Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw syml i drethi

Mae Cyllid a Thollau EM yn casglu treth i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Bob blwyddyn bydd Cyllideb y Canghellor yn nodi cost darparu'r gwasanaethau hyn a faint o dreth sydd ei hangen i dalu amdanynt. Dyma'r prif drethi y bydd yn rhaid i unigolion eu talu: Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddu, Treth Stamp, Treth ar Werth a rhai tollau eraill.

Y gwahanol fathau o dreth

Treth Incwm ar enillion, pensiynau a budd-daliadau

Rydych yn talu Treth Incwm ar:

  • eich cyflog os ydych yn gyflogedig
  • yr elw o'ch busnes os ydych chi’n hunangyflogedig
  • eich Pensiwn gan y Wladwriaeth ac unrhyw bensiynau preifat neu bensiynau cwmni
  • rhai budd-daliadau megis y Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Gofalwr a'r Budd-dal Analluogrwydd

Yn ogystal â thalu Treth Incwm ar eich cyflog ac ar incwm o hunangyflogaeth, mae'n rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG).

Os ydych yn weithiwr, mae eich cyflogwr yn gweithredu PAYE (Talu Wrth Ennill) ac yn didynnu treth a chyfraniadau YG o'ch cyflog. Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gyfrifol am dalu eich treth a'ch cyfraniadau YG eich hun a llenwi eich ffurflen dreth Hunanasesu.

Treth Incwm ar gynilion a buddsoddiadau

Rydych yn talu Treth Incwm ar y rhan fwyaf o'r incwm a gewch o'ch cynilion a'ch buddsoddiadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • llog banc a chymdeithas adeiladu
  • difidendau o gyfranddaliadau
  • rhenti o unrhyw eiddo buddsoddi rydych yn berchen arno

Mae llog a difidendau banciau a chymdeithasau adeiladau yn cael eu 'trethu wrth y ffynhonnell' fel arfer (sy'n golygu bod treth yn cael ei didynnu cyn y caiff y llog a'r difidendau eu talu i chi).

Treth ar fathau penodol o drafodion

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth wrthi i chi brynu neu werthu pethau neu eu rhoi i ffwrdd, er enghraifft:

  • Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn gwerthu asedau neu eu rhoi i rywun
  • Treth Stamp pan fyddwch yn prynu eiddo neu gyfranddaliadau
  • Treth Etifeddu ar eich ystad pan fyddwch yn marw, gan gynnwys rhai rhoddion a wnaethpwyd hyd at saith mlynedd cyn hynny

I gael mwy o wybodaeth am y trethi hyn a'r gwahanol ffyrdd y byddwch yn eu talu, dilynwch y dolenni isod.

Treth ar nwyddau a gwasanaethau

Pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau, efallai y byddwch yn gorfod talu gwahanol drethi, megis:

  • Treth ar Werth (TAW) ar nifer o bryniannau cyffredin
  • Toll tanwydd ar betrol, diesel a LPG
  • Toll gartref (ecseis) ar alcohol a thybaco
  • Toll Hapchwarae cyffredinol

Defnyddir cyfraddau gwastad gyda threthi megis TAW a'r tollau ar danwydd, alcohol, tybaco a hapchwarae ac fe'u hychwanegir at y pris yr ydych yn ei dalu am y nwyddau a'r gwasanaethau.

Treth ar gyfer gwasanaethau lleol

Yn ogystal â thalu treth i dalu am wasanaethau lleol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Gyngor i helpu i dalu am wasanaethau lleol megis yr heddlu a'r gwasanaeth casglu sbwriel.

Bydd y swm o Dreth Gyngor y byddwch yn ei dalu'n dibynnu ar 'fand prisio' eich cartref a'r cyfraddau Treth Gyngor a bennir gan eich cyngor lleol.

I gael mwy o wybodaeth am y Dreth Gyngor a sut i'w thalu, dilynwch y ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU