Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gronni eich hawl i dderbyn rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r math a'r lefel o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn y byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio, yn hunangyflogedig ac yn 16 oed a throsodd, gyhyd â bod eich enillion dros lefel arbennig. Byddwch yn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan gyrhaeddwch oed Ymddeol y Wladwriaeth. Ar hyn o bryd yr oed ymddeol yw 65 i ddynion a 60 i ferched, ond bydd yn codi'n raddol i 65 i ferched dros y cyfnod 2010 i 2020.
Eich rhif cyfrif personol chi yw eich rhif Yswiriant Gwladol . Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth a dalwch yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn gweithredu fel rhif cyfeirnod ar gyfer y system nawdd cymdeithasol gyfan.
Pwy sy'n defnyddio eich rhif Yswiriant Gwladol?
Rhaid i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i’r canlynol:
Bydd rhaid i chi hefyd darparu eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn agor Cyfrif Cynilo Cenedlaethol (ISA).
Mae hawl i nifer o fudd-daliadau'n dibynnu ar y cofnod o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, (gweler 'Budd-daliadau sy'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol ' isod) felly mae'n bwysig iawn eich bod chi’n cadw’ch rhif yn ddiogel ac nad ydych yn ei ddangos i neb sydd ddim ei angen. Bydd hyn yn atal twyll hunaniaeth.
Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol eisoes, rhaid i chi wneud cais am un:
I allu gwneud cais rhaid i chi fod:
Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad ac yn derbyn Budd-dal Plant, bydd unrhyw blant yr ydych yn gofalu amdanynt yn cael cerdyn yn dangos eu rhif Yswiriant Gwladol ychydig cyn iddynt gyrraedd 16 oed.
I wneud cais am rif Yswiriant Gwladol, bydd rhaid i chi ffonio llinell gymorth gwasanaeth dyrannu Yswiriant Gwladol y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643. Byddan nhw'n gweld a oes rhaid i chi gael rhif ac yn trefnu i chi gael cyfweliad 'profi pwy ydych chi'.
Cyfweliad 'profi pwy ydych chi'
Fel arfer, cyfweliad un-ac-un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau i chi am eich cefndir a'ch amgylchiadau.
Mae'n bosib y bydd y cyfwelydd hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais.
Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol
Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol, bydd dal rhaid i chi fynd i'r cyfweliad. mae'n bosib y gallwch chi brofi pwy ydych chi gyda'r wybodaeth rowch chi yn y cyfweliad.
Mae'r symiau a ganlyn yn berthnasol i'r flwyddyn dreth 2010-2011:
Os ydych yn gyflogedig
Bydd eich hawl i'r budd-daliadau canlynol a/neu'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol chi (neu gyfraniadau eich priod neu bartner sifil mewn rhai amgylchiadau):
Darparwyd gan HM Revenue and Customs