Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei cyfrif fel incwm trethadwy ond fe'i telir i chi heb i'r dreth gael ei thynnu. Bydd sut y byddwch yn talu'r dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Os mae’ch incwm yn isel efallai na fydd treth i’w dalu – ac mae’n bosib y gallwch gael budd-daliadau eraill.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi talu, neu wedi’u credydu â nhw, yn ystod eich bywyd gweithio.
Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol rhagor, ond ni fyddwch o anghenraid yn peidio â thalu Treth Incwm. Os yw'ch incwm trethadwy - gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth - yn fwy na'ch lwfans di-dreth personol (sy'n dibynnu ar eich oed) rydych yn dal yn drethdalwr a rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM os nad ydych yn talu treth yn barod.
Cofiwch, mae’n bosib gall eich lwfans personol newid gydag oedran a’ch incwm. Os yw eich lwfansau di-dreth yr un fath neu'n fwy na'ch incwm trethadwy, does dim rhaid ichi wneud dim.
Os ydych yn credu na ddylech fod yn talu treth ond eich bod yn gwneud hynny, efallai y bydd modd i chi hawlio arian yn ôl.
Os ydych eisoes yn cael pensiwn arall
Os byddwch yn cael pensiwn arall (megis blwydd-dal ymddeol, pensiwn personol neu bensiwn cwmni) a'ch bod yn talu treth ar hyn, byddwch fel arfer yn talu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yr un pryd. Gwneir hyn drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill - bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth i bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn i ddangos iddynt faint o dreth i'w thynnu, gan gynnwys unrhyw dreth y mae angen ei thalu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallai hyn wneud i'r dreth ar eich pensiwn cwmni neu'ch pensiwn personol ymddangos yn uchel ond y rheswm am hynny yw ei fod yn cynnwys y dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Treth os mai Pensiwn y Wladwriaeth yn unig yr ydych yn ei gael
Mae’r modd yr ydych yn talu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar bu’nai eich bod yn gyflogedig ai peidio:
Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen SA1 i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn i chi allu cael ffurflen dreth.
Os caiff eich pensiwn ei drethu drwy eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn, byddwch yn cael Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill (ffurflen P2) gan Gyllid a Thollau EM o leiaf unwaith y flwyddyn yn dweud wrthych beth yw eich cod treth. Mae'n bwysig cymryd golwg ar hwn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn dangos y swm treth cywir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy.
Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM faint o bensiwn y wladwriaeth yr ydych yn ei dderbyn bob wythnos.
Os ydych yn meddwl eich bod yn talu gormod o dreth drwy eich pensiwn, neu na ddylech fod yn talu treth o gwbl, gallwch hawlio ad-daliad.