Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth Enillion Cyfalaf

Treth ar 'enillion' cyfalaf yw'r Dreth Enillion Cyfalaf. Pan fyddwch yn gwerthu neu'n rhoi ased i ffwrdd, os bydd ei werth wedi codi, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar yr 'enillion' (elw). Nid yw hyn yn berthnasol pan fyddwch yn gwerthu eiddo personol gwerth £6,000 neu lai, neu yn y rhan fwyaf o achosion, eich prif gartref.

Pryd y bydd rhaid i mi dalu Treth Enillion Cyfalaf?

Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf, er enghraifft:

  • os byddwch yn gwerthu, yn rhoi, yn cyfnewid neu'n cael gwared (ddim yn berchen arno mwyach) ar ased, neu ran o ased
  • os byddwch yn derbyn arian o ased - er enghraifft iawndal am ased a ddifrodwyd

Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar:

  • eich car
  • eich prif gartref, gyhyd ag y bodlonir rhai amodau
  • ISAs a PEPs
  • giltiau (bondiau) Llywodraeth y DU
  • eiddo personol werth £6,000 neu lai pan fyddwch yn eu gwerthu
  • enillion betio, y loteri neu'r pyllau
  • arian sy'n ffurfio rhan o'ch incwm at ddibenion treth incwm

Dyma ambell bwynt i'w gofio:

  • os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda'ch gilydd, gallwch drosglwyddo asedau i'ch gŵr neu wraig neu bartner sifil heb orfod talu Treth Enillion Cyfalaf
  • allwch chi ddim rhoi asedau i'ch plant neu eraill na gwerthu asedau iddynt yn rhad heb orfod ystyried Treth Enillion Cyfalaf
  • os byddwch yn gwneud colled, efallai y gallwch wneud hawliad i ddidynnu'r golled honno o enillion eraill; ond dim ond os yw'r ased yn denu Treth Enillion Cyfalaf fel arfer - felly allwch chi ddim gosod colled yn sgîl gwerthu'ch car yn erbyn yr enillion a gafwyd o gael gwared ar asedau eraill
  • os bydd rhywun yn marw ac yn gadael eu heiddo i'w buddiolwyr, does dim Treth Enillion Cyfalaf i'w thalu yr adeg honno - fodd bynnag, os bydd buddiolwr yn cael gwared ar ased yn ddiweddarach, bydd unrhyw Treth Enillion Cyfalaf y bydd angen ei thalu o bosib yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad yr ased adeg y farwolaeth a'i werth adeg ei werthu

Sut y cyfrifir Treth Enillion Cyfalaf

Cyfrifir Treth Enillion Cyfalaf am bob blwyddyn dreth (sy'n mynd o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol). Caiff ei chodi ar eich holl enillion trethadwy, ar ôl ystyried:

  • rhai costau a gostyngiadau a all leihau neu ohirio enillion
  • colledion a ganiateir a wnaethpwyd gennych ar asedau y mae Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol iddynt fel arfer
  • y Swm Eithriedig (di-dreth) Blynyddol - sef £10,600 ar gyfer pob unigolyn yn y flwyddyn dreth 2011-12

Cyfradd Treth Enillion Cyfalaf

Ar gyfer 2011-12 bydd y cyfraddau Treth Enillion Cyfalaf yn gymwys:

  • 18 y cant a 28 y cant am unigolion (bydd y gyfradd a ddefnyddir yn dibynnu ar gyfanswm ei incwm trethadwy ac enillion)
  • 28 y cant am yr ymddiriedolaethau neu gynrychiolyddion personol
  • 10 y cant am enillion sy’n cymhwyso ar gyfer Rhyddhad Mentrwyr

Sut y byddwch yn talu Treth Enillion Cyfalaf

Yr ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf drwy’r system Hunanasesu. Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch rhoi gwybod am enillion neu golledion a chael ffurflen Hunanasesu.

Os ydych wedi derbyn ffurflen Hunanasesu treth incwm, dilynwch y canllawiau i benderfynu a oes angen i chi lenwi'r tudalennau enillion cyfalaf. Mae'r ffurflen yn dweud wrthych sut i gael y tudalennau hyn os oes eu hangen arnoch.

Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, ond am roi gwybod am enillion neu golledion, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU