Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cwyn am y Gwasanaeth Pensiwn

Os nad ydych yn fodlon ar safon y gwasanaeth a gawsoch gan y Gwasanaeth Pensiwn, gallwch wneud cwyn. Mynnwch wybod sut i wneud cwyn a beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn.

Budd-daliadau a gwasanaethau y mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn ymdrin â nhw

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n ymdrin â llawer o fudd-daliadau a gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn Dros 80 Oed
  • Rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth
  • Olrhain pensiynau galwedigaethol a phersonol
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf

Sut i wneud cwyn

Os credwch fod penderfyniad ynglŷn â'ch cais am bensiwn neu fudd-dal yn anghywir

Mae'r broses gwyno hon yn wahanol i'r broses y gallwch ei dilyn os credwch fod penderfyniad ynglŷn â'ch cais am bensiwn neu fudd-dal yn anghywir. Os credwch fod penderfyniad yn anghywir, yna mae angen i chi apelio.

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth y mae'r Gwasanaeth Pensiwn wedi'i ddarparu a'ch bod am gwyno, dylech gysylltu â'ch canolfan bensiwn.

Bydd manylion cyswllt y ganolfan sy'n ymdrin â'ch cais ar frig pob llythyr y mae'r Gwasanaeth Pensiwn wedi'i anfon atoch. Fel arall, gallwch ddefnyddio 'Dod o hyd i'ch canolfan bensiwn' isod.

Pan fyddwch yn cysylltu â'r ganolfan bensiwn, esboniwch beth sydd wedi digwydd, sut mae hyn wedi effeithio arnoch a'r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd i unioni pethau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth am eich cwyn ac yna'n ceisio unioni pethau'n foddhaol i chi. Bydd fel arfer yn cysylltu â chi dros y ffôn felly mae'n bwysig nodi eich rhif ffôn pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn. Cewch enw a manylion cyswllt uniongyrchol y person sy'n ystyried eich cwyn. Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anelu at ymdrin â'ch cwyn o fewn 15 diwrnod gwaith.

Ymdrinnir â'ch cwyn yn y ffordd orau i chi. Er enghraifft, os byddwch am iddo gysylltu â chi'n ysgrifenedig, yn hytrach na dros y ffôn, rhowch wybod i'r ganolfan pan fyddwch yn cwyno.

Cewch ganllawiau clir ar beth i'w wneud nesaf ar bob cam o'r broses.

Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb

Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb, gofynnir i chi a ydych am fynd â'ch cwyn ymhellach. Os byddwch am wneud hynny, bydd y person sy'n ystyried eich cwyn yn ei hanfon at y Prif Swyddog Gweithredu. Bydd yn anelu at ymdrin â'ch cwyn o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os na fyddwch yn fodlon ar ymateb Prif Swyddog Gweithredu y Gwasanaeth Pensiwn, gallwch ofyn i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ymchwilio iddi. Bydd yr ymateb gan y Gwasanaeth Pensiwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hynny. Gall yr Archwilydd Achosion Annibynnol eich helpu os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi'i thrin mewn modd boddhaol. Gweler 'Help arall gyda'ch cwyn am y gwasanaeth' i gael gwybod mwy am yr Archwilydd Achosion Annibynnol a sut i gysylltu ag ef.

Help arall gyda'ch cwyn am y gwasanaeth

Os bydd angen help arnoch pan fyddwch yn ymdrin â'r Gwasanaeth Pensiwn neu wrth wneud cwyn am ei wasanaeth, gallwch holi:

  • Canolfan gyngor leol fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • Eich Aelod Seneddol (AS)

Archwilydd Achosion Annibynnol

Os ydych wedi dilyn gweithdrefn gwyno'r Gwasanaeth Pensiwn a'ch bod yn anfodlon o hyd, gallwch gysylltu â'r Archwilydd Achosion Annibynnol. Mae'r Archwilydd hwn yn annibynnol ar y Gwasanaeth Pensiwn ac mae'n cynnig gwasanaeth adolygu cwynion diduedd ac am ddim. Mae'n rhaid i chi gysylltu ag ef o fewn chwe mis i gael ymateb terfynol i'ch cwyn gan Brif Swyddog Gweithredu y Gwasanaeth Pensiwn.

Gall yr Archwilydd Achosion Annibynnol ystyried cwynion sy'n ymwneud â safon y gwasanaeth a ddarperir gan y Gwasanaeth Pensiwn. Gall ystyried materion yn ymwneud â'r gyfraith (er enghraifft, ni fydd yn adolygu penderfyniadau ynglŷn â budd-daliadau oherwydd gallwch apelio yn erbyn y rhain) neu bolisi'r llywodraeth. Os bydd yn derbyn eich cwyn, bydd yn ystyried beth ddigwyddodd a'r hyn a wnaeth y Gwasanaeth Pensiwn amdano. Os bydd o'r farn y dylai'r Gwasanaeth Pensiwn fod wedi gwneud mwy, bydd yn gofyn iddo unioni pethau.

Ombwdsmon y Gwasanaeth Seneddol ac Iechyd.

Gallwch hefyd gysylltu ag Aelod Seneddol a gofyn iddo anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon. Mae'r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am sefydliadau'r llywodraeth nad ydynt yn gweithredu'n briodol neu'n deg neu sy'n darparu gwasanaeth gwael. Ni fydd yr Ombwdsmon fel arfer yn ystyried eich cwyn hyd nes bod y Gwasanaeth Pensiwn a'r Archwilydd Achosion Annibynnol wedi cael y cyfle i ymdrin â hi.

Os oes camgymeriad wedi'i wneud

Os bydd y Gwasanaeth Pensiwn wedi gwneud camgymeriad, bydd yn gweithredu'n gyflym i ymddiheuro, esbonio beth aeth o'i le ac unioni ei gamgymeriadau.

Efallai y bydd hefyd yn dyfarnu taliad arbennig os yw wedi gwneud rhywbeth (neu beidio â gwneud rhywbeth) sydd wedi achosi i chi gael eich trin yn annheg neu ddioddef yn ariannol. Am ragor o fanylion, gweler y canllaw ‘Financial Redress for Injustice Resulting from Maladministration'.

Os credwch fod penderfyniad ynglŷn â'ch pensiwn neu'ch budd-dal yn anghywir

Os credwch fod penderfyniad ynglŷn â'ch cais am bensiwn neu fudd-dal yn anghywir, gallwch ofyn i'r ganolfan a wnaeth y penderfyniad ei egluro.

Gallwch hefyd ofyn i'r penderfyniad gael ei ailystyried. Os byddwch yn anfodlon o hyd, gallwch fel arfer apelio yn erbyn y penderfyniad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU