Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall pensiynau cwmni

Mae nifer o wahanol fathau o bensiynau cwmni (a elwir hefyd yn bensiynau galwedigaethol) ar gael. Yn y fan hon cewch yr wybodaeth angenrheidiol i'ch helpu i benderfynu a ydych am gyfrannu at eich pensiwn cwmni ai peidio. Hefyd cewch wybod beth i'w wneud os byddwch yn gadael y cwmni.

Mathau o bensiynau cwmni

Mae cynlluniau pensiwn cwmni yn amrywio o gwmni i gwmni. Mae'n debyg y bydd eich cynllun yn un o ddau fath cyffredinol – cynllun 'cysylltiedig â chyflog' neu gynllun 'pwrcasu arian'.

Cynllun sy'n gysylltiedig â chyflog

Gyda chynllun sy'n gysylltiedig â chyflog, bydd y swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog ac ar faint o flynyddoedd rydych chi wedi bod yn rhan o’r cynllun.

Cynllun pwrcasu arian

Mae cynllun pwrcasu arian yn seiliedig ar faint sydd wedi'i dalu i'r cynllun a pha mor dda y buddsoddwyd yr arian.

Pan fyddwch yn ymddeol, defnyddir eich cronfa i ddarparu pensiwn i chi, fel arfer drwy brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd am oes).

Beth os nad yw’ch cyflogwr yn cynnig i chi fod yn aelod o gynllun pensiwn cwmni?

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi’r cyfle i chi ymuno â chynllun pensiwn. Cewch yma fwy o wybodaeth am eich hawliau chi fel cyflogai i fod yn rhan o gynllun pensiwn drwy’r gweithle.

Os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser a bod gan eich cyflogwr gynllun pensiwn cwmni, fel rheol, bydd gennych hawl i ymuno â'r cynllun hwnnw.

Cyfrannu at bensiwn cwmni

Cyn i chi ymuno â chynllun pensiwn cwmni, bydd angen i chi holi am y canlynol:

  • faint fydd angen i chi ei dalu
  • faint fydd eich cyflogwr yn ei gyfrannu

Gyda chynlluniau pensiwn cwmni mae gofyn i chi fel arfer wneud cyfraniadau rheolaidd sy'n seiliedig ar ganran o'ch cyflog. Mae hefyd yn bosib y bydd modd i chi ychwanegu at eich buddion drwy wneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs).

Byddwch yn cael ‘gostyngiad treth’ ar yr arian y byddwch yn ei dalu i’ch pensiwn. Mae hyn yn golygu eich bod yn talu llai o dreth gan fod eich cyflogwr yn tynnu'r cyfraniadau pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth (ond nid cyfraniadau Yswiriant Gwladol).

Newidiadau i reolau pensiwn ym mis Ebrill 2006

Os gwnaethoch chi ymuno â chynllun pensiwn eich cwmni yn ystod neu ar ôl 1989, roedd cyfyngiad ar faint y gallech ei roi yng nghynllun pensiwn eich cwmni.

Fodd bynnag, yn dilyn newidiadau i reolau pensiwn ym mis Ebrill 2006, erbyn hyn, gallwch roi cymaint ag y dymunwch mewn unrhyw nifer a mathau o bensiynau. Gallwch wneud hyn faint bynnag yw eich oed. Cewch hefyd ostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion (eich cyflog ac incwm arall) bob blwyddyn. Bydd hyn yn amodol ar 'lwfans blynyddol' uchaf.

Bydd yn rhaid talu treth ar gynilion dros y lwfans blynyddol a ‘lwfans oes’ ar wahân. Cyfyngir ar y lwfansau hyn os cewch eich gwneud yn ddi-waith a'ch bod am ddal ati i dalu arian i'ch cynllun pensiwn.

Nid yw cael pensiwn cwmni yn effeithio ar eich hawliadau ar gyfer Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Ond byddwch yn colli rhywfaint neu’r cyfan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os caiff eich cynllun pensiwn cwmni ei eithrio (contracted out).

Hawlio'ch pensiwn

Os hoffech chi gael gwybod faint oed y mae’n rhaid i chi fod i gael eich pensiwn cwmni, bydd y manylion i'w gweld yn rheolau'r cynllun. Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi'r wybodaeth hon i chi.

Cael rhagolwg pensiwn cwmni

Gall gweinyddwr eich cynllun pensiwn roi amcangyfrif o’r canlynol i chi:

  • faint gewch chi pan fyddwch yn ymddeol
  • amcangyfrif o unrhyw fuddion a all fod yn daladwy i oroeswyr
  • faint gewch chi os bydd yn rhaid i chi ymddeol yn fuan oherwydd gwaeledd

Hyd at fis Ebrill 2006, ni allech dynnu eich pensiwn o gynllun cwmni a dal i weithio i'r un cyflogwr. Yn dilyn newidiadau Ebrill 2006, byddwch yn gallu gwneud hyn os yw'r cynllun yn gadael i chi wneud hynny.

Gadael eich cwmni

Os byddwch yn gadael eich cwmni, bydd angen i chi wybod beth yw eich opsiynau o ran pensiwn cwmni.

Pryderu am eich pensiwn cwmni

Cael gwybod â phwy i gysylltu os oes gennych bryderon am eich pensiwn cwmni.

Allweddumynediad llywodraeth y DU