Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn cwmni (galwedigaethol), ac mae rheolau'r cynlluniau yn amrywio o gwmni i gwmni. Yma, cewch wybod beth sy’n debygol o ddigwydd i bensiwn cwmni pan fyddwch chi’n marw, a sut i gael cymorth a chyngor os oes arnoch eu hangen.
Ceir dau brif fath o gynllun pensiwn cwmni:
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar eich cyflog a nifer y blynyddoedd rydych wedi bod yn y cynllun.
Mae'r swm a gewch yn seiliedig ar faint rydych chi a'ch cyflogwr wedi'i gyfrannu at eich cronfa, a sut mae’r arian wedi cael ei fuddsoddi. Pan fyddwch yn ymddeol, defnyddir yr arian rydych chi wedi’i gronni yn eich cronfa i ddarparu eich pensiwn. Fel arfer fe’i defnyddir i brynu blwydd-dal (incwm rheolaidd a delir am weddill eich oes gan gwmni yswiriant).
Mae gan y rhan fwyaf o bensiynau gyfnod gwarant o bum (neu, yn llai cyffredin, ddeg) mlynedd. Os byddwch chi’n marw o fewn y cyfnod hwnnw, telir balans y cyfnod gwarant. Telir weithiau fel taliad unswm i'r person rydych wedi'i enwi neu i'ch ystâd.
Efallai y bydd pensiwn yn daladwy i'ch gŵr, i’ch gwraig neu i’ch partner sifil, fel arfer am weddill eu hoes. Mae rhai cynlluniau'n darparu pensiynau i bartneriaid nad ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Ond, nid yw pob cynllun yn gwneud hyn, felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth mae eich cynllun chi’n ei gynnig.
Bydd rheolau eich cynllun yn rhoi gwybod i chi a oes pensiwn ar gyfer eich partner ac os oes, faint. Gyda’r rhan fwyaf o gynlluniau, oddeutu hanner yw'r swm, ond gall fod gymaint â dwy ran o dair.
Os defnyddir eich cronfa i brynu blwydd-dal, fel arfer gallwch ddewis lefel y pensiwn a fydd yn daladwy i’ch partner os byddwch chi'n marw. Gall hyn fod hyd at ddwy ran o dair o'r uchafswm pensiwn y gallai'r cynllun fod wedi ei ddarparu i chi.
Os nad oes cyfnod gwarant i’w gael, neu os byddwch chi'n marw y tu allan i'r cyfnod hwnnw, bydd hyn yn cael effaith ar unrhyw bensiwn sy'n daladwy i bartner gweddw. Bydd unrhyw benderfyniad yn seiliedig ar opsiynau y byddai wedi cael eu rhoi i chi pan fu i chi ymddeol.
Yn arferol, chi fydd yn penderfynu a fyddwch yn darparu pensiwn i weddw ai peidio pan fyddwch yn ymddeol. Gallwch holi ymddiriedolwyr neu weinyddwyr eich cynllun i gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich cynllun chi.
Yma, cewch wybod mwy am y buddion y mae'n bosib y bydd gan eich ystad hawl iddynt os byddwch chi'n marw cyn i chi ymddeol. Bydd beth fydd yn digwydd i gronfa eich pensiwn yn dibynnu ar reolau’r cynllun ac yn dibynnu ar ba fath o gynllun sydd gennych chi – cynllun cyflog terfynol neu gynllun pwrcasu arian.
Pan fyddwch yn ymuno â chynllun cwmni, mae'n debyg y gofynnir i chi lenwi ffurflen 'mynegi dymuniad'. Mae'r ffurflen hon yn nodi i bwy yr hoffech i unrhyw fuddion ar ffurf taliadau unswm gael eu talu.
Ymddiriedolwyr eich cynllun fydd fel arfer yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pwy fydd yn cael eich buddion taliad unswm. Byddant fel arfer yn dilyn yr hyn rydych wedi'i roi ar eich ffurflen, ac felly mae'n bwysig ei diwygio os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Gallwch gael cymorth a chyngor am eich pensiwn cwmni gan y canlynol:
Mae gan ymddiriedolwyr eich cynllun gyfrifoldeb i warchod eich buddiannau, neu, os byddwch chi’n marw, buddiannau eich dibynyddion. Dylai ymddiriedolwyr neu weinyddwr y cynllun fod yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Gallech siarad â chynghorydd ariannol annibynnol i gael cyngor annibynnol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi, felly mae'n werth holi ymlaen llaw.
Os nad ydych yn fodlon gyda chyngor yr ymddiriedolwyr, neu os oes gennych chi gŵyn, gall y Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau gynnig arweiniad annibynnol.
Gall yr Ombwdsmon Pensiynau ymchwilio i gwynion am y ffordd y caiff cynlluniau pensiwn eu rhedeg, neu am anghydfodau yn ymwneud â phenderfyniadau ymddiriedolwyr.
Os oes gennych chi bryderon ynghylch y ffordd y caiff eich cynllun pensiwn cwmni ei redeg, gallwch gysylltu â'r Rheoleiddiwr Pensiynau.