Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yr opsiynau pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn personol

Mae sawl gwahanol ffordd o droi eich cronfa bensiwn personol yn incwm rheolaidd ar gyfer eich ymddeoliad. Ar ôl newidiadau i gyfreithiau pensiwn ym mis Ebrill 2006, bydd y rheolau newydd yn gwneud eich opsiynau'n symlach ac yn fwy hyblyg nag o'r blaen.

Pryd gewch chi gymryd eich pensiwn personol?

O fis Ebrill 2010 ymlaen, cododd yr isafswm oed ar gyfer cymryd eich pensiwn cwmni neu bensiwn personol o 50 i 55.

Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, efallai y cewch eich pensiwn cyn ichi gyrraedd 55, er enghraifft os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd afiechyd. Bydd gweinyddwr eich pensiwn yn dweud wrthych beth a ganiateir gan eich cynllun.

Opsiynau ers 2006

Ers Ebrill 2006 ymlaen mae mwy o ddewis am sut a phryd y cewch gymryd eich buddion pensiwn. Cofiwch fod yn rhaid i gynlluniau pensiwn gydymffurfio â rheolau cynlluniau unigol ac felly bydd angen ichi holi gweinyddwr eich pensiwn i weld beth a ganiateir gan eich cynllun penodol chi.

Taliad unswm di-dreth mwy hael

Pan fyddwch yn ymddeol, cewch gymryd hyd at 25 y cant o’ch cynilion pensiwn mewn cynllun pensiwn fel taliad unswm di-dreth. Fodd bynnag, mae’r taliad unswm hwnnw ond yn di-dreth os yw’n llai na 25 y cant o'r 'lwfans oes' am y flwyddyn dreth honno.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2012-2013, £1.5 miliwn yw'r lwfans oes (wedi'i brofi yn erbyn cyfanswm eich cynilion personol). Os yw cyfanswm eich pensiynau yn uwch na'r lwfans oes bydd yn bosib i chi gymryd yr elw dros ben fel swm o arian o hyd. Bydd rhaid talu treth o 55 y cant ar hyn.

Taliadau unswm o gronfeydd pensiwn bychain

Efallai y gallwch gymryd cyfanswm eich cynilion pensiwn fel taliad unswm, gyda 25 y cant yn ddi-dreth. I fod yn gymwys, rhaid i gyfanswm eich cynilion pensiwn o bob ffynhonnell fod yn £18,000 neu lai.

Cael incwm o'ch pensiwn

Mae'r opsiynau canlynol gennych (ar ôl i chi gymryd unrhyw daliad unswm di-dreth):

  • defnyddio (gweddill) y gronfa a adeiladoch i brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd sy'n daladwy am oes) gan gwmni yswiriant bywyd; nid oes rhaid iddo fod yr un cwmni â'r un sy'n gweinyddu'ch cynllun pensiwn
  • tynnu incwm trethadwy yn uniongyrchol o'ch cronfa bensiwn, fel ‘pensiwn tynnu incwm’ (drawdown pension)

Treth ar incwm pensiwn os ydych wedi mynd y tu hwnt i'ch lwfans oes

Os yw cyfanswm eich cynilion pensiwn wedi mynd y tu hwnt i'r lwfans oes, codir treth o 25 y cant ar y swm sy'n weddill. Bydd yr incwm a dynnir o'ch pot pensiwn wedyn yn cael ei drethu ar eich cyfradd Treth Incwm arferol. Yr eithriad yw pan fyddwch yn cymryd y swm sy'n weddill fel taliad unswm – gweler uchod.

Prynu blwydd-dal

Bydd yr incwm a gewch o flwydd-dal yn dibynnu ar faint eich cronfa bensiwn ac am faint y disgwylir i'r blwydd-dal dalu. Mae hefyd yn dibynnu ar y darparwr pensiwn. Oherwydd nad oes rhaid ichi brynu blwydd-dal gan eich darparwr pensiwn chi, mae'n bwysig siopa o gwmpas i gael y fargen orau.

Dyma'r mathau cyffredin:

  • lefel - yn talu'r un incwm bob blwyddyn
  • cynyddu - yn cynyddu'ch incwm bob blwyddyn naill ai yn ôl cyfradd sefydlog neu gyfradd sy'n gysylltiedig â chwyddiant
  • cysylltiedig â buddsoddi - yn gysylltiedig ag elw ar fuddsoddiadau, yn seiliedig fel arfer ar berfformiad cronfa a reolir gan ddarparwr y blwydd-dal
  • bywyd-ar y cyd - yn talu incwm i'ch partner os byddwch yn marw o'u blaen
  • lefel uwch - yn talu cyfradd uwch os oes gennych salwch sy'n debygol o effeithio ar eich disgwyliad oes

Cael cyngor ar bensiynau

Onid ydych yn deall pensiynau personol yn iawn, dylech ystyried cael cyngor arbenigol ar yr opsiynau sydd ar gael. Cewch wybodaeth gyffredinol am ddim gan y rhan fwyaf o sefydliadau. Darllenwch 'Cael help a gwybodaeth am bensiynau' er mwyn cael gwybod rhagor.

Fodd bynnag, dim ond ymgynghorwyr wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gaiff gynnig cyngor i chi am bensiynau. Byddant yn edrych ar eich sefyllfa ac yn awgrymu pa gynnyrch yw'r mwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU