Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhaid i'r rhai sy'n gwerthu pensiynau a'r rhai sy'n rhedeg cynlluniau pensiwn gydymffurfio â rheolau llym a bennir gan gyrff rheoleiddio. Os ydych yn pryderu y gallai rhywbeth fod o'i le gyda'ch cynllun pensiwn neu'r ffordd y caiff ei reoli, mae sefydliadau a all eich helpu.
Dan y gyfraith, rhaid i werthwyr pensiynau personol:
Os oes gennych gynllun pensiwn personol, mae'n rhaid i'r cwmni a werthodd y cynllun ichi feddu ar drefn eu hunain ar gyfer delio gyda chwynion. Y cam cyntaf yw cwyno wrth yr ymgynghorydd neu'r darparwr a werthodd y cynllun pensiwn ichi.
Dan y gyfraith, rhaid i gynlluniau pensiwn cwmni a ddarperir drwy eich gwaith, gynnig trefn gwyno ffurfiol. Eich cam cyntaf fydd cwyno gan ddefnyddio'r drefn hon.
Os nad ydych yn hapus ar ôl cwyno wrth y person a werthodd y pensiwn ichi neu eich cynllun cwmni, gallwch fynd â'r mater ymhellach.
Mae'n syniad da mynd at y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau i ddechrau. Mae eu rhwydwaith o weithwyr gwirfoddol proffesiynol ym maes pensiynau yn helpu unrhyw un gyda chwyn neu anghydfod gyda'u trefniant pensiwn. Mae'n wasanaeth am ddim ac mae'r ymgynghorwyr pensiynau'n gwneud eu gwaith yn eu hamser rhydd.
Gallwch ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau ar 0845 601 2923. (Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.)
Gall y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau ddweud wrthych a allwch fynd â'ch achos i'r cam nesaf. Gall hyn fod mynd â’ch achos at naill ai'r Ombwdsmon Pensiynau neu at wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Swyddog annibynnol yw ombwdsmon sy'n ymchwilio i gwynion a'u datrys.
Mae gwasanaethau'r Ombwdsmon Pensiynau a'r Ombwdsmon Ariannol am ddim ac mae eu penderfyniadau'n derfynol.
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau'n ymchwilio i gwynion am sut y rheolir cynlluniau pensiwn. Os ydych yn credu bod eich cynllun yn cael ei redeg yn wael neu'n cael ei gam-reoli, bydd yr Ombwdsmon Pensiynau'n ymchwilio i'ch cwyn.
Ffôn 020 7834 9144 rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ymchwilio i gwynion am y ffordd y gwerthir cynlluniau pensiwn. Bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn ymchwilio i'ch cwyn:
Ffôn 0845 080 1800 (rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os mae gweinyddwyr eich cynllun pensiwn wedi torri’r gyfraith gallwch ofyn i’r corff rheoleiddio berthnasol i wneud ymchwiliad iddynt. Gallwch hefyd ofyn iddynt wneud ymchwiliad i’ch gweinyddwyr os byddant yn torri’r rheolau llym sy’n rheoli eu hymddygiad.
Rheolir cynlluniau pensiwn cwmnïau gan Y Rheolydd Pensiynau.
Ffôn 0870 606 3636 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm)
Rheolir darparwyr pensiynau personol gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Maent hefyd yn cynnig cyngor cyffredinol am bensiynau ar eu gwefan ac mae ganddynt linell gymorth ar gyfer ymholiadau.
Llinell gymorth 0845 606 1234 (llinellau ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Y Gronfa Diogelu Pensiynau
Mae’r Gronfa Diogelu Pensiynau yn cymryd cyfrifoldeb dros bensiwn eich cwmni os daw'r cwmni'n ansolfent a'r gronfa bensiwn heb ddigon o arian i dalu'ch pensiwn. Ond, ni ddylai'r cynllun fod wedi dechrau dirwyn i ben cyn 6 Ebrill 2005.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Gronfa Diogelu Pensiynau ar 0845 600 2541 (rhwng 8.00 am a 5.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Efallai y gallwch gael iawndal gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS):
I gael rhagor o wybodaeth gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol, ffôniwch 020 7892 7300 (rhwng 8.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).