Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn cwmni os ydych yn marw cyn ymddeol.

Mae beth sy’n digwydd i’ch cronfa pensiwn yn dibynnu ar reolau eich cynllun cwmni. Yn arbennig bydd yn dibynnu ar p’un ai os oes gennych gyflog terfynol neu gynllun pwrcasu arian. Darganfyddwch fwy am y buddion a allai fod ar gael i chi.

Os ydych yn marw cyn ymddeol – cynlluniau ar sail cyflog

Os oes gennych gynllun ar sail cyflog, bydd beth fydd yn digwydd i’ch cronfa pensiwn yn dibynnu ar p’un ai rydych yn :

  • 'aelod gweithredol' – rydych yn gwneud cyfraniadau o hyd.
  • 'aelod gohiriedig' - rydych wedi stopio gwneud cyfraniadau (er enghraifft, rydych wedi gadael y cwmni) ond nid ydych wedi trosglwyddo eich cronfa i gynllun arall.

Aelodau gweithredol

Yn dibynnu ar reolau eich cynllun, gall nifer o fuddion fod yn daladwy, yn cynnwys:

  • dychwelyd eich cyfraniadau i gyd, yn arferol yn cael eu talu heb log.
  • cyfandaliad yn rhydd o dreth i fyny hyd at bedair gwaith y cyflog roeddech yn ei gael yn ystod amser eich marwolaeth.
  • pensiwn i’ch priod, partner sifil neu ddibynnydd arall - bydd swm penodol yn rheolau’r cynllun.

Mae'r rhain yn uchafswm buddion, ac mae nifer o gynlluniau yn talu symiau is. Cysylltwch â’ch gweinyddwr cynllun i ddarganfod beth yn union mae eich cynllun yn ei roi.

Mae y rhan fwyaf o gynlluniau yn rhoi buddion i’ch priod neu bartner sifil. Bydd y swm penodol yn eich rheolau cynllun, ond yn aml mae’n hanner neu ddwy ran o dair o beth y buasech wedi’i gael yn oedran pensiwn.

Os oes gennych bartner ac nid ydych wedi priodi’n gyfreithiol neu mewn partneriaeth sifil efallai na fydd eich cynllun yn eu cydnabod hwy fel dibynnydd. Cysylltwch â’ch cynllun i ddarganfod mwy.

Aelodau gohiriedig

Os ydych yn aelod gohiriedig , yn aml mae gan eich dibynyddion llai o hawliau i fuddion nag os oeddech yn aelod gweithredol. Bydd hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun.

Weithiau dim ond ad-daliad o’r cyfraniadau rydych wedi’u talu heb log yn unig gaiff eich dibynyddion Mae’n rhaid i chi roi incwm ar gyfer eich priod neu bartner sifil os yw’r ddau o’r canlynol yn gymwys:

  • mae’r cynllun yn rhoi buddion yn lle Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Mae rhai cynlluniau yn fwy hael ac yn talu i fyny hyd at ddwy ran o dair o’ch pensiwn i’ch priod neu bartner sifil.

Os ydych yn marw cyn ymddeol – cynllun pwrcasu arian

Gyda chynlluniau pwrcasu arian, yn arferol mae’r rheolau'r un fath p’un ai rydych yn aelod gweithredol neu aelod gohiriedig.

Bydd eich cronfa bensiwn yn cael ei ad-dalu i’ch buddiolwr o ddewis neu eich ystâd. Os yw eich cynllun wedi’i eithrio allan o’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, yn arferol bydd rhywfaint o’r budd yn rhoi incwm i’ch priod neu bartner sifil.

Yn aml bydd cyfandaliad yn cael ei roi gan sicrwydd yswiriant hefyd. Mae cynlluniau yn amrywio yn eang felly dylech wirio gyda’ch gweinyddwr cynllun i ddarganfod yn union beth mae eich cynllun yn ei roi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU