Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ar fin ymddeol – beth sydd angen i chi ei wneud

Yn syth cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth mae camau y dylech eu cymryd. Cael gwybod sut i sicrhau eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau yr ydych yn gymwys iddynt.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu

Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. Gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod mwy.

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Pedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn derbyn llythyr gan y Gwasanaeth Pensiwn. Bydd y llythyr yn nodi'r dewisiadau sydd gennych o ran pryd i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich gwahodd i'w hawlio.

Cael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud os na fyddwch yn clywed dim tri mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Gweler ‘Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth’ am ragor o wybodaeth.

Hawlio'r Taliad Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni ar 5 Ionawr 1951 neu cyn hynny, efallai fod gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2012/13.

Gwneud cais am Gredyd Pensiwn os ydych chi ar incwm isel

Mae Credyd Pensiwn yn gwarantu i’r rheini sy’n byw ym Mhrydain Fawr, sydd wedi cyrraedd yr isafswm oedran cymhwyso, isafswm incwm wythnosol o:

  • £147.70 os ydych yn sengl
  • £217.90 os oes gennych bartner

Mae’n bosib y bydd y symiau hyn yn uwch os ydych yn ddifrifol anabl, yn ofalwr neu gennych gostau tai penodol. Y mae’r oedran y gallwch dderbyn Credyd Pensiwn yn newid. I gael gwybod os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Taliadau Tywydd Oer

Telir Taliadau Tywydd Oer yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol er mwyn helpu gyda’r costau gwresogi ychwanegol. Gwneir y taliadau’n awtomatig ac felly does dim angen i chi eu hawlio.

Budd-daliadau eraill y gallech chi fod â hawl iddynt

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai fod gennych hawl i fudd-daliadau eraill pan fyddwch yn ymddeol, megis Lwfans Gofalwr, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor.

Hysbysu eich Swyddfa Dreth

Mae angen i Gyllid a Thollau EM gwybod am eich incwm pan fyddwch yn ymddeol neu’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fel y gallant sicrhau eich bod:

  • yn derbyn y lwfansau di-dreth cywir
  • yn talu’r swm cywir o dreth
  • yn gorffen talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os ydych yn fenyw ac yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn eich pen-blwydd yn 65 oed, bydd hefyd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau beth yw eich incwm eto pan rydych yn 65.

Derbyn a llenwi ffurflen Cod ar Gyfer Pensiwn P161

Mae’n holl bwysig pan fyddwch yn derbyn eich ffurflen Lwfans Personol ar sail Oedran (P161), i’w llenwi a’i dychwelyd. Os na fyddwch yn ei dychwelyd, mae’n bosib y byddwch yn talu gormod o dreth. Fe allech dalu gormod o dreth ar eich incwm pensiwn, cynilion a llog.

Os nad ydych yn derbyn y ffurflen Lwfans Personol ar sail Oedran (P161) o fewn mis cyn cyrraedd eich penblwydd yn 65 oed, gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod. Gallwch lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd i’ch Swyddfa Dreth. Fel arall, gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Dreth a gofyn iddynt anfon un i chi.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Unwaith eich bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2 os ydych yn parhau i weithio. Bydd dim ond rhaid i chi eu talu ar unrhyw enillion a oedd yn ddyledus i’w talu i chi cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Fodd bynnag, os ydych yn hunangyflogedig mae’n bosib y bydd dal angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn oherwydd eu bod yn dâl blynyddol. Mae hyn yn golygu efallai y bydd dal yn rhaid i chi eu talu ar unrhyw elw trethadwy am y flwyddyn yr ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Eich pensiynau a threth

Telir Pensiwn y Wladwriaeth ichi heb i dreth gael ei didynnu, Ond gyda phensiynau eraill mae'r dreth wedi'i didynnu fel arfer cyn ichi eu derbyn. Dyna pam ei bod yn bwysig dweud wrth y Swyddfa Dreth faint yr ydych yn ei dderbyn gan bob pensiwn a phryd y dechreuodd y taliadau. Os ydych yn talu treth, bydd angen ichi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych yn talu treth efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus i chi ar bensiynau eraill.

Hunanasesiad a hawlio Credyd Pensiwn

Os ydych yn drethdalwr hunanasesiad ac yn ystyried hawlio Credyd Pensiwn, gweler ‘Incwm, budd-daliadau a Chredyd Pensiwn’ am ragor o wybodaeth.

Pensiynau cwmni a phensiynau personol

Bydd gan eich pensiwn cwmni neu bensiwn bersonol rheolau ynghylch pryd y gallwch ymddeol a chymryd eich pensiwn. Cysylltwch â gweinyddwyr eich pensiwn cwmni neu gwmni bersonol i gael gwybod pryd y gallwch gael eich pensiwn.

Olrhain cynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cwmni

Os ydych wedi colli manylion cyswllt eich cynllun pensiwn ac angen cymorth, mae’n bosib y bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn gallu cynorthwyo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU