Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid. Rhaid iddynt fodloni safonau penodol i sicrhau bod y gost yn isel a'u bod yn hyblyg. Mae'r isafswm taliadau'n isel hefyd a gallwch roi'r gorau i wneud taliadau ac ailgychwyn unrhyw bryd.
Mae pensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio yn yr un ffordd bron â phensiynau preifat eraill. Rydych yn talu arian i'ch pensiwn i gronni eich cronfa bensiwn.
Mae rheolwyr y cynllun pensiwn cyfranddeiliaid yn buddsoddi'r gronfa bensiwn ar eich rhan. Bydd gwerth eich cronfa bensiwn yn seiliedig ar faint yr ydych wedi'i gyfrannu a pha mor dda y mae buddsoddiadau'r gronfa wedi perfformio. Mae’n well gwneud taliadau cyfraniad rheolaidd os fedrwch. Ond gallwch atal rhag gwneud taliadau am ennyd os oes angen heb iddo gostio unrhywbeth i chi. Fodd bynnag, bydd hynny’n golygu y bydd gennych gronfa pensiwn mwy bychain oni bai eich bod chi’n gwneud taliadau ychwanegol yn nes ymlaen.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran y gellir talu’r pensiwn cyfranddeiliaid, gallwch ddefnyddio'r gronfa yr ydych wedi'i chasglu i brynu blwydd-dal. Incwm rheolaidd yw hyn, sy'n daladwy am oes, y gallwch brynu gan gwmni yswiriant bywyd o'ch dewis. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aros hyd nes eu bod yn 60 neu 65 cyn tynnu arian ar eu pensiwn cyfranddeiliad. Fodd bynnag, gallwch dynnu ar y budd-daliadau hyn wrth barhau i weithio os hoffech.
Sut mae pensiynau cyfranddeiliaid yn wahanol i gynlluniau personol eraill
Dan y gyfraith, rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid fodloni nifer o safonau sylfaenol i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian, hyblygrwydd a diogelwch. Mae’r safonau'n cynnwys:
Cyfyngiad ar daliadau reoli blynyddol:
gall rheolwyr godi ffioedd o hyd at un a hanner y cant o'ch cronfa bensiwn bob blwyddyn am y deng mlynedd gyntaf ac un y cant ar ôl hynny
gallwch stopio, ailgychwyn neu newid eich cyfraniadau unrhyw bryd - does dim taliadau cosb
Lefelau cyfraniadau a gostyngiadau treth
Gallwch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer a mathau o bensiynau, gan gynnwys pensiynau cyfranddeiliaid. Cewch ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn. Bydd hyn yn amodol ar 'lwfans blynyddol' sy’n £50,000 £50,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13.
Er enghraifft, os ydych yn talu treth ar y gyfradd 20 y cant, am bob £80 yr ydych yn ei dalu i mewn i'ch pensiwn, yr ydych yn cael £100 yn eich cronfa bensiwn. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd 40 y cant neu 50 y cant cewch hawlio'r dreth ychwanegol yn ôl. Bydd rhaid talu treth ar gynilion dros y lwfans blynyddol. Cewch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen i ‘Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006’ isod.
Os nad ydych chi'n talu treth, gallwch ddal i gael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau chi (neu ar gyfraniadau rhywun arall) hyd at derfyn penodol.
Gallai pensiwn cyfranddeiliaid fod yn bensiwn da i’w ystyried:
Os ydych chi’n weithiwr, gallwch chi ddewis cael eich eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a rhoi'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol a fyddai wedi mynd tuag ato mewn pensiwn personol, gan gynnwys pensiwn cyfranddeiliaid.
Os nad ydych yn sicr a yw pensiwn cyfranddeiliaid yn iawn i chi, mynnwch gyngor arbenigol gan ymgynghorydd ariannol cyn gwneud penderfyniad. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y cyngor. Rhaid i ymgynghorwyr ddweud wrthych a ydynt yn argymell cynnyrch un cwmni yn unig, yn argymell cynnyrch ystod gyfyngedig o ddarparwyr neu’r farchnad gyfan.
Cewch bensiwn cyfranddeiliaid gan gwmnïau gwasanaethau ariannol megis cwmnïau yswiriant, banciau, cwmnïau buddsoddi a chymdeithasau adeiladu. Gall sefydliadau eraill megis undebau llafur hefyd gynnig pensiynau cyfranddeiliaid i'w haelodau.
Os oes gan eich gweithlu bump neu fwy o weithwyr, ond dim cynllun pensiwn cwmni, dylai eich cyflogwr gynnig mynediad i chi at gynllun pensiwn cyfranddeiliaid drwy'r gwaith. Os nad ydych chi wedi cael cynnig mynediad at gynllun ond mae gennych chi ddiddordeb, gofynnwch i'ch cyflogwr.
Dylai’ch cyflogwr gynnig mynediad i chi at gynllun pensiwn cyfranddeiliaid drwy’r gwaith os yw’r ddau o’r canlynol yn gymwys:
Os na gynigir mynediad at gynllun i chi ond mae gennych ddiddordeb ynddo, holwch eich cyflogwr.
Os ydych yn gyflogwr, cewch wybod mwy am eich dyletswyddau cyfreithiol o ran pensiynau cyfranddeiliaid ar wefan Business Link.
Mae llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau yn delio ag ymholiadau cyffredinol am bensiynau personol, gan gynnwys pensiynau cyfranddeiliaid a phensiynau galwedigaethol. Mae'r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar 0845 601 2923.