y gallwch chi eu cronni.

Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn

Bob blwyddyn, fe gewch chi ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn sydd werth hyd at 100 y cant o'ch enillion yn y DU (cyflog ac unrhyw incwm arall). Mae hyn yn amodol ar ‘lwfans blynyddol’ – bydd rhaid talu treth ar unrhyw beth fydd y tu hwnt i’r trothwy hwn (ceir mwy o wybodaeth am hyn isod).

Os nad oes gennych lawer o enillion, neu ddim enillion o gwbl, a'ch bod yn rhan o gynllun ‘gostyngiad yn y ffynhonnell’, byddwch yn dal i gael rhyddhad treth. Am bob £80 y byddwch chi’n ei gyfrannu mewn blwyddyn dreth, bydd y llywodraeth yn cyfrannu £20 arall nes bydd cyfanswm gwerth y cyfraniadau'n £3,600 am y flwyddyn.

Lwfans blynyddol a threthu cynilion pensiwn sy'n uwch na'r lwfans hwn

Y lwfans blynyddol yw’r swm uchaf o bensiwn y gallwch chi ei gynilo bob blwyddyn a chael rhyddhad treth arno. Mae’r lwfans blynyddol yn £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13.

Os yw'r cynilion pensiwn a wnaed gennych chi a/neu’ch cyflogwr yn fwy na’r lwfans blynyddol, bydd rhaid i chi dalu treth lwfans blynyddol. Fodd bynnag, os nad ydych wedi defnyddio’ch holl lwfans blynyddol yn ystod y tair blwyddyn dreth diwethaf, mae’n bosib na fydd rhaid i chi dalu’r dreth hon.

Bydd y swm a fydd dros drothwy’r lwfans blynyddol yn cael ei ychwanegu at weddill eich incwm trethadwy. Bydd cyfradd y dreth yn briodol i'ch cynilion pensiwn ychwanegol yn ogystal ag incwm trethadwy arall. Bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth hunanasesu i dalu’r dreth. Dilynwch y ddolen at ‘Treth Incwm – yn fras’ i gael gwybod pa gyfraddau treth sy’n berthnasol i incwm a chynilion.

Bydd maint eich cynilion pensiwn yn cael ei fesur dros ‘gyfnod mewnbwn pensiwn’. Nid yw cyfnodau mewnbwn pensiwn o reidrwydd yn cwmpasu’r un cyfnod â blwyddyn dreth.

'Lwfans Oes' a thalu treth ar unrhyw symiau sy'n uwch na'r lwfans hwn

Mae Lwfans Oes yn golygu’r uchafswm o bensiwn a/neu daliad un-swm y gallwch chi ei gael gan eich cynlluniau pensiwn cofrestredig sy’n elwa o ryddhad treth. Pan fyddwch yn dechrau cael buddion, neu pan fyddwch chi’n troi’n 75 oed, bydd gwerth eich buddion yn cael eu profi yn erbyn y lwfans oes.

Y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dechrau ar 6 Ebrill 2012 yw £1.5 miliwn.

Does dim terfyn ar faint o fuddion y gall eich cynllun pensiwn eu talu i chi. Fodd bynnag, os yw’ch cynllun pensiwn yn rhoi buddion i chi sy’n fwy na chyfanswm eich lwfans oes, byddwch yn talu treth. Bydd hyn yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng eich lwfans oes a’ch buddion pensiwn. Er enghraifft, os byddwch yn dechrau hawlio’ch pensiwn yn ystod blwyddyn dreth 2012-13 a bod cyfanswm eich buddion pensiwn yn £1.7 miliwn, byddwch yn talu treth ar £200,000. Hynny yw, y gwahaniaeth rhwng y lwfans oes cyfredol a’ch buddion pensiwn.

Bydd rhaid talu’r dreth hon yn ychwanegol at y Dreth Incwm arferol sy’n ddyledus ar daliadau pensiwn. Os byddwch yn cymryd buddion sy’n uwch na’ch lwfans oes ar gyfer pensiwn, bydd y tâl lwfans oes ar y swm dros ben yn 25 y cant. Os byddwch yn cymryd buddion sy'n uwch na’ch lwfans oes fel taliad un-swm, bydd y tâl lwfans oes ar y swm dros ben yn 55 y cant.

Buddsoddiadau mwy hyblyg mewn cynllun pensiwn

Ers mis Ebrill 2006, gall rhai cynlluniau pensiwn ddarparu dewis ehangach o fuddsoddiadau, yn amodol ar rai amodau. Holwch ymgynghorydd pensiynau i gael gwybod mwy.

Mwy o ddewisiadau o ran sut a phryd y gallwch gymryd eich pensiwn

Erbyn hyn, ceir mwy o ddewis o ran sut a phryd y cewch gymryd eich buddion – fel y'u disgrifir isod. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gynlluniau pensiwn gydymffurfio â rheolau cynlluniau unigol, ac felly bydd angen i chi holi gweinyddwr eich pensiwn i weld beth a ganiateir gan eich cynllun penodol chi.

Mwy o ffyrdd o gymryd incwm o'ch pensiwn

Ceir tri dewis yn awr:

  • cymryd pensiwn cynllun – pensiwn wedi'i sicrhau am oes a delir o asedau'r cynllun neu a brynir gan gwmni yswiriant
  • prynu blwydd-dal (buddsoddiad sy'n darparu incwm rheolaidd i chi am oes)
  • tynnu incwm yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn, fel pensiwn sy’n cael ei dynnu allan (drawdown pension)

Taliad un-swm di-dreth mwy hael

Erbyn hyn, gall pob math o bensiynau wneud taliad un-swm di-dreth sydd werth hyd at 25 y cant o gyfanswm gwerth eich buddion. Mae hyn ar yr amod bod rheolau'r cynllun yn darparu ar gyfer hyn. Ni all y taliad un-swm hwn fod yn fwy na 25 y cant o derfyn y lwfans oes.

Gweithio a chael arian o'ch pensiwn cwmni

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn cwmni, ni fydd rhaid i chi adael eich swydd i dderbyn eich taliad un-swm a'ch pensiwn mwyach.

Efallai y bydd modd i chi hefyd gael rhywfaint o’ch taliad un-swm a’ch pensiwn, neu’r cyfan, a chithau'n dal i weithio i’r un cyflogwr. Bydd hyn yn dibynnu ar reolau’ch cynllun pensiwn.

Newidiadau i oedran pensiwn cwmni a phensiwn personol

Er 6 Ebrill 2010, mae’r isafswm oedran pan allwch chi hawlio eich pensiwn cwmni neu’ch pensiwn personol wedi codi o 50 i 55 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Er hynny, efallai y bydd dal yn bosib i chi hawlio eich pensiwn cyn byddwch yn 55 oed mewn rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, os na allwch chi weithio oherwydd salwch. Bydd gweinyddwr eich pensiwn yn gallu dweud wrthych beth a ganiateir dan eich cynllun, ac a yw un o’r sefyllfaoedd eraill yn berthnasol i chi.

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU